Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mae benthyca, fel rydych newydd ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, bob amser yn dod gyda chost, ond rydym ar hyn o bryd ar gyfraddau llog isel iawn ac felly mae yn awr yn amser anhygoel o dda i fenthyca, yn enwedig os gallwch fenthyca ar gyfraddau sefydlog gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried benthyca ar gyfer ein rhaglen adnewyddu ysbytai i dorri costau ym maes iechyd ar gyfer cynnal rhai o'r adeiladau sydd ganddynt?