Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ac yn amlwg byddai pob un ohonom eisiau anfon ein cydymdeimlad at y rhieni maeth ac unrhyw un arall a gafodd eu heffeithio gan hyn. Mae'n amlwg o ddarllen adroddiad yr adolygiad ymarfer plant fod y plentyn wedi mynegi pryderon ac ansicrwydd mawr iawn ynglŷn â’i lwybr, ac un o'r pethau mwyaf sylfaenol ac annymunol i'w darllen yn yr adroddiad yw'r methiant i gyfathrebu rhwng plentyn, ei ofalwyr maeth a'r awdurdodau, nad oeddent, yn syml iawn, yn gwrando.
Os caf ofyn dau gwestiwn i'r Gweinidog. Yn gynharach y bore yma, cynhyrchodd ddatganiad ysgrifenedig ar wasanaethau plant ym Mhowys, a soniai am barhau i weithio gyda'r cyngor sir. Hoffwn ddeall a yw wedi ystyried adroddiad yr adolygiad wrth gyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig hwnnw, gan fod llawer o bobl ym Mhowys yn teimlo bod hwn yn arwydd arall fod pethau wedi dirywio i'r fath raddau yno fel bod angen ymyrraeth fwy uniongyrchol nag y mae'r Gweinidog wedi bod yn barod i'w wneud hyd yn hyn mewn gwirionedd, a gwn fy mod wedi trafod hyn gydag ef yn y gorffennol.
Yr ail elfen yr hoffwn ei holi amdani yw'r ffaith ei bod yn amlwg o ddarllen yr adroddiad fod y canllawiau ymarfer cenedlaethol sydd ganddo fel y Llywodraeth genedlaethol, 'Pan Fydda i'n Barod', sy'n sôn yn glir iawn am ganiatáu i rai pobl gymwys yn eu harddegau aros mewn gofal y tu hwnt i 18 oed os nad ydynt yn barod i adael gofal, ac sy'n sôn yn glir am eu rhoi yng nghanol cynlluniau gofal—ni chafodd y canllawiau arfer da eu dilyn yn yr achos hwn; ni roddwyd unrhyw ofal dyledus. Felly, pa sicrwydd y gall ei roi i bobl Powys yn awr ac i'r gymuned ehangach fod y canllawiau hyn, y cyhoeddwyd gennym eu bod ymysg canllawiau gorau’r byd ar gyfer plant mewn gofal, yn cael eu dilyn ym mhob rhan o Gymru mewn gwirionedd, yn enwedig ym Mhowys? Sut y gall roi sicrwydd o'r fath yn y dyfodol?