Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 14 Chwefror 2018.
Yn hollol. Roeddwn yn dod at hynny fel rhan o'r alwad am dasglu yn nes ymlaen. Mae angen inni wybod yn union lle rydym arni yn awr. Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer yr ystadau newydd sy'n cael eu datblygu gydag aelwydydd wedyn yn ddarostyngedig i ffioedd rheoli blynyddol, weithiau'n gannoedd o filoedd o bunnoedd y flwyddyn ar ben eu biliau treth gyngor. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod nifer y ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru ar gynnydd. Efallai na allem roi ffigur cenedlaethol arno—rwy'n siŵr ein bod yn gweithio arno—ond gallwn i gyd weld y realiti ar lawr gwlad.
Gan na all preswylwyr droi at yr awdurdod lleol i gynnal eu ffyrdd, rhaid iddynt wneud hynny eu hunain. Bydd trigolion weithiau'n ffurfio cymdeithas, yn casglu cyfraniadau, yn trefnu gwaith cynnal a chadw ac yn ymdrin â materion eraill megis yswiriant, parcio, trin coed, hawliau tramwy ac ati. Daw hyn â straen i brynwyr tai, trigolion lleol a chynrychiolwyr lleol, sy'n aml yn arwain at anghytundeb, tensiynau yn y gymuned, costau cyfreithiol a llawer o amser swyddogion awdurdodau lleol yn cael ei wastraffu'n mynd dros yr un dadleuon flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rhaid bod ffordd well, ffordd symlach, ffordd decach.
Mae mater cyngor cyfreithiol yn un agwedd sy'n codi dro ar ôl tro. Clywn am enghreifftiau o ystadau tai newydd yn cael eu hadeiladu, y datblygwr yn mynd i ddwylo'r derbynnydd a'r trigolion yn cael eu gadael i dalu'r bil er mwyn gwella'r ffordd i safon fabwysiadwy. Yn aml iawn, mae'r symiau y mae'r cyfreithwyr wedi'u cadw at y diben hwn yn gwbl annigonol—ychydig gannoedd o bunnoedd yn unig, lle mae'r gost wirioneddol ar gyfer sicrhau bod y system garthffosiaeth, y ffyrdd a goleuadau yn cyrraedd safonau mabwysiadwy yn filoedd o bunnoedd. I lawer o deuluoedd ar incwm isel sydd wedi gwario'u cynilion ar brynu eu cartref cyntaf, dyma draul na allant ei dalu. Mae'n annheg, ac mae'n greulon. Pa gyngor sydd ar gael i gyfreithwyr i'w helpu i neilltuo lefelau digonol o symiau dargadw? Beth yn fwy y gall awdurdodau lleol ei wneud i wella'r sefyllfa? Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r proffesiwn cyfreithiol a chreu system deg a chyson yng Nghymru? Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y maes hwn o'r gyfraith yn cynhyrchu nifer fawr o ymholiadau gan etholwyr. Mae mabwysiadu ffyrdd yn fater datganoledig, felly mae gennym bŵer i sicrhau newid.
Mae angen inni ofyn rhai cwestiynau go sylfaenol i ni ein hunain y prynhawn yma. A ydym yn credu bod y sefyllfa bresennol yn annerbyniol? A ydym yn credu y gallwn ddatblygu system well? A ydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi camau ar waith i fynd i'r afael â'r broblem? Yr ateb i'r cwestiynau hynny, yn fy marn i, yw 'ydym', 'ydym' ac 'ydym'.