5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 4:28, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Cytunaf â'r pryder a fynegwyd gan y cynnig nad yw rhai datblygwyr wedi bod yn adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy, gan adael y costau o sicrhau bod y ffordd yn cyrraedd y safon yn gadarn ar garreg drws y sawl sy'n prynu'r tŷ neu fel arall, yn gorfodi perchnogion tai i dalu costau cynnal a chadw parhaus. Rwy'n falch iawn felly o allu siarad o blaid y cynnig. Mae eraill, gan gynnwys Dai yn enwedig, wedi ymdrin yn helaeth â ffyrdd heb eu mabwysiadu, felly rwyf am siarad am ystadau a adeiladir o'r newydd. Maddeuwch i mi os wyf yn ailadrodd yr hyn a ddywedwyd eisoes, oherwydd rwy'n cytuno â phawb ohonoch, fwy neu lai.

I'r rhan fwyaf o brynwyr tai, os nad y cyfan, proses o brynu tŷ yw hi—proses o brynu tŷ neu gartref, nid prynu darn o ffordd neu geisio datrys sut i'w chynnal. Er ei bod yn wir y bydd cynghorwyr proffesiynol yn cynghori eu cleientiaid sy'n prynu cartrefi am oblygiadau ffyrdd heb eu mabwysiadu, nid yw'r prynwr mewn sefyllfa i asesu faint y bydd yn ei gostio iddynt ac i allu asesu'n briodol beth fydd y risg sy'n deillio o ffyrdd heb eu mabwysiadu. At hynny, erbyn yr adeg y bydd y prynwr yn cael y sgwrs honno gyda'u cynghorydd, ar ba ffurf bynnag y bydd y sgwrs honno'n digwydd, bydd y prynwr wedi gwneud buddsoddiad ariannol ac emosiynol, a buddsoddiad o ran amser, yn prynu'r cartref. Mae'n anodd iawn troi cefn ar yr eiddo hwnnw, ac mae'n amhosibl gwneud hynny os mai dyna'r unig gartref y gallwch ei fforddio.

Ond rwy'n anghytuno bod y broblem yn deillio'n llwyr o wendid yn y broses o brynu tŷ. Does bosibl nad problem a achosir yn bennaf gan wendid yn y broses ganiatâd cynllunio yw hon, problem sydd wedi'i hamlygu gan bawb a siaradodd heddiw fwy neu lai. Mae'n ymddangos i mi mai'r adeg i fynd i'r afael â mabwysiadu ffyrdd datblygiad yw ar adeg rhoi'r caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol. Yn fy marn i, os yw datblygwr am adeiladu ystâd o dai a chymryd yr elw sy'n deillio o hynny, dylai'r un datblygwr sicrhau bod y ffyrdd ar y datblygiad o safon ddigon da i'w mabwysiadu gan yr awdurdod lleol. Ni ddylid disgwyl i drigolion lleol ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ddatblygu'r broses honno ac uwchraddio'r ffordd, gan obeithio y bydd y cyngor yn mabwysiadu'r ffordd.

Y cwestiwn mawr i mi, ac mae rhan ohono wedi'i ateb heddiw, yw pam nad yw adrannau cynllunio mewn awdurdodau lleol eisoes wedi pennu bod angen adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy—mae wedi'i ateb, rwy'n gwybod—a pham nad yw adrannau priffyrdd yr un awdurdodau lleol wedi bod yn mynd i'r afael â hyn ers blynyddoedd. Ond mae hyn wedi bod yn digwydd ers achau. Datganolwyd cynllunio beth amser yn ôl, felly y cwestiwn rhesymegol yma yw: pam nad yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi sylw i hyn? Mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd.

Felly, mae'r syniad o dasglu yn un rhagorol, rwy'n credu. Nid yw'r mater yn syml, ac mae angen ystyried yr opsiynau'n briodol, gan gynnwys diwygio neu greu deddfwriaeth gynllunio briodol. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Diolch.