Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r pwerau benthyca newydd sydd, fel y dywedwch, yn werth hyd at £1 biliwn, dan Ddeddf Cymru 2017, a fydd yn dod i rym mewn mater o wythnosau. Nawr, mae'n hanfodol wrth gwrs fod yr arian a'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio i hybu economi Cymru, ac yng ngogledd Cymru yn enwedig, mae hyn yn golygu sicrhau bod amseroedd teithio'n gyflymach ac yn fwy dibynadwy, yn enwedig o ran uwchraddio'r A55. A allwch fy nghynghori ynglŷn â pha sicrwydd rydych yn bwriadu ei roi i'r comisiwn seilwaith cenedlaethol arfaethedig o ran eich ymrwymiadau i ddefnyddio'r pwerau benthyca ychwanegol i sicrhau bod mynediad at arian o'r fath yn cael ei ystyried fel rhan o'r cynlluniau seilwaith hirdymor a mawr eu hangen hyn yng Nghymru?