Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr iawn i Dai Lloyd am ddod â’r ddadl yma gerbron. Dyma’r drydedd ddadl, rydw i'n credu, sydd wedi bod ar feysydd tebyg. Rydym wedi trafod inswleiddio waliau ceudod a’r defnydd o brydlesi, a rŵan hon heddiw. Maen nhw yn faterion sydd yn poeni ein hetholwyr ni, ac mae’n briodol iawn ein bod ni yn eu trafod nhw yma yn y Cynulliad, ac yn bwysicach, yn ceisio datrysiad ar gyfer y materion yma.
Rydw i’n mynd i sôn wrthych chi am un enghraifft yn fy etholaeth i sydd yn enghraifft berffaith, i ddweud gwir, o beth sydd o dan sylw y prynhawn yma. Mae stad Caeau Gleision, Rhiwlas yn stad o 80 o dai a gafodd eu hadeiladu rhwng 1975 a dechrau'r 1980au. Mae'r cul-de-sacs yna bellach mewn cyflwr trychinebus, a dweud y lleiaf. Nid wyf wedi gweld yr hwyaid yna eto, ond mae yna dyllau dŵr mawr yno, ac mae yna broblemau dybryd yno. Nid ydy'r ffyrdd na'r cul-de-sacs ar yr ystâd yma erioed wedi cael eu mabwysiadu gan yr awdurdod lleol, sef Cyngor Gwynedd, ac mae yna naw o'r cul-de-sacs yna ar yr ystâd. Dros amser, mae'r wyneb a osodwyd gan y datblygwr fwy neu lai wedi cael ei olchi ymaith, gan adael tyllau a phyllau o ddŵr, craig mewn rhannau, neu isadeiledd y ffordd. Dyna i gyd sydd ar ôl. O'r hyn rwyf yn ei ddeall hefyd, mae yna bibellau pitch fibre wedi cael eu gosod i gario dŵr wyneb i ffwrdd, a tra bod y fath yma o bibellau yn cael eu hargymell ar y pryd, maen nhw bellach wedi colli eu siâp, ac nid ydynt yn ffit i bwrpas. Maen nhw angen eu hadnewyddu.
Mae yna unigolion o'r ystâd sydd wedi ceisio mynd i'r afael â'r broblem yma—wedi bod yn cysylltu efo'r cyngor sir, ac mae'r Aelod Seneddol a minnau fel yr Aelod Cynulliad wedi bod yn ceisio eu helpu nhw, ond yn anffodus, heb fawr o lwyddiant i gael y maen i'r wal hyd yma. Yr ymateb yr ydym yn ei gael gan Gyngor Gwynedd ydy nad ydy'r ffyrdd na'r cul-de-sacs wedi cael eu mabwysiadu, ac felly, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, nid ydyn nhw'n bwriadu gwneud dim byd am y sefyllfa. Erbyn hyn, oherwydd cyflwr y strydoedd yma, mae'r ystâd yn ei chyfanrwydd yn ymddangos yn flêr iawn, er gwaethaf y ffaith bod y trigolion yn ceisio eu gorau i gadw edrychiad eu tai mor dwt a thaclus â phosib.
Rydym ni yn yr etholaeth wedi ceisio gwneud ychydig o ymchwil i hyn i weld beth sy'n bosibl, ac wedi bod yn astudio llyfr gan yr awdur Andrew Barsby—llyfr o'r enw Private Roads. Mae hwn yn cynnwys nifer o awgrymiadau ynglŷn â sut y gall trigolion weithredu, ond mae o'n dibynnu, i raddau helaeth, ar gael perchnogaeth o'r ffordd dan sylw, sydd ddim yn broses hawdd bob tro. Mae datblygwyr yn diflannu, ac mae o'n gallu bod yn broses ddrud iawn hefyd i unigolion, wrth gwrs. Yn ôl y llyfr Private Roads, os nad yw'n bosibl cael perchnogaeth o'r ffordd arbennig, mae modd i drigolion lleol wella cyflwr y ffordd, ond maen nhw'n rhedeg y risg o gael eu herlyn ar sail tresmasu anghyfreithlon.
Felly, mae'n sefyllfa anodd, ac rwy'n croesawu'r cynigion fan hyn, yn enwedig y syniad o sefydlu tasglu a chael rhaglen waith bwrpasol, fel ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r broblem yma yn wirioneddol a thaclo rhywbeth sydd yn digwydd ymhob etholaeth, y buaswn i'n tybio. Diolch yn fawr.