Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 14 Chwefror 2018.
Gellir rhannu ffyrdd heb eu mabwysiadu yn dri chategori: ffyrdd heb wyneb arnynt—rwy'n credu bod Dai Lloyd wedi sôn yn fanwl iawn am y rheini—ffyrdd preifat â mynediad cyhoeddus y mae'r trigolion lleol wedi rhoi wyneb arnynt, ac mae'n debygol iawn nad yw pobl yn gwybod eu bod yn ffyrdd heb eu mabwysiadu; a'r hyn rwyf am ganolbwyntio arno yw ffyrdd mewn ystadau newydd nad ydynt wedi cael eu hadeiladu i safon a fyddai'n caniatáu i'r cyngor eu mabwysiadu, ac mae llawer o'r rheini'n digwydd ar hyn o bryd. Gwn fod Dai Lloyd wedi sôn am adeiladwyr yn mynd yn fethdalwyr; gwneir rhywfaint o hyn gan rai o'r adeiladwyr mwyaf ym Mhrydain. Maent yn adeiladu ystadau, ac nid ydynt yn eu hadeiladu i safon ddigon da o bell ffordd. Mae gennyf ystâd fawr a chymharol gefnog ger lle rwy'n byw, a bydd Dai Lloyd yn gwybod amdani, sef ystâd Ffordd Herbert Thomas, a arferai gael ei galw'n Brynheulog, lle mae llawer o ffyrdd heb eu mabwysiadu. Rwy'n siŵr fod Dai Lloyd wedi cael llawer o lythyrau gan y trigolion ac wedi bod yn siarad â chymdeithas y trigolion. Rwyf i wedi gwneud hynny, ac rwy'n siŵr eu bod wedi cysylltu â'r Gweinidog hefyd. Rwyf am ganolbwyntio ar y grŵp hwn.
Bydd ffordd newydd yn cael ei hystyried gan y cyngor ar gyfer ei mabwysiadu ar yr amod fod rhyddeiliaid y tir yn pennu bod y ffordd yn briffordd gyhoeddus pan gaiff ei hadeiladu, o dan gytundeb adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980, a bod y meini prawf canlynol wedi'u bodloni: mae cyswllt uniongyrchol â'r rhwydwaith priffyrdd cyhoeddus cyfredol; mae'n rhaid ei bod o ddefnydd digonol i'r cyhoedd ac yn cynnig manteision cymunedol ehangach; bydd defnydd ehangach i'r ffyrdd a gynigir ar gyfer eu mabwysiadu na darparu mynediad at eu tai i unigolion yn unig; bydd y ffordd yn aros ar agor i'r cyhoedd fynd ar hyd-ddi bob amser pan gaiff ei mabwysiadu'n ffurfiol; gall cerddwyr a beiciau basio ar hyd y gerbytffordd a'r llwybrau troed yn ddiogel. A dyna'r darn hawdd. Os mai dyna fyddai'r ateb, ni fyddai unrhyw broblem o gwbl, ond y rhan nesaf yw'r darn sy'n eu rhwydo: mae dull cymeradwy o ddraenio dŵr wyneb oddi ar y gerbytffordd a llwybrau troed, rhaid i oleuadau stryd gydymffurfio â gofynion lleol presennol a safonau cenedlaethol, ac mae'r ffordd wedi'i hadeiladu i safon foddhaol. Ac rwy'n dweud wrthych, ni fuaswn yn gwybod, wrth gerdded ar hyd y ffordd, pa mor drwchus yw'r tarmac arni. Os gwelaf darmac arni, rwy'n cymryd ei bod hi'n iawn. Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl eraill nad ydynt yn beirianwyr sifil yn teimlo yr un fath yn union. A thelir symiau cynhaliaeth ohiriedig parhaus.
Ar gyfer pob ffordd a gynigir ar gyfer ei mabwysiadu, rhaid i'r datblygwyr sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd â'r meini prawf uchod cyn ymgynghori â'r cynghorau. Nid yw cynghorau'n mabwysiadu pob ffordd newydd a adeiladir gan ddatblygwyr tai. Gall datblygwyr tai ddewis cadw eu ffyrdd newydd yn breifat os nad yw'r ffyrdd yn bodloni'r meini prawf uchod. Mae preswylwyr yn gweld ffordd darmac newydd ac yn credu y caiff ei mabwysiadu. Pam na fyddent? Fe fuaswn i. Nid ydynt yn gwybod a yw'r draeniad yn bodloni'r gofynion ai peidio. Nid ydynt yn gwybod a yw pyst goleuadau o'r uchder cywir yn y lleoedd cywir, gyda bylbiau o'r maint cywir, yn gallu dal bylbiau o'r maint cywir, yn effeithiol o ran trydan. Sut y byddent yn gwybod hynny? Ac nid oes ganddynt unrhyw syniad beth yw is-adeiledd y ffordd. Ni fydd llawer o drigolion ar ystadau newydd yn dod i wybod nad yw eu ffordd wedi'i mabwysiadu gan y cyngor hyd nes y bydd problem yn digwydd.
Yn aml, mae goleuadau stryd yn torri a byddant yn mynd yn syth at y cyngor a fydd yn dweud wrthynt, 'Nid ein cyfrifoldeb ydyw.' Dyma pryd y bydd trigolion dig yn cysylltu â'u cynghorwyr lleol yn gyntaf, yna eu Haelod Cynulliad ac ASau lleol. Mae hon yn dod yn fwy o broblem gan nad yw adeiladwyr tai mawr yn adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy. Rhaid mynd i'r afael â hyn. Mae arnaf ofn fod angen deddfwriaeth. Pan gyflwynir deddf cynllunio newydd, mae angen iddi ganiatáu i gynghorau osod amod cynllunio y bydd yr holl ffyrdd yn cael eu hadeiladu i safonau mabwysiadwy ac y bydd ffyrdd yn cael eu hadeiladu i safon o dan gytundeb adran 38. Nid wyf yn credu bod pobl sy'n prynu tŷ ar ystâd newydd eisiau ffyrdd heb eu mabwysiadu. Yn wir, yn fy mhrofiad i, maent yn awyddus iawn i gael eu ffyrdd wedi'u mabwysiadu. Pam y byddent eisiau ffordd heb ei mabwysiadu? Pam y byddent eisiau ffordd lle maent yn gyfrifol am ei chynnal a'i chadw? Buaswn yn awgrymu na fyddai unrhyw berson synhwyrol eisiau prynu tŷ newydd ac yna edrych ar ôl y ffordd eu hunain. Os nad am unrhyw reswm arall, mae'n lleihau gwerth eiddo o'i ailwerthu.
Mae bob amser yn fy rhyfeddu, y gall cynllunwyr osod amodau'n nodi lliw brics, lliw fframiau ffenestri, ond ni allant bennu bod rhaid adeiladu'r ffordd i safonau mabwysiadwy. Rwy'n dweud wrthych yn awr, byddai'r rhan fwyaf o bobl sy'n prynu tŷ yn rhoi blaenoriaeth i ffordd o safon fabwysiadwy yn hytrach na lliw brics neu liw ffenestri. Mae hwn yn fater sy'n peri pryder i lawer o bobl. Pan fydd ffordd heb ei mabwysiadu, rhaid mynd drwy broses weddol hir i'w chael wedi'i mabwysiadu. Cynorthwyais etholwr i gael Bishop's Walk yn Nhreforys wedi'i mabwysiadu, a'r unig reswm y cafodd y gwaith ei gwblhau oedd oherwydd bod un preswylydd yn barod i arwain ar hynny a gwneud y gwaith—gweithio gyda'r cyfreithiwr, ac yn bwysicach, sefydlu cwmni. Hynny yw, mae'n broses hir. Nid, 'Annwyl Syr, os gwelwch yn dda a wnewch chi fabwysiadu ein ffordd?' yw hi. Mae'n broses eithaf hir, ac fe weithiodd yr holl breswylwyr gyda'i gilydd a chefnogi'r gwaith. Pe bai un preswylydd wedi gwrthwynebu, ni fyddai wedi cael ei mabwysiadu. Pe bai un preswylydd wedi bod yn amharod i dalu unrhyw ran o'r arian roedd ei angen, ni fyddai wedi'i mabwysiadu.
Dylai pob ystâd newydd gael ffyrdd wedi'u hadeiladu i safonau mabwysiadwy. Gan nad yw'r datblygwyr yn ei wneud o'u gwirfodd, buaswn yn annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth ddifrifol i ddeddfu, fel rhan o'r Bil cynllunio newydd, er mwyn sicrhau bod yr holl ffyrdd a adeiladir yn cyrraedd safonau mabwysiadwy.