2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwerau benthyca newydd Llywodraeth Cymru? OAQ51753
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae'r fframwaith cyllidol newydd yn sicrhau gwerth £1 biliwn o bwerau benthyca cyfalaf, fel rwyf wedi'i nodi gerbron y Pwyllgor Cyllid ac yn y Siambr hon. Fy mwriad bob tro yw manteisio i'r eithaf ar y mathau rhataf o gyfalaf cyn bwrw ymlaen i ddefnyddio mathau mwy cymhleth a chostus o fuddsoddiad.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r pwerau benthyca newydd sydd, fel y dywedwch, yn werth hyd at £1 biliwn, dan Ddeddf Cymru 2017, a fydd yn dod i rym mewn mater o wythnosau. Nawr, mae'n hanfodol wrth gwrs fod yr arian a'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio i hybu economi Cymru, ac yng ngogledd Cymru yn enwedig, mae hyn yn golygu sicrhau bod amseroedd teithio'n gyflymach ac yn fwy dibynadwy, yn enwedig o ran uwchraddio'r A55. A allwch fy nghynghori ynglŷn â pha sicrwydd rydych yn bwriadu ei roi i'r comisiwn seilwaith cenedlaethol arfaethedig o ran eich ymrwymiadau i ddefnyddio'r pwerau benthyca ychwanegol i sicrhau bod mynediad at arian o'r fath yn cael ei ystyried fel rhan o'r cynlluniau seilwaith hirdymor a mawr eu hangen hyn yng Nghymru?
Rwy’n rhannu croeso'r Aelod i’r pwerau benthyca a fydd gennym. Fel y byddai hi’n ei nodi, mae’n rhaid ad-dalu arian a fenthycwyd. Felly, mae angen sicrhau cydbwysedd gofalus wrth fuddsoddi heddiw a bod yn hyderus y gallwn ad-dalu'r arian rydym wedi'i fenthyca yn y dyfodol. Ond rwy'n ei ystyried, fel yr oedd hi'n ei awgrymu rwy'n credu, yn fuddsoddiad yn nyfodol ein gwlad a'i llwyddiant economaidd. Rwyf wedi gwrando arni droeon yn dadlau dros fuddsoddi mewn materion trafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Gwn y bydd hi wedi croesawu'r £250 miliwn y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i'w ddefnyddio i fynd i'r afael â thagfeydd ar goridor Glannau Dyfrdwy, ac mae camau eraill y mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a buddsoddi, yn eu cymryd i wneud yn siŵr fod yr A55 yn parhau i fod yn briffordd sy'n sbarduno ffyniant ar draws gogledd Cymru.
Mae benthyca, fel rydych newydd ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, bob amser yn dod gyda chost, ond rydym ar hyn o bryd ar gyfraddau llog isel iawn ac felly mae yn awr yn amser anhygoel o dda i fenthyca, yn enwedig os gallwch fenthyca ar gyfraddau sefydlog gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried benthyca ar gyfer ein rhaglen adnewyddu ysbytai i dorri costau ym maes iechyd ar gyfer cynnal rhai o'r adeiladau sydd ganddynt?
Wel, Lywydd, un o'r pethau sy'n amlwg o'r cwestiynau rydym wedi'u cael y prynhawn yma yw'r ddealltwriaeth fod y benthyca rydym yn gallu ei wneud yn awr ar gael ar gyfer amrywiaeth o ddibenion posibl yma yng Nghymru. Gwn y bydd fy nghyd-Aelodau Cabinet yn dod ataf, bob un ohonynt, gyda chynlluniau gwerth chweil y maent eisiau bwrw ymlaen â hwy a buddsoddi ynddynt—seilwaith hanfodol a gwasanaethau cyhoeddus ac iechyd. Bydd y gallu i greu adeiladau yn y dyfodol sy’n gweithredu’n fwy effeithlon, rwy'n siŵr, ar y rhestr o argymhellion y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd eisiau ei chynnig i mi.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.