5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:34, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn y ddadl hon, credaf ein bod wedi gweld Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ei orau, a dweud y gwir. Mae hwn yn fater o bwysigrwydd cenedlaethol, ac mae'n galw am ddull cenedlaethol o weithredu, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei amlinellu, ac rwy'n fodlon iawn ar ei ymateb yn cytuno â'r egwyddor ganolog o dasglu i ddwyn ynghyd pawb sydd â diddordeb a gwybodaeth, a dyletswydd, yn wir, i ddatrys y mater hwn.

Am gyfnod rhy hir, mae'r mater hwn wedi'i anwybyddu. Mae fy llwyth achosion dros 20, 25 mlynedd o fod yn gynrychiolydd etholedig wedi cyrraedd y cannoedd, bellach, ar y mater penodol hwn. Nid oeddwn yn sylweddoli bod llwyth achosion pawb arall hefyd wedi cyrraedd y cannoedd hefyd. Nid wyf wedi cael hwyaid eto, ond mater o amser ydyw. Ond mae'n creu llawer iawn o emosiwn ac angerdd yn ogystal, oherwydd rwyf wedi bod mewn cymaint o gyfarfodydd dros y blynyddoedd lle mae pobl wedi dweud, 'Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid oes dim y gellir ei wneud,' wyddoch chi. Ac rydych yn aelod etholedig ac eisiau helpu pobl, ac mae problem yno, a phobl yn dweud, 'A, wel, nid yw'n fater cynllunio' ac yn y blaen. Wel, mae angen i bethau newid. Mae angen i bethau newid. Rwy'n hapus iawn gyda'r ddadl hon y prynhawn yma. Rydym wedi dod at ein gilydd. Rydym wedi penderfynu fod yna broblem enfawr yma. Mae llawer o emosiwn wedi bod. Mae ein hetholwyr yn cael eu cam-drin. Nid oes term cryfach. Mae yna broblem sydd angen ei datrys. Hynny yw, roeddwn yn siarad â rhywun a ddywedodd, 'Dai, ffyrdd heb eu mabwysiadu—nid yw hynny'n ysgytwol'. Wel, rwyf fi newydd ddarganfod pa mor ysgytwol ydyw, a dweud y gwir, oherwydd, os ydych yn berchennog tŷ â ffryntiad ar ffordd heb ei mabwysiadu, mae'n broblem enfawr. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn—. Mike.