5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:24, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn groesawu'r ddadl hon, oherwydd yn dilyn y ddadl ar lesddaliad, mae'n dangos pwysigrwydd y mathau hyn o ddadleuon sy'n nodi materion sy'n ennyn cefnogaeth drawsbleidiol lawn, ac sy'n ymwneud â phwerau sydd gennym lle y gallwn ddefnyddio'r pwerau hynny i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Roedd lesddaliad yn un, dyma'r llall.

Hoffwn ddiolch hefyd i David Melding am fy atgoffa am Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. [Chwerthin.] Nid oedd modd cyfyngu'r darn gwych hwnnw o ddeddfwriaeth ddiwygio i lai na 1,000 o dudalennau ac fe gynhaliodd fwy o silffoedd llyfrau nag y deuthum ar eu traws erioed. Hefyd diolch i Darren Millar, mewn gwirionedd, am ei ddisgrifiad o anghyfiawnderau'r system gyfalafol. [Chwerthin.] Ond yn arbennig diolch i Dai Lloyd am ei esboniad Shakespearaidd bron o'r anghyfiawnder sy'n bodoli.

Ceir nifer o bwyntiau syml yr hoffwn eu hychwanegu. Yn gyntaf, caniatâd cynllunio. Pa un a ydynt yn ystadau sy'n cael eu cynnal a'u cadw neu beth bynnag, gwyddom ei bod yn amlwg fod angen mwy na dim ond rhoi caniatâd cynllunio. Yn union fel na ddylem ganiatáu i ganiatâd cynllunio gael ei roi i eiddo newydd â lesddaliad, mae'r un peth yn union yn berthnasol yma hefyd.

Yn ail, o ran ffyrdd anorffenedig a chyfrifoldebau ac ati ar gyfer eiddo newydd, pam na allwn gael peth syml fel tystysgrif Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai? Mae gennych hynny—rhywbeth sy'n rhoi gwarant os yw datblygwr eiddo yn mynd i'r wal, gwarant o ran cywiro'r adeiledd. Pam na allech gael rhywbeth yn union fel hynny sy'n rhoi estyniad o'r fath—? Oherwydd craidd hyn yw diffyg gwarantau a blaendaliadau, fel bod modd, os yw'r datblygwr yn diflannu neu os nad yw'n ei gyflawni, i'r sawl sy'n prynu tŷ ddweud, 'Wel, dyna'r arian, dyna'r adnodd neu'r warant sy'n galluogi i hyn gael ei wneud.' Mae'n ymddangos i mi mai dyna'r dyfodol.

Y pwynt a wnaed o ran y cwmnïau eu hunain, oherwydd yr hyn y byddant hwy yn ei ddweud, wrth gwrs, yw 'A, ie, ond mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n ychwanegu at y gost ac ati.' Mae'r datblygwyr eiddo hyn yn gweithio ar elw o 25 y cant fan lleiaf. Dyma'r peth. Dyma ymelwa o'r math gwaethaf, ac mae'r ffaith bod gennych un o gyfarwyddwyr un o'r cwmnïau hyn gyda llawer o eiddo yng Nghymru, a rhai ohonynt yn cael bonws o £150 miliwn—. Hynny yw, mae allan o reolaeth ac mae'n gwbl warthus. Mae'n sgandal gyhoeddus.