– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ac rydw i'n galw ar Dai Lloyd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6635 Dai Lloyd, David Melding, Nick Ramsay, Mike Hedges
Cefnogwyd gan Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nifer y ffyrdd yng Nghymru sydd heb eu mabwysiadu, ac felly nad ydynt yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol perthnasol.
2. Yn nodi bod nifer o ddatblygwyr heb adeiladu ffyrdd ar ystadau newydd i safonau mabwysiadwy.
3. Yn cydnabod bod gwendidau yn y broses o brynu tai nad yw bob amser yn sicrhau bod gan brynwyr symiau dargadw ariannol digonol yn eu lle i ddod â'r ffyrdd hyn at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol.
4. Yn cydnabod bod y prynwyr tai hynny yn aml yn wynebu gorfod buddsoddi symiau sylweddol o arian er mwyn dod â ffyrdd at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol.
5. Yn nodi bod nifer o'r ffyrdd hyn yn parhau i fod heb eu mabwysiadu ac mewn cyflwr gwael, am nifer o flynyddoedd, weithiau yn fytholbarhaus.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu, i gynnwys awdurdodau lleol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gyda golwg ar ddatblygu gwelliannau i'r broses o brynu tai a mabwysiadu ffyrdd.
7. Yn ceisio datblygu rhaglen Cymru gyfan i sicrhau gostyngiad yn nifer y ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac rydw i'n falch o agor y ddadl yma ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.
Nawr, yn dilyn fy etholiad i Gyngor Sir Abertawe yn 1998, un o'r darnau cyntaf o waith achos y gwnes i eu derbyn oedd un yn ymwneud â heol oedd heb ei mabwysiadu, ym mhentref Waunarlwydd. Roedd y ffordd dan sylw yn llawn tyllau, yn anwastad, yn peri risg iechyd a diogelwch i'r rheini a oedd yn ei defnyddio, ac, yn y pen draw, yn tynnu oddi wrth harddwch yr ardal leol. Roedd y ffordd heb ei mabwysiadu ers degawdau, a byddai cerddwyr a cherbydau yn wynebu amser anodd wrth iddynt geisio symud ar ei hyd. Roedd y trigolion lleol ac ymwelwyr yn gwbl anfodlon, ac, 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ffordd yn parhau heb ei mabwysiadu, ac maent yn parhau i fod yn anfodlon.
Nid yw'r ffordd yn Waunarlwydd, wrth gwrs, yn enghraifft unigryw. Trwy Gymru gyfan, ym mhob etholaeth, gwelwn enghraifft ar ôl enghraifft o'r ffyrdd hyn. Mae rhai o'r ffyrdd hyn yn hynafol, ac mae perchnogaeth o'r ffyrdd hŷn yn aml yn anhysbys. Yng Nghymru, gwelwyd llawer o'r ffyrdd yma yn cael eu datblygu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddarparwyd tir ar gyfer bythynnod glowyr o ystadau'r aristocratiaeth glo. Tai teras a adeiladwyd yn aml, gyda’r seilwaith lleiaf posib. Gyda gwladoli'r diwydiant, gwerthwyd rhai tai i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, ond nid oedd yr hyn a ddigwyddodd i'r tir rhyngddynt yn glir.
Pan ddinistriwyd y diwydiant glo yn y 1980au, daeth y materion perchnogaeth tir yma hyd yn oed yn fwy aneglur. Yn aml heb unrhyw oleuadau stryd, dim draeniad a dim wyneb ar y ffordd, mae'r ffyrdd hyn yn troi’n ardaloedd anhygyrch i drigolion oedrannus, yn enwedig yn ystod y nosweithiau a misoedd y gaeaf. Maen nhw hefyd yn anaddas ar gyfer plant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig—ddim yn lle ar gyfer beic neu fwrdd sglefrio, neu'n lle diogel i gicio pêl. Yn ychwanegol i hyn, mae'r ffyrdd hyn hefyd yn gallu bod yn hollol anaddas ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys, fel ambiwlans neu injan dân, ac yn gallu creu straen ychwanegol wrth i’r gwasanaethau brys drial ymateb i argyfwng. Oherwydd eu cyflwr gwael, maent yn aml yn arwain at lefelau sylweddol o lythyrau, negeseuon e-bost a chysylltiadau ffôn rhwng trigolion a chynghorau sir ledled Cymru, yn aml yn mynd rownd mewn cylchoedd, a'r problemau yn parhau.
Cyfrifoldeb perchennog y ffordd, os gellir eu canfod, yw ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, neu drigolion eiddo sy'n edrych dros y ffordd sydd heb ei mabwysiadu, yn aml heb unrhyw gymorth gan yr awdurdod lleol hyd yn oed os ydynt yn talu'r dreth gyngor lawn. Wrth gwrs, gellir mabwysiadu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, ar anogaeth naill ai awdurdod lleol neu'r ffryntiadau, ond fel arfer byddai awdurdodau lleol yn disgwyl i'r ffordd fod o safon briodol cyn y gellir ei mabwysiadu. O dan adran 236 o Ddeddf Priffyrdd 1980, caniateir i'r awdurdod lleol, er nad yw'n orfodol, i dalu rhywfaint neu'r cyfan o'r gost o wella ffordd i safon fabwysiadwy. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw mai anaml y bydd awdurdodau lleol yn cychwyn y broses, ac yn yr amseroedd hyn o gyni ariannol, fe'i gwelir fel rhwymedigaeth y gallant wneud hebddi. Nid yw union faint y broblem yn hysbys mewn gwirionedd. Er ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 gynnal cofrestr o ffyrdd y maent yn gyfrifol amdanynt, nid oes gofyniad o'r fath i gadw cofrestr o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn eu hardaloedd. Felly, mae'n anodd mesur maint y problemau. Daw'r data a ddyfynnir yn aml o nodyn llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn 2010 ar ffyrdd heb eu mabwysiadu, sy'n datgan bod arolwg gan yr Adran Drafnidiaeth yn 1972 wedi canfod bod tua 40,000 o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr, sef tua 4,000 o milltir o ffyrdd ar y pryd. Nid y ffyrdd yn unig sydd wedi'u hesgeuluso, ond yr ystadegau hefyd.
Yn 2009, roedd Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y byddai'n costio £3 biliwn i sicrhau bod y ffyrdd hyn yn cyrraedd safonau mabwysiadwy. Yn ogystal â'r ffyrdd heb eu mabwysiadu hanesyddol hyn a archwiliwyd yn 1972, y realiti yw ein bod wedi gweld nifer sylweddol o ystadau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, a gallwn oll gyfeirio at enghreifftiau yn ein hardaloedd lle mae datblygwyr naill ai wedi penderfynu peidio â chyflwyno ffyrdd i'w mabwysiadu, neu wedi mynd yn fethdalwyr, a lle mae'r ffyrdd dan sylw yn dal heb eu mabwysiadu am flynyddoedd bwygilydd ac yn aml mewn cyflwr gwael.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Mae gennyf yr ystadegau hynny o fy mlaen i hefyd, Dai Lloyd, ac fel y dywedwch, mae 1972 yn mynd yn ôl—wel, dyna pa bryd yr ymunasom â'r Undeb Ewropeaidd, onid e, neu tua'r adeg honno. A wnewch chi ategu fy ngalwad ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau'n gyfredol fel y byddwn yn gwybod beth sy'n ein hwynebu yn y sefyllfa hon, ac yna gallwn symud ymlaen a chael trefn ar y ffyrdd hyn?
Yn hollol. Roeddwn yn dod at hynny fel rhan o'r alwad am dasglu yn nes ymlaen. Mae angen inni wybod yn union lle rydym arni yn awr. Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer yr ystadau newydd sy'n cael eu datblygu gydag aelwydydd wedyn yn ddarostyngedig i ffioedd rheoli blynyddol, weithiau'n gannoedd o filoedd o bunnoedd y flwyddyn ar ben eu biliau treth gyngor. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod nifer y ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru ar gynnydd. Efallai na allem roi ffigur cenedlaethol arno—rwy'n siŵr ein bod yn gweithio arno—ond gallwn i gyd weld y realiti ar lawr gwlad.
Gan na all preswylwyr droi at yr awdurdod lleol i gynnal eu ffyrdd, rhaid iddynt wneud hynny eu hunain. Bydd trigolion weithiau'n ffurfio cymdeithas, yn casglu cyfraniadau, yn trefnu gwaith cynnal a chadw ac yn ymdrin â materion eraill megis yswiriant, parcio, trin coed, hawliau tramwy ac ati. Daw hyn â straen i brynwyr tai, trigolion lleol a chynrychiolwyr lleol, sy'n aml yn arwain at anghytundeb, tensiynau yn y gymuned, costau cyfreithiol a llawer o amser swyddogion awdurdodau lleol yn cael ei wastraffu'n mynd dros yr un dadleuon flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rhaid bod ffordd well, ffordd symlach, ffordd decach.
Mae mater cyngor cyfreithiol yn un agwedd sy'n codi dro ar ôl tro. Clywn am enghreifftiau o ystadau tai newydd yn cael eu hadeiladu, y datblygwr yn mynd i ddwylo'r derbynnydd a'r trigolion yn cael eu gadael i dalu'r bil er mwyn gwella'r ffordd i safon fabwysiadwy. Yn aml iawn, mae'r symiau y mae'r cyfreithwyr wedi'u cadw at y diben hwn yn gwbl annigonol—ychydig gannoedd o bunnoedd yn unig, lle mae'r gost wirioneddol ar gyfer sicrhau bod y system garthffosiaeth, y ffyrdd a goleuadau yn cyrraedd safonau mabwysiadwy yn filoedd o bunnoedd. I lawer o deuluoedd ar incwm isel sydd wedi gwario'u cynilion ar brynu eu cartref cyntaf, dyma draul na allant ei dalu. Mae'n annheg, ac mae'n greulon. Pa gyngor sydd ar gael i gyfreithwyr i'w helpu i neilltuo lefelau digonol o symiau dargadw? Beth yn fwy y gall awdurdodau lleol ei wneud i wella'r sefyllfa? Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r proffesiwn cyfreithiol a chreu system deg a chyson yng Nghymru? Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y maes hwn o'r gyfraith yn cynhyrchu nifer fawr o ymholiadau gan etholwyr. Mae mabwysiadu ffyrdd yn fater datganoledig, felly mae gennym bŵer i sicrhau newid.
Mae angen inni ofyn rhai cwestiynau go sylfaenol i ni ein hunain y prynhawn yma. A ydym yn credu bod y sefyllfa bresennol yn annerbyniol? A ydym yn credu y gallwn ddatblygu system well? A ydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi camau ar waith i fynd i'r afael â'r broblem? Yr ateb i'r cwestiynau hynny, yn fy marn i, yw 'ydym', 'ydym' ac 'ydym'.
Felly, beth allwn ni ei wneud? A oes lle i newid deddfwriaeth i sicrhau bod mwy o ffyrdd yn cael eu mabwysiadu? A allwn ni edrych i sefydlu mecanweithiau cyllidol cenedlaethol, rhanbarthol neu leol a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol fabwysiadu ffyrdd? Beth am atebion ariannol arloesol—benthyciadau llog am ddim i breswylwyr sydd am fabwysiadu ffyrdd, sy'n daladwy dros y tymor hir, efallai? A oes lle i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n caniatáu i dir gerllaw’r ffyrdd yma gael ei werthu, gyda'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddod â’r ffyrdd hyn nôl at safonau mabwysiadu? A oes dyletswyddau ychwanegol y gellir eu rhoi ar awdurdodau lleol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â'r mater yma? A allwn ni ddatblygu cynllun hirdymor, dros nifer o flynyddoedd, i leihau a dileu nifer y ffyrdd sydd eto heb eu mabwysiadu? Rydw i’n credu ei bod hi’n hollbwysig ein bod ni’n mynd i’r afael â’r broblem yma, un sy’n wynebu trethdalwyr a thrigolion mewn nifer o’n cymunedau ni. Mae’r trigolion hynny yn haeddu cefnogaeth, nid difaterwch.
Mae’r cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu tasglu, i gynnwys awdurdodau lleol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, yn cynnwys y bobl sy'n gallu cyfri faint o'r ffyrdd yma sydd heb eu mabwysiadu yn ein gwlad, gyda'r bwriad o ddatblygu gwelliannau i'r broses prynu tai a mabwysiadu ffyrdd. Rwy’n ffyddiog, trwy gyd-weithio, y gall y Cynulliad yma ddangos arweiniad clir ar y mater a datblygu rhaglen a fydd yn lleihau nifer y ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yma yng Nghymru. Mae rhaid i ni ddatblygu system sy’n well, system sydd yn symlach, a system sydd yn decach. Diolch yn fawr.
Gellir rhannu ffyrdd heb eu mabwysiadu yn dri chategori: ffyrdd heb wyneb arnynt—rwy'n credu bod Dai Lloyd wedi sôn yn fanwl iawn am y rheini—ffyrdd preifat â mynediad cyhoeddus y mae'r trigolion lleol wedi rhoi wyneb arnynt, ac mae'n debygol iawn nad yw pobl yn gwybod eu bod yn ffyrdd heb eu mabwysiadu; a'r hyn rwyf am ganolbwyntio arno yw ffyrdd mewn ystadau newydd nad ydynt wedi cael eu hadeiladu i safon a fyddai'n caniatáu i'r cyngor eu mabwysiadu, ac mae llawer o'r rheini'n digwydd ar hyn o bryd. Gwn fod Dai Lloyd wedi sôn am adeiladwyr yn mynd yn fethdalwyr; gwneir rhywfaint o hyn gan rai o'r adeiladwyr mwyaf ym Mhrydain. Maent yn adeiladu ystadau, ac nid ydynt yn eu hadeiladu i safon ddigon da o bell ffordd. Mae gennyf ystâd fawr a chymharol gefnog ger lle rwy'n byw, a bydd Dai Lloyd yn gwybod amdani, sef ystâd Ffordd Herbert Thomas, a arferai gael ei galw'n Brynheulog, lle mae llawer o ffyrdd heb eu mabwysiadu. Rwy'n siŵr fod Dai Lloyd wedi cael llawer o lythyrau gan y trigolion ac wedi bod yn siarad â chymdeithas y trigolion. Rwyf i wedi gwneud hynny, ac rwy'n siŵr eu bod wedi cysylltu â'r Gweinidog hefyd. Rwyf am ganolbwyntio ar y grŵp hwn.
Bydd ffordd newydd yn cael ei hystyried gan y cyngor ar gyfer ei mabwysiadu ar yr amod fod rhyddeiliaid y tir yn pennu bod y ffordd yn briffordd gyhoeddus pan gaiff ei hadeiladu, o dan gytundeb adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980, a bod y meini prawf canlynol wedi'u bodloni: mae cyswllt uniongyrchol â'r rhwydwaith priffyrdd cyhoeddus cyfredol; mae'n rhaid ei bod o ddefnydd digonol i'r cyhoedd ac yn cynnig manteision cymunedol ehangach; bydd defnydd ehangach i'r ffyrdd a gynigir ar gyfer eu mabwysiadu na darparu mynediad at eu tai i unigolion yn unig; bydd y ffordd yn aros ar agor i'r cyhoedd fynd ar hyd-ddi bob amser pan gaiff ei mabwysiadu'n ffurfiol; gall cerddwyr a beiciau basio ar hyd y gerbytffordd a'r llwybrau troed yn ddiogel. A dyna'r darn hawdd. Os mai dyna fyddai'r ateb, ni fyddai unrhyw broblem o gwbl, ond y rhan nesaf yw'r darn sy'n eu rhwydo: mae dull cymeradwy o ddraenio dŵr wyneb oddi ar y gerbytffordd a llwybrau troed, rhaid i oleuadau stryd gydymffurfio â gofynion lleol presennol a safonau cenedlaethol, ac mae'r ffordd wedi'i hadeiladu i safon foddhaol. Ac rwy'n dweud wrthych, ni fuaswn yn gwybod, wrth gerdded ar hyd y ffordd, pa mor drwchus yw'r tarmac arni. Os gwelaf darmac arni, rwy'n cymryd ei bod hi'n iawn. Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl eraill nad ydynt yn beirianwyr sifil yn teimlo yr un fath yn union. A thelir symiau cynhaliaeth ohiriedig parhaus.
Ar gyfer pob ffordd a gynigir ar gyfer ei mabwysiadu, rhaid i'r datblygwyr sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd â'r meini prawf uchod cyn ymgynghori â'r cynghorau. Nid yw cynghorau'n mabwysiadu pob ffordd newydd a adeiladir gan ddatblygwyr tai. Gall datblygwyr tai ddewis cadw eu ffyrdd newydd yn breifat os nad yw'r ffyrdd yn bodloni'r meini prawf uchod. Mae preswylwyr yn gweld ffordd darmac newydd ac yn credu y caiff ei mabwysiadu. Pam na fyddent? Fe fuaswn i. Nid ydynt yn gwybod a yw'r draeniad yn bodloni'r gofynion ai peidio. Nid ydynt yn gwybod a yw pyst goleuadau o'r uchder cywir yn y lleoedd cywir, gyda bylbiau o'r maint cywir, yn gallu dal bylbiau o'r maint cywir, yn effeithiol o ran trydan. Sut y byddent yn gwybod hynny? Ac nid oes ganddynt unrhyw syniad beth yw is-adeiledd y ffordd. Ni fydd llawer o drigolion ar ystadau newydd yn dod i wybod nad yw eu ffordd wedi'i mabwysiadu gan y cyngor hyd nes y bydd problem yn digwydd.
Yn aml, mae goleuadau stryd yn torri a byddant yn mynd yn syth at y cyngor a fydd yn dweud wrthynt, 'Nid ein cyfrifoldeb ydyw.' Dyma pryd y bydd trigolion dig yn cysylltu â'u cynghorwyr lleol yn gyntaf, yna eu Haelod Cynulliad ac ASau lleol. Mae hon yn dod yn fwy o broblem gan nad yw adeiladwyr tai mawr yn adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy. Rhaid mynd i'r afael â hyn. Mae arnaf ofn fod angen deddfwriaeth. Pan gyflwynir deddf cynllunio newydd, mae angen iddi ganiatáu i gynghorau osod amod cynllunio y bydd yr holl ffyrdd yn cael eu hadeiladu i safonau mabwysiadwy ac y bydd ffyrdd yn cael eu hadeiladu i safon o dan gytundeb adran 38. Nid wyf yn credu bod pobl sy'n prynu tŷ ar ystâd newydd eisiau ffyrdd heb eu mabwysiadu. Yn wir, yn fy mhrofiad i, maent yn awyddus iawn i gael eu ffyrdd wedi'u mabwysiadu. Pam y byddent eisiau ffordd heb ei mabwysiadu? Pam y byddent eisiau ffordd lle maent yn gyfrifol am ei chynnal a'i chadw? Buaswn yn awgrymu na fyddai unrhyw berson synhwyrol eisiau prynu tŷ newydd ac yna edrych ar ôl y ffordd eu hunain. Os nad am unrhyw reswm arall, mae'n lleihau gwerth eiddo o'i ailwerthu.
Mae bob amser yn fy rhyfeddu, y gall cynllunwyr osod amodau'n nodi lliw brics, lliw fframiau ffenestri, ond ni allant bennu bod rhaid adeiladu'r ffordd i safonau mabwysiadwy. Rwy'n dweud wrthych yn awr, byddai'r rhan fwyaf o bobl sy'n prynu tŷ yn rhoi blaenoriaeth i ffordd o safon fabwysiadwy yn hytrach na lliw brics neu liw ffenestri. Mae hwn yn fater sy'n peri pryder i lawer o bobl. Pan fydd ffordd heb ei mabwysiadu, rhaid mynd drwy broses weddol hir i'w chael wedi'i mabwysiadu. Cynorthwyais etholwr i gael Bishop's Walk yn Nhreforys wedi'i mabwysiadu, a'r unig reswm y cafodd y gwaith ei gwblhau oedd oherwydd bod un preswylydd yn barod i arwain ar hynny a gwneud y gwaith—gweithio gyda'r cyfreithiwr, ac yn bwysicach, sefydlu cwmni. Hynny yw, mae'n broses hir. Nid, 'Annwyl Syr, os gwelwch yn dda a wnewch chi fabwysiadu ein ffordd?' yw hi. Mae'n broses eithaf hir, ac fe weithiodd yr holl breswylwyr gyda'i gilydd a chefnogi'r gwaith. Pe bai un preswylydd wedi gwrthwynebu, ni fyddai wedi cael ei mabwysiadu. Pe bai un preswylydd wedi bod yn amharod i dalu unrhyw ran o'r arian roedd ei angen, ni fyddai wedi'i mabwysiadu.
Dylai pob ystâd newydd gael ffyrdd wedi'u hadeiladu i safonau mabwysiadwy. Gan nad yw'r datblygwyr yn ei wneud o'u gwirfodd, buaswn yn annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth ddifrifol i ddeddfu, fel rhan o'r Bil cynllunio newydd, er mwyn sicrhau bod yr holl ffyrdd a adeiladir yn cyrraedd safonau mabwysiadwy.
Rwy'n credu ein bod wedi clywed dwy araith ragorol a oedd yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r mater, ac fe wnaethant hynny'n huawdl iawn yn fy marn i, oherwydd rwy'n credu bod pawb ohonom wedi cael profiad o'r mater hwn ac mae'n rhywbeth sy'n effeithio'n fawr ar ein hetholwyr. Mae'n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd ac yn gallu eu gadael mewn sefyllfa fregus iawn yn ariannol. Fel eraill, rwyf wedi bod yn bryderus iawn ein bod yn aml ymhell o fod yn cyrraedd safonau arferion gorau o ran y ffordd y mae datblygwyr yn gadael ffyrdd mewn ystadau newydd. Mae gennym broblem hanesyddol, sy'n anos ymdrin â hi mae'n debyg, ond yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, pan ydym yn adeiladu niferoedd llai nag erioed o dai—mae'n ymddangos yn syfrdanol na allwn reoleiddio'r gweithgarwch hwnnw'n fwy effeithiol.
Rwy'n bryderus iawn am yr hyn sy'n digwydd pan fydd ffyrdd heb eu mabwysiadu. Os caf fanylu: caiff ffyrdd, ymylon glaswellt, palmentydd a meysydd chwarae eu cynnal a'u cadw gan y datblygwr ac fel arfer mae datblygwr yn is-gontractio'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd. Mae'r cwmnïau hyn yn trosglwyddo'r costau i berchnogion tai, i rydd-ddeiliaid a lesddeiliaid, drwy weithred drosglwyddo sy'n gosod dyletswydd ar berchennog y tŷ o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925—credaf fod hynny'n mynd â ni ymhellach yn ôl hyd yn oed na'r nodyn ymchwil o Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn 1972 [Chwerthin.] Deddf Cyfraith Eiddo 1925 sy'n llywodraethu'r arferion hyn, ac mae'n rhaid iddynt dalu am waith cynnal a chadw ar y tir. Yn aml cyfeirir at hyn fel tâl ystâd, tâl cymunedol—nid yw'n enw sy'n ennyn llawer iawn o hapusrwydd—neu dâl gwasanaeth, ac yn anffodus, nid yw'r arferion hyn ar drai. Rhannaf ddicter gwirioneddol Mike ynglŷn â'r ffaith bod hyn yn parhau yn awr.
Yn gyffredinol, rydym eisoes yn wynebu problemau o ran fforddiadwyedd tai. Hynny yw, mae hyd yn oed pobl mewn swyddi da ond heb fynediad at gyfoeth arall—neu gyfoeth—yn ei chael hi'n anodd prynu cartref, ac mae wynebu'r mathau hyn o ffioedd wedyn a—. Rhaid imi ddweud, ni fyddwn yn ystyried archwilio i weld a yw ffordd wedi ei hadeiladu i safonau derbyniol, wyddoch chi, ac erbyn i chi fynd o dan y ffordd a meddwl am y draenio a phopeth—dyletswyddau gofal y dylai'r system gynllunio allu eu sicrhau yw'r rhain, a dweud y gwir. Credaf mai dyna y dylem anelu tuag ato.
Mae rhai o'r cymalau beichus eraill ar y rhenti tir hyn yn syfrdanol—codi ffi am newid eiddo, cost am werthu'r eiddo hyd yn oed. Efallai fod rhai arferion yn debyg i'r hyn rydym yn ei brofi yn awr gyda'r argyfwng lesddaliad yn dod yn ôl, a datblygwyr weithiau'n gwerthu ar brydles, ac yna'n gwerthu'r lesddaliad ymlaen, a gwneud yr un peth gyda'r cwmnïau rheoli. Nid yw'n ofynnol iddynt gyhoeddi cyfrifon i'r trigolion a phrofi bod y gwaith y codir amdano yn cael ei wneud i safon briodol. Mae yna brinder tryloywder eithafol yn y maes hwn. Mae'n hen ffasiwn ac yn gwneud y perchnogion tai hyn yn agored i arferion sy'n eu cosbi mewn gwirionedd. Fel y dywedodd Mike, mae'r materion hyn wedi'u datganoli bellach, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac maent yn bethau y gallwn geisio mynd i'r afael â hwy.
Felly, os ydych yn bwriadu mynd i'r afael â'r maes hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, credaf y gallwch ddibynnu ar gefnogaeth helaeth ar draws y Siambr, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi symud—. Clywsoch yr awgrym am gyfraith newydd, neu dasglu yn y lle cyntaf, fan lleiaf, i edrych ar y sefyllfa.
A gaf fi orffen gyda'r diffyg data? Dywedir wrthyf fod yna 92 km o briffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghaerdydd. Mae'n gwbl syfrdanol—[Torri ar draws.] Wel, dyna oedd eu dyfaliad gorau yn 2010. Felly, gall fod yn wahanol iawn bellach. Ond mewn gwirionedd, mae'r maes hwn yn galw am ddiwygio a dylem wneud hynny.
Rwy'n falch o gyfrannu'n fyr i'r ddadl hon. Nawr, nid wyf yn honni fod gennyf y math o wybodaeth fanwl a thechnegol a ddangoswyd gan rai o'n siaradwyr eraill y prynhawn yma, ond gwn fy mod wedi ymdrin â llif cyson iawn o gwynion am ffyrdd heb eu mabwysiadu yn fy 19 mlynedd fel Aelod Cynulliad dros Dorfaen. Nawr, mewn rhai achosion, mae'r ffyrdd hyn wedi bod mewn cyflwr gwirioneddol druenus. Rai blynyddoedd yn ôl ymwelais â safle yn Brook Street, Pontrhydyrun yng Nghwmbrân, a gweld bod y ffordd mewn cyflwr mor wael ar ddiwrnod glawog fel bod hwyaden wedi mynd i nofio yn un o'r tyllau yn y ffordd. Prysuraf i ychwanegu nad oedd yn nodwedd dŵr roedd unrhyw un yn y stryd yn falch o'i gweld.
Nawr, rwy'n ymwybodol iawn o ba mor brin o arian yw fy awdurdod lleol. Gwn nad oes ganddynt adnoddau i ymdrin â'r broblem hon ledled y fwrdeistref, a gwn hefyd, yn y rhan fwyaf o achosion, nad oes gan fy etholwyr arian yn sbâr chwaith. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y syniad o dasglu i ddod â phawb at ei gilydd i edrych ar y mater hwn. Mae pawb ohonom yn gwybod ein bod mewn cyfnod anodd iawn gyda'n harian cyhoeddus yn sgil polisïau cyni, ond gobeithiaf y bydd dod â phobl at ei gilydd yn gyfle i edrych ar atebion arloesol, fel y rhai y cyfeiriodd Dai Lloyd atynt, ond eraill hefyd fel y modd y gall awdurdodau lleol ddod ynghyd i swmp brynu deunyddiau er mwyn gweithio gyda'i gilydd i wneud pethau. Rwy'n credu o ddifrif fod yn rhaid inni feddwl yn greadigol am hyn. Fel arall, bydd yn broblem a fydd gennym mewn 40 mlynedd arall, a bydd yr hwyaden yn dal i fod yno. Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gyfrannu. Byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn.
Diolch yn fawr iawn i Dai Lloyd am ddod â’r ddadl yma gerbron. Dyma’r drydedd ddadl, rydw i'n credu, sydd wedi bod ar feysydd tebyg. Rydym wedi trafod inswleiddio waliau ceudod a’r defnydd o brydlesi, a rŵan hon heddiw. Maen nhw yn faterion sydd yn poeni ein hetholwyr ni, ac mae’n briodol iawn ein bod ni yn eu trafod nhw yma yn y Cynulliad, ac yn bwysicach, yn ceisio datrysiad ar gyfer y materion yma.
Rydw i’n mynd i sôn wrthych chi am un enghraifft yn fy etholaeth i sydd yn enghraifft berffaith, i ddweud gwir, o beth sydd o dan sylw y prynhawn yma. Mae stad Caeau Gleision, Rhiwlas yn stad o 80 o dai a gafodd eu hadeiladu rhwng 1975 a dechrau'r 1980au. Mae'r cul-de-sacs yna bellach mewn cyflwr trychinebus, a dweud y lleiaf. Nid wyf wedi gweld yr hwyaid yna eto, ond mae yna dyllau dŵr mawr yno, ac mae yna broblemau dybryd yno. Nid ydy'r ffyrdd na'r cul-de-sacs ar yr ystâd yma erioed wedi cael eu mabwysiadu gan yr awdurdod lleol, sef Cyngor Gwynedd, ac mae yna naw o'r cul-de-sacs yna ar yr ystâd. Dros amser, mae'r wyneb a osodwyd gan y datblygwr fwy neu lai wedi cael ei olchi ymaith, gan adael tyllau a phyllau o ddŵr, craig mewn rhannau, neu isadeiledd y ffordd. Dyna i gyd sydd ar ôl. O'r hyn rwyf yn ei ddeall hefyd, mae yna bibellau pitch fibre wedi cael eu gosod i gario dŵr wyneb i ffwrdd, a tra bod y fath yma o bibellau yn cael eu hargymell ar y pryd, maen nhw bellach wedi colli eu siâp, ac nid ydynt yn ffit i bwrpas. Maen nhw angen eu hadnewyddu.
Mae yna unigolion o'r ystâd sydd wedi ceisio mynd i'r afael â'r broblem yma—wedi bod yn cysylltu efo'r cyngor sir, ac mae'r Aelod Seneddol a minnau fel yr Aelod Cynulliad wedi bod yn ceisio eu helpu nhw, ond yn anffodus, heb fawr o lwyddiant i gael y maen i'r wal hyd yma. Yr ymateb yr ydym yn ei gael gan Gyngor Gwynedd ydy nad ydy'r ffyrdd na'r cul-de-sacs wedi cael eu mabwysiadu, ac felly, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, nid ydyn nhw'n bwriadu gwneud dim byd am y sefyllfa. Erbyn hyn, oherwydd cyflwr y strydoedd yma, mae'r ystâd yn ei chyfanrwydd yn ymddangos yn flêr iawn, er gwaethaf y ffaith bod y trigolion yn ceisio eu gorau i gadw edrychiad eu tai mor dwt a thaclus â phosib.
Rydym ni yn yr etholaeth wedi ceisio gwneud ychydig o ymchwil i hyn i weld beth sy'n bosibl, ac wedi bod yn astudio llyfr gan yr awdur Andrew Barsby—llyfr o'r enw Private Roads. Mae hwn yn cynnwys nifer o awgrymiadau ynglŷn â sut y gall trigolion weithredu, ond mae o'n dibynnu, i raddau helaeth, ar gael perchnogaeth o'r ffordd dan sylw, sydd ddim yn broses hawdd bob tro. Mae datblygwyr yn diflannu, ac mae o'n gallu bod yn broses ddrud iawn hefyd i unigolion, wrth gwrs. Yn ôl y llyfr Private Roads, os nad yw'n bosibl cael perchnogaeth o'r ffordd arbennig, mae modd i drigolion lleol wella cyflwr y ffordd, ond maen nhw'n rhedeg y risg o gael eu herlyn ar sail tresmasu anghyfreithlon.
Felly, mae'n sefyllfa anodd, ac rwy'n croesawu'r cynigion fan hyn, yn enwedig y syniad o sefydlu tasglu a chael rhaglen waith bwrpasol, fel ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r broblem yma yn wirioneddol a thaclo rhywbeth sydd yn digwydd ymhob etholaeth, y buaswn i'n tybio. Diolch yn fawr.
Mae llawer o'r pwyntiau rwyf yn eu gwneud eisoes wedi'u gwneud gan gyfranwyr eraill i'r ddadl hon, ond nid wyf am wneud unrhyw esgusodion dros eu hailadrodd oherwydd nid wyf yn meddwl fod modd ailadrodd y dadleuon hyn yn rhy aml. Fel llawer o bobl eraill, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi mewn perthynas â'r materion a godwyd yn y cynnig hwn, materion sydd, mewn rhai amgylchiadau, yn arwain at broblemau iechyd yn sgil pryderon ynghylch y problemau ariannol sy'n ymwneud â ffyrdd heb eu mabwysiadu. Felly, mae UKIP yn cytuno'n fras â'r holl bwyntiau sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig hwn a byddai'n cefnogi'r galwadau ar Lywodraeth Cymru ym mhwynt 6.
Fodd bynnag, oni ellid negyddu'r holl bwyntiau a phroblemau a nodir yn y cynnig yn y dyfodol drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar fod datblygwyr yn contractio i ddarparu ffyrdd i safonau mabwysiadwy?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Dyna y gofynnais amdano oherwydd, ar hyn o bryd, ni allant wneud hynny'n amod ar gyfer rhoi caniatâd cynllunio.
Wel, diolch i chi am hynny, Mike.
Ond byddai methiant dilynol i ddarparu ffyrdd o'r fath yn golygu eu bod yn torri contract ac yn agored i gosbau masnachol. Efallai y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar allu rhoi'r pŵer hwnnw i awdurdodau lleol yn y dyfodol. O ran esgeulustod hanesyddol mewn perthynas â ffyrdd heb eu mabwysiadu, mae arnaf ofn na fydd awdurdodau lleol yn ystyried hon yn flaenoriaeth uchel. Mae Lynne Neagle wedi gwneud y pwynt, yn amlwg, eu bod o dan fesurau cyni mawr a gallai fod costau sylweddol ynghlwm wrth sicrhau bod ffyrdd o safon fabwysiadwy. Ac wrth gwrs, bydd ffordd a fabwysiadwyd yn straen pellach a pharhaus ar eu hadnoddau. Felly byddai'n ymddangos mai gan Lywodraeth Cymru'n unig y byddai'r arian angenrheidiol i gyflawni'r gwelliannau neu'r atgyweiriadau hyn, ond a oes ewyllys i wneud hynny?
Clywch, clywch.
Diolch, Lee. [Chwerthin.] Rwy'n falch o gael siarad â Lee Waters a gweddill y Cynulliad yn ogystal.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Mae ffyrdd yn fater sy'n agos at fy nghalon, pa un a wyf yn eu cefnogi neu'n eu gwrthwynebu, gyda rhai o fy nghyd-Aelodau weithiau. Ac wrth wraidd y cynnig hwn mae'r ffaith, pan fyddwch yn gadael lonydd prysur ein traffyrdd a'n ffyrdd A a ffyrdd B, mae llawer o'n ffyrdd gwledig a hefyd, fel y clywsom, ein ffyrdd trefol ymhell islaw'r safon y byddem yn ei disgwyl, ac mae llawer o siaradwyr eisoes wedi siarad am y problemau hynny.
Roeddwn yn edrych ar wefan y Resident Adoption Action Group, sy'n amlinellu rhai o'r materion sy'n effeithio ar ein ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru, gan gynnwys y ffaith na chynhelir archwiliadau iechyd a diogelwch rheolaidd i sicrhau bod y ffyrdd yn cael eu cadw'n ddiogel. Ac mae hon yn broblem genedlaethol, mae defnyddwyr ffyrdd di-rif yn rheolaidd yn gyrru ar ffyrdd anniogel a heb eu rheoleiddio. Fel y soniodd Mike Hedges a siaradwyr eraill, gall datblygwyr arbed miloedd yn aml drwy osgoi'r cytundebau cyfreithiol sy'n trosglwyddo'r ffyrdd i reolaeth yr awdurdod lleol—mater heb unrhyw sgil-effeithiau i'r datblygwyr hynny yn ôl pob golwg. Ac rwy'n cefnogi galwad Mike Hedges ac eraill i roi hyn ar sail statudol o bosibl i wneud yn siŵr fod mabwysiadu ffyrdd yn rhan o'r broses gynllunio honno ar y cychwyn.
Yn amlwg, mae angen inni wneud ffyrdd heb eu mabwysiadu yn flaenoriaeth, ac er mwyn gwneud hynny'n llawn, rydym angen ystadegau cyfredol. Rwy'n dal i chwerthin am y modd y soniodd Dai Lloyd am arolwg yr Adran Drafnidiaeth yn 1972 a ganfu fod oddeutu 40,000 o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr. Credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bai gennym ystadegau ar gyfer Cymru. Felly, rwy'n cefnogi'r alwad am dasglu ac yn gofyn i Ysgrifennydd yr economi a seilwaith i edrych ar gael ystadegau cyfredol ar y seilwaith hwnnw.
Credaf fod yna olau ar ben draw'r twnnel hwn—maddeuwch y chwarae ar eiriau—ac os edrychwn yn ôl drwy hanes, fel y gwnaeth David Melding, mae rheswm da i fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Mewn gwirionedd, nid oedd ffyrdd yn y DU yn cael eu dosbarthu o gwbl tan y 1920au, ac ni chafodd y dosbarthiad ei dacluso tan y 1930au. Yn y dyddiau hynny, byddent yn cynnal ailasesiad treigl blynyddol o ddosbarthiad ffyrdd—ac mae'n debyg ei fod yn llawer mwy cyfredol nag y bu ers 1972, ond roeddent yn cydnabod pwysigrwydd strwythur ffyrdd da. Ac ar ddechrau'r ail ryfel byd, roedd y rhwydwaith ffyrdd mewn cyflwr gwael, ac ar ôl y rhyfel honno, roedd hi'n glir fod rhywbeth—[Torri ar draws.] Llywodraeth Dorïaidd—peidiwch â bod mor hunandybus. [Chwerthin.] Ar ôl yr ail ryfel byd, roedd hi'n amlwg fod angen gwneud rhywbeth, a chafwyd y rhaglen adeiladu ffyrdd a gwelliannau ffyrdd sydd wedi bod yn digwydd ers hynny. Ond drwy gydol yr amser, o dan Lywodraethau Llafur a Llywodraethau Ceidwadol a llywodraethau clymblaid, ni aethpwyd i'r afael â mater ffyrdd heb eu mabwysiadu, ac efallai mai'r rheswm am hynny oedd oherwydd y teimlid ei fod yn fater rhy anodd ymdrin ag ef, neu'n haws ei anwybyddu, ac nid oedd yn angenrheidiol i seilwaith cenedlaethol y wlad. Ond wrth gwrs, fe wyddom bellach fod llawer o'r ffyrdd hyn yn gwbl anaddas ar gyfer cerbydau brys—ac roeddwn yn edrych ar achos yn ddiweddar pan aeth ambiwlans yn sownd mewn twll ar un o'r ffyrdd hyn yn ôl yn 2014—ond wrth gwrs, nid yw'r arwynebau ffordd hynny'n addas hyd yn oed ar gyfer cerbydau modur modern o unrhyw safon. Felly, mae hon yn broblem sydd wedi bodoli ers llawer gormod o amser.
Rwy'n falch fod Dai Lloyd wedi gofyn imi gefnogi'r cynnig. Credaf y ceir cytundeb cyffredinol yn y Siambr hon bellach fod angen gwneud rhywbeth. Felly, gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith o wneud hynny, gadewch i ni gael arolwg priodol, cael y tasglu ar ei draed, cael arolwg i weld beth yn union rydym yn ymdrin ag ef, ac yna sicrhau bod ein holl ffyrdd yn cyrraedd safon foddhaol fel y gall modurwyr a cherbydau brys yrru ar ffyrdd diogel.
Mae yna ystâd yn fy etholaeth a adeiladwyd yn y 1970au: mae'r ffyrdd yn fawr, mae digon o le i barcio, gerddi mawr, a thai mawr. Ac mae'n drawiadol pan fyddwch yn ymweld â'r tai newydd a adeiladwyd yn ystod y degawd diwethaf, yr ystadau newydd a adeiladwyd yn ystod y degawd diwethaf, mae'r tai wedi'u gwasgu i mewn, mae'n aneglur pa stryd yw pa stryd, a chaiff pawb eu gwasgu at ei gilydd ac mae'r ffyrdd heb eu mabwysiadu. Rydym wedi cymryd camau tuag yn ôl yn y 10 mlynedd diwethaf, a chredaf fod rhan ohono'n deillio o'r ffaith fod y pedwar datblygwr tai mawr, neu'r chwech datblygwr tai mawr, yn manteisio ar y prinder tai, a ganddynt hwy y mae'r pŵer i gyd yn yr amgylchiadau hyn. Nid yw hynny'n ddigon da, a chredaf fod hwn yn gyfle i wneud rhywbeth yn ei gylch. Nid wyf am ailadrodd araith Dai Lloyd, araith David Melding ac araith Mike Hedges—roedd fy araith yn gyfuniad o'r tri. Felly, nid wyf am ailadrodd popeth sydd wedi'i ddweud, ond fe af i'r afael â rhai o'r pethau hynny.
Mabwysiadu ffyrdd: yn hollol. Rwyf wedi gwirio'r ystadegau a cheir un stryd breifat heb ei mabwysiadu—hynny yw, stryd gydag un pwynt mynediad—ym mwrdeistref Caerffili. Ceir saith o lonydd cefn sydd heb eu mabwysiadu. Ond mae yna 15 o ddatblygiadau newydd sydd heb eu mabwysiadu, a'r hyn sy'n digwydd—. Rwy'n mynd i enwi ystadau Castle Reach a Kingsmead, oherwydd rwyf wedi bod yn ceisio datrys problem y band eang yno. Euthum yno i ddosbarthu llythyr i bob tŷ am y band eang a bu bron i mi droi fy ffêr ar y tyllau sydd yn y ffyrdd ar yr ystâd honno sydd heb ei mabwysiadu. Nid yw'n ddigon da. Rwyf wedi cael gohebiaeth gan etholwyr sy'n teimlo'n gryf iawn am hyn. Ac mae'r ystâd yn dal i gael ei hadeiladu. Mae pobl wedi bod yn byw yno ers dwy flynedd. Mae'r ystâd yn dal i gael ei hadeiladu. Pryd y maent yn mynd i orffen? Maent yn oedi fel na fydd yn rhaid iddynt gwblhau'r ffyrdd a'r seilwaith. Nid yw'n ddigon da.
Cefais gyfarfod yng Nghwm Calon ar ben arall fy etholaeth, sef ystâd wedi'i chwblhau gyda'r rhan fwyaf o'r ffyrdd wedi'u mabwysiadu, ond mae rhai'n dal heb eu mabwysiadu. Mae'r trigolion yno'n talu i gwmni rheoli'r ystâd. Gwaeddais y gair 'extortionate' pan ddywedwyd hynny, a dywedodd Michelle Brown nad oedd yn hynny. Wel, mewn gwirionedd, nid wyf yn credu ei fod yn rhy bell o'r gwir, i fod yn onest gyda chi. Ysgrifennodd y trigolion yng Nghwm Calon at gwmni rheoli'r ystâd. Cafodd un preswylydd ymateb gan gwmni rheoli'r ystâd. 'Gyda pharch', dywedodd mewn e-bost, 'gwnewch rywbeth gyda'ch bywyd'. Dyna a ddaeth gan gwmni rheoli'r ystâd i breswylydd ar ystâd Cwm Calon. Hollol warthus.
Nawr, byddaf yn ceisio cael cyfarfod gyda'r datblygwr a chwmni rheoli'r ystâd i edrych i weld beth arall y gallant ei wneud i gwblhau'r gwaith y dylent fod yn ei wneud o ganlyniad i'r taliadau misol y mae pobl yn eu gwneud ar yr ystâd honno.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n ddig iawn.
Hoffwn rannu profiad yn fy etholaeth i lle y dywedodd un datblygwr, 'Os ydych yn mynd at eich Aelod Cynulliad, fe wnaf yn dam siŵr na fyddaf byth yn gwneud y gwaith sydd angen ei wneud ar eich stryd'.
Rhun ap Iorwerth, rydych yn gwneud pwynt clir iawn, oherwydd dyna'r union fath o iaith a ddefnyddir, gan fod y pŵer yn nwylo'r bobl hyn. Maent yn gwneud cyn lleied â phosibl—mae cwmni rheoli'r ystâd yn gwneud cyn lleied â phosibl o waith ar yr ystadau hyn. Maent yn dal preswylwyr yn wystlon, ac nid yw'r contractau sy'n rhaid i chi eu llofnodi i brynu eich tŷ yn werth y papur y cawsant eu hysgrifennu arnynt pan fyddwch eisiau i waith gael ei wneud. Cânt eu defnyddio fel rhywbeth i rwymo a rheoli preswylwyr a sicrhau eu bod yn parhau i dalu. Ac rwy'n credu bod angen i hynny newid hefyd. Felly, nid mater o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn unig yw hyn. Mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y mae cwmnïau rheoli ystadau'n gweithio.
Felly, rwy'n credu—anaml iawn rwy'n gwylltio yn y Siambr hon, ond credaf fod hawl gennyf i wylltio am y ffordd y caiff preswylwyr eu trin yn fy etholaeth. Nid wyf yn falch, ond rwy'n falch ein bod wedi cael cyfle i ACau etholaethau a rhanbarthau eraill nodi bod hyn yn digwydd yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau hwy hefyd. Felly, credaf ei bod yn bryd inni fanteisio ar y cyfle hwn i gefnogi'r cynnig ac i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud beth bynnag y mae ganddo bŵer i'w wneud, fel yr amlinellodd Mike Hedges, i roi camau ar waith yn erbyn y cwmnïau sy'n manteisio ar breswylwyr a'r prinder tai.
Rwy'n rhannu pob un o'r teimladau a'r safbwyntiau a fynegwyd yn y Siambr y prynhawn yma hyd yn hyn. Fel pob Aelod Cynulliad ac etholaeth, mae gennyf innau hefyd ystadau gyda ffyrdd heb eu mabwysiadu yn fy ardal fy hun, a'r amlycaf ohonynt yw ystâd Sandy Cove, y bydd y Dirprwy Lywydd yn gyfarwydd â hi. Mae'n ystâd o 250 byngalo a adeiladwyd yn y 1930au fel cartrefi gwyliau ar gyfer pobl gyfoethog o bob rhan o'r DU i ddod i fwynhau peth amser ar lan y môr. Ond yn anffodus, dros gyfnod o amser, daeth y cartrefi hyn yn breswylfeydd parhaol, ac mae'r cwmni a adeiladodd yr ystâd wedi mynd i'r wal ac wedi gadael gwaddol o ffyrdd ar eu holau sydd bellach mewn cyflwr gwael ofnadwy. Nid hwyaid a welwn yn y pyllau, ond gwylanod yn bennaf, ac yn anffodus, mae llawer o'r bobl sy'n byw ar yr ystâd honno—. Mae yna fater iechyd cyhoeddus yma, oherwydd mae llawer o'r bobl sy'n byw ar yr ystâd honno yn bobl sydd â phroblemau symudedd, pobl sy'n cael anhawster i gerdded, afiechydon cronig eraill, ac mae cyflwr y ffyrdd hyn, y diffyg palmentydd, diffyg draenio, diffyg goleuadau stryd hyd yn oed ar y ffyrdd hynny, yn peri pryder iddynt, mae'n wir, ond anhawster hefyd i fynd allan o gwbl. Mae llawer ohonynt yn byw mewn arwahanrwydd cymdeithasol. Maent yn teimlo'n anniogel oherwydd ei bod hi'n dywyll. Ac wrth gwrs mae'r ystâd hon hefyd, i ychwanegu at ei gofidiau, mewn ardal lle y ceir perygl o lifogydd, yn union y tu ôl i amddiffynfeydd y morglawdd ym Mae Cinmel. Mae wedi cael llifogydd ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, mae mewn cyflwr eithaf truenus.
Nawr, i fod yn deg â'r awdurdodau lleol ac eraill, maent wedi ceisio gwneud yr hyn a allant i gefnogi'r trigolion hynny. Maent wedi ceisio edrych ar y gost o sicrhau bod y ffyrdd hynny'n cyrraedd safonau mabwysiadwy, a'r amcangyfrif diweddaraf yw y byddai oddeutu £3 miliwn, sy'n amlwg yn swm sylweddol o arian i 250 o berchnogion tai ddod o hyd iddo. Mewn gwirionedd, mae bron yn amhosibl iddynt godi'r math hwnnw o swm er mwyn gwella'r ffyrdd hynny i safonau mabwysiadwy.
Ac yn waeth na hynny, wrth gwrs, mae yna lawer o'r bobl sy'n berchen ar yr eiddo nad ydynt yn byw ynddynt mewn gwirionedd, cânt eu gosod ar rent, oherwydd bod gwerth yr eiddo wedi gostwng o ganlyniad i gyflwr y ffyrdd. Felly, yn amlwg, gallant fod yn ffynhonnell incwm broffidiol i rai landlordiaid prynu i osod diegwyddor posibl. Felly, mae hynny'n cymhlethu'r broblem ymhellach, oherwydd, cyhyd â bod eu rhent yn cael ei dalu, cyhyd â bod yr incwm yn dod i mewn, nid oes gan y landlordiaid prynu i osod hynny fawr o ddiddordeb mewn gwneud unrhyw fath o gyfraniad i sicrhau bod y ffyrdd yn cyrraedd y safon sy'n dderbyniol ar gyfer cerbydau modur hyd yn oed mewn rhai lleoedd. A dweud y gwir, mae'r sefyllfa'n annioddefol, ac mae angen inni wneud rhywbeth yn ei chylch.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, yn 2011, gallaf gofio bod yn y Cynulliad hwn pan wnaeth Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd benderfyniad dewr iawn i ddefnyddio pwerau a oedd ganddi dan Ddeddf Dŵr 2003 i drosglwyddo carthffosydd preifat a draeniau ochrol i'r system ddŵr, sydd wrth gwrs yn gyfrifoldeb i Dŵr Cymru yma. Felly, cafodd y cyfan ei fabwysiadu yn y bôn, pa un a oeddent wedi'u mabwysiadu'n flaenorol neu beidio. Credaf fod angen dull tebyg o weithredu arnom a dweud y gwir, gyda phob un o'r ffyrdd heb eu mabwysiadu hyn, fel y gallwn ddatrys y broblem hon unwaith ac am byth. Yna, yn hollol—fel y dywedodd Mike ac eraill—mae angen inni newid y system gynllunio i'w gwneud yn ofynnol, os yw ystâd yn mynd i gael ei hadeiladu, rhaid cael ffordd fabwysiadwy sy'n hygyrch.
Un o'r pethau sy'n fy mlino'n fawr ar bron bob cais cynllunio a welaf y dyddiau hyn yw'r 'dreifiau preifat' fel y'u gelwir. Rydych wedi'u gweld—lle y ceir un ffordd gyswllt drwy'r ystâd, sydd wedi'i mabwysiadu, ac yna mae gennych dramwyfa breifat sy'n gwasanaethu fel mynediad i oddeutu 10 neu 15 eiddo gwahanol, ac wedi'i chreu o frics fel rheol oherwydd ei bod yn edrych yn ddeniadol, ond o fewn pedair neu bum mlynedd mae'n dechrau malu, a'r pantiau'n dechrau ymddangos, oherwydd nid yw wedi'i llunio i safon dderbyniol. Felly, rydym yn storio problemau ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n credu bod yr adolygiad cyfredol o'r system gynllunio sydd ar y gweill yng Nghymru yn rhoi cyfle inni ddatrys hyn unwaith ac am byth.
Un peth y buaswn yn ei hoffi—os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu sefydlu tasglu, sy'n syniad rwy'n ei groesawu'n fawr—yw bod y tasglu hwnnw'n trefnu, o ran blaenoriaethau, pa ardaloedd sydd angen sylw yn gyntaf, oherwydd gallaf ddweud wrthych yn awr fy mod yn tybio'n fawr iawn y byddai ystâd Sandy Cove yn fy etholaeth yn agos iawn at frig y rhestr honno, am y rhesymau rwyf wedi eu hamlinellu heddiw. Felly, rwy'n annog pobl i gefnogi'r cynnig.
Wrth godi i siarad i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar brofiadau fy etholwyr—fy etholwyr sy'n byw nid yn unig ar ffyrdd heb eu mabwysiadu, ond fel y mae cynifer o fy nghyd-Aelodau yma wedi pwysleisio heddiw, ar ystadau sydd heb eu mabwysiadu. Rwyf am sôn am yr effaith a gaiff methiant datblygwyr i sicrhau bod yr ystadau hyn yn cyrraedd safonau mabwysiadwy ar fy etholwyr. Yn wir, nid wyf yn credu ei bod yn rhy ddramatig i siarad am y dioddefaint y mae hyn yn ei achosi.
Ar hyn o bryd rwy'n ymdrin â thair ystâd sylweddol o dai 'executive' fel y'u gelwir, pob un wedi'i hadeiladu gan yr un datblygwr. Mae'n un o'r 'pedwar datblygwr mawr' fel y'u gelwir yn y DU. Gwn fod ACau eraill wedi sôn am y problemau a achosir pan fo adeiladwyr tai yn mynd i'r wal, ond rwy'n sôn am gwmni yma sy'n parhau i fod yn un o bedwar adeiladwr tai mawr y DU. Felly, ymhell o fethu gallu datrys y materion hyn, maent yn rhy brysur yn mynd ymlaen i adeiladu mwy o dai mewn lleoliadau eraill, gwneud miliynau ar filiynau o bunnoedd, cyn cwblhau ystadau i safonau mabwysiadwy. Nid wyf yn mynd i enwi'r datblygwr yma heddiw, ond mae'n bosibl y bydd y sylwadau a wnaf yn nes ymlaen yn awgrymu pwy ydynt.
Fel y noda'r cynnig, mae un o'r problemau mwyaf dybryd yn ymwneud â ffyrdd ar yr ystadau tai hyn. Gan na fabwysiadwyd y ffyrdd, maent mewn cyflwr anniogel. Gall hyn achosi niwed i geir y trigolion, ac mae gennyf nifer o enghreifftiau o hynny yn fy llwyth achosion, ac anaf i drigolion hefyd. Unwaith eto, rwyf wedi ymwneud â nifer o achosion o hynny. Yn benodol, yn yr enghraifft hon, nid y ffordd yn unig y mae'r datblygwr heb drafferthu ei gorffen: mae trigolion yr un ystâd o dros 150 o dai wedi cael problemau gyda'u darpariaeth band eang; ni chafodd maes chwarae a addawyd mo'i adeiladu; ni wnaed gwaith tirlunio; ac ni orffennwyd y gwaith ar orsaf bwmpio. Mae hyn i gyd wedi cael effaith negyddol—effaith negyddol iawn—ar ddeiliaid tai. Ac yn yr achos hwn lle y cwblhawyd yr ystâd dai bedair blynedd yn ôl, mae wedi gwneud i'r trigolion deimlo'n siomedig iawn fod y cartrefi newydd sbon danlli a addawyd iddynt wedi eu dympio yn yr hyn sy'n fawr gwell na safle adeiladu o ran ei olwg. Mae rhai o'r deiliaid tai mor siomedig fel eu bod wedi dweud wrthyf eu bod am symud, ond mae cyflwr gwael yr ystâd yn golygu na allant wneud hynny am fod gwerth eu cartrefi wedi gostwng.
Rwy'n ymdrin â dwy ystâd arall, a godwyd gan yr un datblygwr tai mawr. Yma, mae trigolion yn wynebu problemau tebyg. Mewn un achos, nid yw'r gwaith sydd ei angen i sicrhau bod yr ystâd mewn cyflwr mabwysiadwy wedi'i gwblhau 17 mlynedd ar ôl adeiladu'r tai. Hoffwn ailbwysleisio'r pwynt hwnnw—17 mlynedd, gan un o brif adeiladwyr tai y DU. Nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl.
Nawr, rwyf wedi siarad â'r adeiladwr tai. Rwyf wedi cyfarfod â'u prif swyddogion a derbyn ymateb cynnes a chymodlon. Ond o ran gweithredu, nid oes dim wedi newid. Ni wnaed unrhyw gynnydd. Mae ymholiadau, apeliadau a chwynion fy mhreswylwyr wedi disgyn ar glustiau byddar. A'r hyn sy'n gwneud y materion hyn yn anos byth i'w stumogi yw bod y datblygwr eisoes yn edrych ar safle newydd yn fy etholaeth. Oes, mae angen cartrefi arnom, ond nid oes unrhyw ddyletswydd ar adeiladwyr tai ar raddfa fawr i sicrhau bod gwaith wedi'i gwblhau cyn iddynt symud ymlaen, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl anghywir.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych newydd ei ddweud, ac rydych yn gosod problem ffyrdd heb eu mabwysiadu o fewn problem ehangach: fod gennym nifer cynyddol o ystadau bellach yn cael eu rhedeg gan gwmnïau rheoli gyda'r gwasanaethau'n cael eu darparu. Credaf eich bod yn hollol gywir: mae datblygwyr yn symud ymlaen at y safle nesaf heb orffen yr hyn sydd ganddynt eisoes yn briodol, a dylem ddefnyddio deddfwriaeth i fynd i'r afael â hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Os cymerwch ysgol, er enghraifft, pe bai ysgol yn perfformio'n wael ac yn methu sicrhau canlyniadau i'w disgyblion, yna byddai camau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod ei safonau'n codi. Ond yn y sector preifat, nid oes gennym bwerau o'r fath ar hyn o bryd, ond mae gennym y gallu drwy'r adolygiad cynllunio i edrych ar hyn, ac mae'n gwbl hanfodol yn fy marn i ein bod yn gwneud hynny.
Gwn fod y datblygwr dan sylw hefyd wedi talu bondiau gwerth miliynau lawer i'r awdurdod lleol, ond yn ôl pob golwg nid yw hynny wedi cael unrhyw effaith chwaith. Ac mewn llawer o achosion, mae'r symiau sydd eu hangen i sicrhau bod yr ystadau hyn yn cyrraedd y safonau mabwysiadwy yn gymharol ddibwys. Er enghraifft, yn achos yr ystâd a fu heb ei mabwysiadu ers 17 mlynedd, dywedodd y datblygwr tai yno wrthyf eu hunain na fyddai'r un eitem o waith sy'n dal heb ei wneud ond yn costio ychydig filoedd o bunnoedd i'w chwblhau, ac eto nid oes dim wedi digwydd.
Ar yr un pryd â fy nghyfarfod gyda'r datblygwr hwnnw, yn lobïo ar ran fy etholwyr, cyhoeddodd y cwmni becyn bonws o dros £500 miliwn i'w prif swyddogion. Efallai y bydd hyn yn rhoi awgrym pwy yw'r datblygwr. Yn ogystal, roedd y pecyn yn cynnwys dros £100 miliwn o daliadau bonws personol ar gyfer eu prif weithredwr—i un dyn sy'n llywyddu dros gwmni lle y dywedasant wrthyf eu hunain fod ganddynt dros 40 o ystadau heb eu mabwysiadu yng Nghymru. Nid yw'n syndod fod hyn yn gadael blas cas yng nghegau fy etholwyr.
Rwy'n falch iawn o gefnogi'r cynnig hwn heddiw, a hoffwn adleisio galwad Mike Hedges am i'r adolygiad cynllunio presennol yng Nghymru roi sylw i'r mater hwn. Ni allaf ond gobeithio y bydd yn helpu i gyfrannu at ateb i fy etholwyr.
Yn gyntaf, hoffwn groesawu'r ddadl hon, oherwydd yn dilyn y ddadl ar lesddaliad, mae'n dangos pwysigrwydd y mathau hyn o ddadleuon sy'n nodi materion sy'n ennyn cefnogaeth drawsbleidiol lawn, ac sy'n ymwneud â phwerau sydd gennym lle y gallwn ddefnyddio'r pwerau hynny i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Roedd lesddaliad yn un, dyma'r llall.
Hoffwn ddiolch hefyd i David Melding am fy atgoffa am Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. [Chwerthin.] Nid oedd modd cyfyngu'r darn gwych hwnnw o ddeddfwriaeth ddiwygio i lai na 1,000 o dudalennau ac fe gynhaliodd fwy o silffoedd llyfrau nag y deuthum ar eu traws erioed. Hefyd diolch i Darren Millar, mewn gwirionedd, am ei ddisgrifiad o anghyfiawnderau'r system gyfalafol. [Chwerthin.] Ond yn arbennig diolch i Dai Lloyd am ei esboniad Shakespearaidd bron o'r anghyfiawnder sy'n bodoli.
Ceir nifer o bwyntiau syml yr hoffwn eu hychwanegu. Yn gyntaf, caniatâd cynllunio. Pa un a ydynt yn ystadau sy'n cael eu cynnal a'u cadw neu beth bynnag, gwyddom ei bod yn amlwg fod angen mwy na dim ond rhoi caniatâd cynllunio. Yn union fel na ddylem ganiatáu i ganiatâd cynllunio gael ei roi i eiddo newydd â lesddaliad, mae'r un peth yn union yn berthnasol yma hefyd.
Yn ail, o ran ffyrdd anorffenedig a chyfrifoldebau ac ati ar gyfer eiddo newydd, pam na allwn gael peth syml fel tystysgrif Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai? Mae gennych hynny—rhywbeth sy'n rhoi gwarant os yw datblygwr eiddo yn mynd i'r wal, gwarant o ran cywiro'r adeiledd. Pam na allech gael rhywbeth yn union fel hynny sy'n rhoi estyniad o'r fath—? Oherwydd craidd hyn yw diffyg gwarantau a blaendaliadau, fel bod modd, os yw'r datblygwr yn diflannu neu os nad yw'n ei gyflawni, i'r sawl sy'n prynu tŷ ddweud, 'Wel, dyna'r arian, dyna'r adnodd neu'r warant sy'n galluogi i hyn gael ei wneud.' Mae'n ymddangos i mi mai dyna'r dyfodol.
Y pwynt a wnaed o ran y cwmnïau eu hunain, oherwydd yr hyn y byddant hwy yn ei ddweud, wrth gwrs, yw 'A, ie, ond mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n ychwanegu at y gost ac ati.' Mae'r datblygwyr eiddo hyn yn gweithio ar elw o 25 y cant fan lleiaf. Dyma'r peth. Dyma ymelwa o'r math gwaethaf, ac mae'r ffaith bod gennych un o gyfarwyddwyr un o'r cwmnïau hyn gyda llawer o eiddo yng Nghymru, a rhai ohonynt yn cael bonws o £150 miliwn—. Hynny yw, mae allan o reolaeth ac mae'n gwbl warthus. Mae'n sgandal gyhoeddus.
Ymyriad byr iawn—diolch yn fawr iawn. Yn achos Llys Tegeirian yn Llangristiolus ar Ynys Môn, y soniais amdano yn gynharach, mae deiliaid eiddo gwahanol wedi ymuno â gwahanol gynlluniau yswiriant rhag colledion posibl neu ddiffygdalu ar ran y datblygwr yn nes ymlaen. A fyddai'r hyn rydych chi'n ei gynnig, cynllun unffurf, yn ateb i'r broblem lle mae deiliaid tai gwahanol, oherwydd y gwahanol gyngor cyfreithiol y maent yn ei gael, yn talu symiau gwahanol i geisio datrys y broblem?
Yn bendant. Hynny yw, camodd y Llywodraeth i mewn i orfodi yswirwyr, er enghraifft, i ymdrin â cherbydau heb yswiriant, ceir, gyda Swyddfa'r Yswirwyr Moduron. Mae'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn gynnyrch tebyg i hynny hefyd, a pham na ddylid ehangu hwnnw yn yr un ffordd yn union? Ymddengys i mi ei fod ateb cymharol syml. Soniasom am broffidioldeb y cwmnïau adeiladu tai. Dyma'r un cwmnïau a ddywedodd nad oedd yn ymarferol i osod systemau chwistrellu yn ein tai i atal y tai rhag cael eu llosgi ac na fyddent yn adeiladu tai sy'n gwerthu. Yn hwyr neu'n hwyrach, mae'n rhaid eu galw i gyfrif.
Felly, craidd hyn yw—rwy'n cytuno'n bendant—mae'n faes lle mae deddfwriaeth yn gyfiawn, mae angen strategaeth arnom, a dyma faes lle y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.
Cytunaf â'r pryder a fynegwyd gan y cynnig nad yw rhai datblygwyr wedi bod yn adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy, gan adael y costau o sicrhau bod y ffordd yn cyrraedd y safon yn gadarn ar garreg drws y sawl sy'n prynu'r tŷ neu fel arall, yn gorfodi perchnogion tai i dalu costau cynnal a chadw parhaus. Rwy'n falch iawn felly o allu siarad o blaid y cynnig. Mae eraill, gan gynnwys Dai yn enwedig, wedi ymdrin yn helaeth â ffyrdd heb eu mabwysiadu, felly rwyf am siarad am ystadau a adeiladir o'r newydd. Maddeuwch i mi os wyf yn ailadrodd yr hyn a ddywedwyd eisoes, oherwydd rwy'n cytuno â phawb ohonoch, fwy neu lai.
I'r rhan fwyaf o brynwyr tai, os nad y cyfan, proses o brynu tŷ yw hi—proses o brynu tŷ neu gartref, nid prynu darn o ffordd neu geisio datrys sut i'w chynnal. Er ei bod yn wir y bydd cynghorwyr proffesiynol yn cynghori eu cleientiaid sy'n prynu cartrefi am oblygiadau ffyrdd heb eu mabwysiadu, nid yw'r prynwr mewn sefyllfa i asesu faint y bydd yn ei gostio iddynt ac i allu asesu'n briodol beth fydd y risg sy'n deillio o ffyrdd heb eu mabwysiadu. At hynny, erbyn yr adeg y bydd y prynwr yn cael y sgwrs honno gyda'u cynghorydd, ar ba ffurf bynnag y bydd y sgwrs honno'n digwydd, bydd y prynwr wedi gwneud buddsoddiad ariannol ac emosiynol, a buddsoddiad o ran amser, yn prynu'r cartref. Mae'n anodd iawn troi cefn ar yr eiddo hwnnw, ac mae'n amhosibl gwneud hynny os mai dyna'r unig gartref y gallwch ei fforddio.
Ond rwy'n anghytuno bod y broblem yn deillio'n llwyr o wendid yn y broses o brynu tŷ. Does bosibl nad problem a achosir yn bennaf gan wendid yn y broses ganiatâd cynllunio yw hon, problem sydd wedi'i hamlygu gan bawb a siaradodd heddiw fwy neu lai. Mae'n ymddangos i mi mai'r adeg i fynd i'r afael â mabwysiadu ffyrdd datblygiad yw ar adeg rhoi'r caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol. Yn fy marn i, os yw datblygwr am adeiladu ystâd o dai a chymryd yr elw sy'n deillio o hynny, dylai'r un datblygwr sicrhau bod y ffyrdd ar y datblygiad o safon ddigon da i'w mabwysiadu gan yr awdurdod lleol. Ni ddylid disgwyl i drigolion lleol ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ddatblygu'r broses honno ac uwchraddio'r ffordd, gan obeithio y bydd y cyngor yn mabwysiadu'r ffordd.
Y cwestiwn mawr i mi, ac mae rhan ohono wedi'i ateb heddiw, yw pam nad yw adrannau cynllunio mewn awdurdodau lleol eisoes wedi pennu bod angen adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy—mae wedi'i ateb, rwy'n gwybod—a pham nad yw adrannau priffyrdd yr un awdurdodau lleol wedi bod yn mynd i'r afael â hyn ers blynyddoedd. Ond mae hyn wedi bod yn digwydd ers achau. Datganolwyd cynllunio beth amser yn ôl, felly y cwestiwn rhesymegol yma yw: pam nad yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi sylw i hyn? Mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd.
Felly, mae'r syniad o dasglu yn un rhagorol, rwy'n credu. Nid yw'r mater yn syml, ac mae angen ystyried yr opsiynau'n briodol, gan gynnwys diwygio neu greu deddfwriaeth gynllunio briodol. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau a'r cyfle i ymateb i'r ddadl ddiddorol a llawn gwybodaeth hon heb unrhyw anghytuno â'r safbwynt canolog fod angen datrys problem yng Nghymru. Nawr, yn gyntaf, wrth gwrs, mae angen i mi fod yn gwbl glir mai ni fel Llywodraeth sy'n gyfrifol am y traffyrdd a'r cefnffyrdd yng Nghymru. Nid oes gennym awdurdodaeth dros ffyrdd lleol neu ffyrdd heb eu mabwysiadu. Ond rwy'n cydymdeimlo'n fawr iawn â'r bobl sydd mewn sefyllfa o fod wedi prynu cartref newydd, ac yna'n dod i ddeall bod y ffordd y tu allan mewn cyflwr heb ei fabwysiadu, a chredaf y gallwn i gyd gytuno bod hyn yn annerbyniol.
Rwyf innau'n byw ar ystâd yr eir iddi ar ffordd heb ei mabwysiadu, ac rydym wedi sefydlu cwmni rheoli fel trigolion, fel cymdogion. Ond am y rhesymau a amlinellodd Dai Lloyd, ychydig o bobl sy'n gallu fforddio hyn, neu nid yw'n ateb addas. Prysuraf i ychwanegu nad oes neb o fy nghwmni rheoli wedi dweud wrthyf am wneud rhywbeth â fy mywyd am mai cwmni dan reolaeth y preswylwyr ydyw. Rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy syfrdanu'n llwyr gan rai o'r straeon a glywais heddiw am y ffordd y mae etholwyr Aelodau yn y Siambr hon wedi cael eu trin.
Ddirprwy Lywydd, mae gennyf nodiadau helaeth y dylwn fod yn darllen drwyddynt efallai ynglŷn â hawliau perchnogion tai a thenantiaid, ond a dweud y gwir, credaf ei bod hi'n werth mynd at wraidd y mater, oherwydd mae'r broblem sy'n gysylltiedig â ffyrdd heb eu mabwysiadu yn fater lleol a chenedlaethol. Yn fy marn i, mae felly'n cyfiawnhau ymagwedd genedlaethol er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ar draws yr holl awdurdodau. Mae dod o hyd i ateb yn galw am fewnbwn gan nifer o chwaraewyr allweddol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Lywodraeth Cymru, awdurdodau priffyrdd a chynllunio lleol, parciau cenedlaethol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr, Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai a chwmnïau morgeisi.
Mae angen ystyried dau faes: mater uniongyrchol dod â ffyrdd heb eu mabwysiadu presennol i safonau mabwysiadwy, ac yna mae angen datblygu ffordd sy'n osgoi gweld y problemau presennol yn cael eu hailadrodd mewn datblygiadau yn y dyfodol. Rwy'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig yn y broses o gychwyn y newid hwn, ac felly rwy'n falch iawn o allu hysbysu'r Aelodau heddiw fy mod wedi gofyn i fy swyddogion gael trafodaethau â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ddatblygu tasglu i ddatrys y broblem hon ar draws ein gwlad. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol, byddwn yn adolygu'r sefyllfa bresennol ac yn cyflwyno argymhellion ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r problemau i brynwyr a amlinellwyd gan yr Aelodau ar draws y Siambr heddiw, a'u hosgoi yn y dyfodol. Fel y dywedais yn flaenorol mewn perthynas â seilwaith arall yng Nghymru, er nad Llywodraeth Cymru yw achos y broblem, yn sicr gallwn gynnig gwellhad.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn y ddadl hon, credaf ein bod wedi gweld Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ei orau, a dweud y gwir. Mae hwn yn fater o bwysigrwydd cenedlaethol, ac mae'n galw am ddull cenedlaethol o weithredu, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei amlinellu, ac rwy'n fodlon iawn ar ei ymateb yn cytuno â'r egwyddor ganolog o dasglu i ddwyn ynghyd pawb sydd â diddordeb a gwybodaeth, a dyletswydd, yn wir, i ddatrys y mater hwn.
Am gyfnod rhy hir, mae'r mater hwn wedi'i anwybyddu. Mae fy llwyth achosion dros 20, 25 mlynedd o fod yn gynrychiolydd etholedig wedi cyrraedd y cannoedd, bellach, ar y mater penodol hwn. Nid oeddwn yn sylweddoli bod llwyth achosion pawb arall hefyd wedi cyrraedd y cannoedd hefyd. Nid wyf wedi cael hwyaid eto, ond mater o amser ydyw. Ond mae'n creu llawer iawn o emosiwn ac angerdd yn ogystal, oherwydd rwyf wedi bod mewn cymaint o gyfarfodydd dros y blynyddoedd lle mae pobl wedi dweud, 'Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid oes dim y gellir ei wneud,' wyddoch chi. Ac rydych yn aelod etholedig ac eisiau helpu pobl, ac mae problem yno, a phobl yn dweud, 'A, wel, nid yw'n fater cynllunio' ac yn y blaen. Wel, mae angen i bethau newid. Mae angen i bethau newid. Rwy'n hapus iawn gyda'r ddadl hon y prynhawn yma. Rydym wedi dod at ein gilydd. Rydym wedi penderfynu fod yna broblem enfawr yma. Mae llawer o emosiwn wedi bod. Mae ein hetholwyr yn cael eu cam-drin. Nid oes term cryfach. Mae yna broblem sydd angen ei datrys. Hynny yw, roeddwn yn siarad â rhywun a ddywedodd, 'Dai, ffyrdd heb eu mabwysiadu—nid yw hynny'n ysgytwol'. Wel, rwyf fi newydd ddarganfod pa mor ysgytwol ydyw, a dweud y gwir, oherwydd, os ydych yn berchennog tŷ â ffryntiad ar ffordd heb ei mabwysiadu, mae'n broblem enfawr. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn—. Mike.
Y cyfan roeddwn am ei ddweud, wrth gwrs, yw bod nifer o'r bobl sy'n byw ar ffyrdd heb eu mabwysiadu heb wybod bod y ffyrdd hynny heb eu mabwysiadu hyd nes bod ganddynt broblem.
Yn hollol. Yn hollol. Diolch yn fawr iawn wir, Mike, a chi oedd y siaradwr cyntaf yn ogystal, felly diolch yn fawr iawn. Yn wir, un o'r elfennau sydd angen i'r tasglu edrych arnynt yw newid yn y caniatâd cynllunio, newid mewn cyfraith cynllunio. Credaf ein bod wedi clywed llawer o sylwadau am hynny. Aeth David Melding, yn ei ffordd fendigedig ei hun, â ni'n ôl, yn amlwg, ymhellach nag yr hoffai rhai ohonom ei gofio, neu y gallwn ei gofio hyd yn oed, i 1925. Ond roedd y 92km o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghaerdydd yn ystadegyn diddorol, gan mai hwnnw yw'r ystadegyn mwyaf diweddar a gefais y prynhawn yma, mewn gwirionedd. Lynne Neagle, diolch yn fawr iawn am yr hwyaden—bydd hynny'n aros yn y cof—a'ch llif cyson o gwynion yn ogystal. Gan mai dyna ydyw, llif cyson o gwynion y teimlwch na allwch eu datrys, ond mae'r cwynion yn dal i ddod.
Siân Gwenllian: stad newydd, stad Caeau Gleision. Wel, nid yw hi'n newydd—40 mlynedd dywedais di—efo nifer o ffyrdd yn y fanna sydd heb eu mabwysiadu hefyd. Dim hwyaid yn y fanna.
David Rowlands, diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad—a Nick Ramsay—yn pwysleisio'r materion iechyd a diogelwch go iawn a'r angen i newid y gyfraith gynllunio. A chyflwyniad pwerus iawn, unwaith eto, gan Hefin David yma, am y nifer enfawr o ffyrdd heb eu mabwysiadu a'r gamdriniaeth a ddioddefwyd gan etholwyr, a'r un pwynt a wnaeth Rhun yn ogystal. Felly, mae'n amlwg—. Mae'n effeithio ar Gymru gyfan, y ffordd y caiff pobl eu trin, gyda phroblem onest iawn sy'n gofyn am ei datrys.
Diolch unwaith eto i Darren Millar, a amlinellodd yr un materion eto, ym Mae Cinmel, gyda chyflwr gwael y ffyrdd, i bobl eiddil ac oedrannus—gwylanod y tro hwn, nid hwyaid—ond yn amlwg y costau enfawr anfforddiadwy i fabwysiadu, a'r angen am atebion arloesol.
Diolch yn fawr, Vikki. Diolch yn fawr iawn wir, Vikki. A hefyd y pwynt ei fod yn fater o ystadau sydd heb eu mabwysiadu lawn cymaint â ffyrdd heb eu mabwysiadu, a bod adeiladwyr tai—. Nid yn unig adeiladwyr tai sydd wedi mynd i'r wal; mae'n ymwneud ag adeiladwyr tai sydd ymhell iawn o fynd i'r wal yn elwa ar y profiad hwn. A gwnaeth Mick bwyntiau tebyg yn ogystal, o ran ei gysylltu â mater lesddaliad hefyd a'r newid mewn cynllunio. A bod sefyllfa yswiriant cenedlaethol yn rhywbeth, unwaith eto, y gallai tasglu cenedlaethol ei ddwyn ynghyd. A diolch hefyd, Michelle Brown, am wneud y pwynt hwnnw ynghylch caniatâd cynllunio hefyd, yn enwedig ar ystadau a adeiladir o'r newydd.
Ac fel y dechreuais, gan ailadrodd diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ymateb yn gadarnhaol i'r hyn sydd wedi bod yn ddadl bwerus iawn gyda chefnogaeth lawn ar bob ochr—oes, mae llawer o emosiwn ac angerdd a phethau wedi bod, ond mae'n dangos bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gorff cenedlaethol go iawn pan allwn ddod at ein gilydd gyda'n heriau lleol a mynnu ateb cenedlaethol. Felly, cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch. Y cwestiwn yw—y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.