Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac rydw i'n falch o agor y ddadl yma ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.
Nawr, yn dilyn fy etholiad i Gyngor Sir Abertawe yn 1998, un o'r darnau cyntaf o waith achos y gwnes i eu derbyn oedd un yn ymwneud â heol oedd heb ei mabwysiadu, ym mhentref Waunarlwydd. Roedd y ffordd dan sylw yn llawn tyllau, yn anwastad, yn peri risg iechyd a diogelwch i'r rheini a oedd yn ei defnyddio, ac, yn y pen draw, yn tynnu oddi wrth harddwch yr ardal leol. Roedd y ffordd heb ei mabwysiadu ers degawdau, a byddai cerddwyr a cherbydau yn wynebu amser anodd wrth iddynt geisio symud ar ei hyd. Roedd y trigolion lleol ac ymwelwyr yn gwbl anfodlon, ac, 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ffordd yn parhau heb ei mabwysiadu, ac maent yn parhau i fod yn anfodlon.
Nid yw'r ffordd yn Waunarlwydd, wrth gwrs, yn enghraifft unigryw. Trwy Gymru gyfan, ym mhob etholaeth, gwelwn enghraifft ar ôl enghraifft o'r ffyrdd hyn. Mae rhai o'r ffyrdd hyn yn hynafol, ac mae perchnogaeth o'r ffyrdd hŷn yn aml yn anhysbys. Yng Nghymru, gwelwyd llawer o'r ffyrdd yma yn cael eu datblygu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddarparwyd tir ar gyfer bythynnod glowyr o ystadau'r aristocratiaeth glo. Tai teras a adeiladwyd yn aml, gyda’r seilwaith lleiaf posib. Gyda gwladoli'r diwydiant, gwerthwyd rhai tai i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, ond nid oedd yr hyn a ddigwyddodd i'r tir rhyngddynt yn glir.
Pan ddinistriwyd y diwydiant glo yn y 1980au, daeth y materion perchnogaeth tir yma hyd yn oed yn fwy aneglur. Yn aml heb unrhyw oleuadau stryd, dim draeniad a dim wyneb ar y ffordd, mae'r ffyrdd hyn yn troi’n ardaloedd anhygyrch i drigolion oedrannus, yn enwedig yn ystod y nosweithiau a misoedd y gaeaf. Maen nhw hefyd yn anaddas ar gyfer plant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig—ddim yn lle ar gyfer beic neu fwrdd sglefrio, neu'n lle diogel i gicio pêl. Yn ychwanegol i hyn, mae'r ffyrdd hyn hefyd yn gallu bod yn hollol anaddas ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys, fel ambiwlans neu injan dân, ac yn gallu creu straen ychwanegol wrth i’r gwasanaethau brys drial ymateb i argyfwng. Oherwydd eu cyflwr gwael, maent yn aml yn arwain at lefelau sylweddol o lythyrau, negeseuon e-bost a chysylltiadau ffôn rhwng trigolion a chynghorau sir ledled Cymru, yn aml yn mynd rownd mewn cylchoedd, a'r problemau yn parhau.