Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch, Simon. Cafodd bywyd y person ifanc hwn ei golli o dan yr amgylchiadau mwyaf trychinebus ac rwy'n credu y bydd cyhoeddi'r adolygiad yn amser anodd i'w deulu. Fel hwy, rydym yn disgwyl y bydd Powys yn cyflymu'r gwelliannau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gofal a'r cymorth gorau'n cael eu darparu bob amser.