Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 14 Chwefror 2018.
Joyce, diolch yn fawr iawn. Rwy'n meddwl y byddai unrhyw Weinidog sy'n sefyll yn y fan hon ac yn dweud, 'Gallwn ddiystyru y bydd unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto', yn Weinidog annoeth. Ond mae yn ein gallu, drwy'r negeseuon rydym newydd eu clywed, drwy'r fframweithiau rydym wedi'u gosod—a chofiwch ein bod yng Nghymru ar y blaen mewn rhai ffyrdd yma, oherwydd y modd rydym wedi mynd ati i ddiogelu gyda'r bwrdd cenedlaethol, gyda'r byrddau rhanbarthol, y fframwaith hwnnw o ddiogelu, gyda rhai o'r mentrau y soniwyd amdanynt a ddylai fod wedi'u hymgorffori yma mewn gwirionedd, a ddylai fod wedi'u cyflawni ar lawr gwlad. Gwrando ar bobl ifanc yw'r hyn a wnawn, dyna y mae—. Dyna'r fframwaith a roesom ar waith.
Ond rwy'n gobeithio y bydd pryderon Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr heddiw, wedi eu clywed ym Mhowys, ond hoffwn hefyd iddynt glywed nid yn unig staff rheng flaen da, ond hefyd y newidiadau y maent wedi bod yn eu rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf oherwydd parodrwydd y Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon i ymateb i'r her, gan annog, ond hefyd gan ddweud bod yna fesur wrth gefn yma os nad yw pethau'n gwella—y byddant yn gwella, ac rydym yn eu gweld yn digwydd ar lawr gwlad ym Mhowys yn awr.
Mae eich pwynt yn un da hefyd na ddylai'r gwersi o'r adolygiad ymarfer plant hwn, fel ar gyfer unrhyw adolygiad ymarfer plant, fod ar gyfer Powys yn unig, y dylent fod ar gyfer pawb, a dyna beth fydd yn mynd allan. Dyna'r neges o'r fan hon. Bydd yr adolygiad ymarfer plant hwn yn cael ei ledaenu nid yn unig ar draws y rhanbarth hwnnw, ond drwy'r bwrdd diogelu cenedlaethol, ar draws Cymru yn ogystal. Mae angen inni gadw'r ffocws ar ragoriaeth o fewn y gwasanaeth hwn, gwrando ar bobl ifanc, rhoi'r hyn y maent yn ei haeddu iddynt a'r hyn y maent ei angen a gwrando arnynt er mwyn gwneud hynny. Mae wedi methu ar y pwynt hwn. Mae'n drasiedi ei fod wedi methu, ac rwy'n meddwl bod lleisiau Aelodau'r Cynulliad heddiw yn dweud bod rhaid inni wneud popeth a allwn i arbed hyn rhag digwydd eto a'i fod o fewn ein pŵer ac annog y rheini sy'n gweithio ar y rheng flaen i gael yr hyder a'r sgiliau a'r wybodaeth i wneud y penderfyniadau cywir ac i ymgysylltu â phobl ifanc—credaf fod hynny wedi cael ei gyfleu'n gryf iawn y prynhawn yma.