Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mae sicrhau bod seilwaith trafnidiaeth sy'n caniatáu i bobl a busnesau symud yn effeithiol ledled Cymru yn bwysig i'n dyfodol, wrth gwrs, ac dyna sydd wrth wraidd yr ymchwiliad cyhoeddus. Ai'r ateb o reidrwydd bob amser yw adeiladu mwy o ffyrdd? Wel, nid o reidrwydd wrth gwrs. Dyna pam rydym yn buddsoddi yn y metro, y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato. Felly, mae'r mater, wrth gwrs, yn un rydym yn ei gydnabod. Bydd yr atebion iddo yn lluosog ac yn amrywiol.