Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 14 Chwefror 2018.
Cytunodd y pwyllgor mai un o'n blaenoriaethau cyntaf fyddai ystyried faint sy’n dioddef oherwydd unigrwydd, y rhesymau dros eu hunigrwydd, a’i effaith. Er ein bod yn ymwybodol iawn bod unigrwydd ac unigedd yn effeithio ar lawer o grwpiau eraill, mae'r ymchwiliad hwn wedi canolbwyntio'n bennaf ar bobl hŷn. Mae gan Gymru ganran uwch o bobl hŷn yn ei phoblogaeth nag unrhyw ran arall o'r DU. Rydym ni wedi clywed bod 18 y cant o bobl y DU yn teimlo'n unig 'drwy'r amser' neu 'yn aml', sy'n cyfateb i ryw 458,000 o bobl yma yng Nghymru. Mae'r ffigur hwn yn peri cryn bryder oherwydd, yn ôl yr hyn a glywsom, mae llawer o bobl hŷn yn amharod i gyfaddef eu bod yn teimlo’n unig. Gall y ffigur, felly, fod yn sylweddol uwch mewn gwirionedd.
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth y llynedd, gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Cafwyd 39 o ymatebion ysgrifenedig, a'r rheini gan ystod o sefydliadau gofal iechyd, grwpiau proffesiynol a sefydliadau o'r trydydd sector. Clywsom dystiolaeth lafar gan nifer o dystion, ac fe gymerais i ran yn lansio'r ymchwiliad mewn darllediad ar Facebook Live—gweplyfr byw—gan annog y gwylwyr i rannu eu barn ynghylch pa mor gyffredin y maent yn ystyried y mae unigrwydd ac unigedd, a'r hyn a all sbarduno hynny.
Bu aelodau'r pwyllgor hefyd yn rhan o sesiynau grŵp ffocws yng Nghasnewydd, fel rhan o'r rhaglen Senedd@Casnewydd ar y pryd. Gwnaethom gwrdd â phobl sy'n profi unigrwydd ac unigedd a phobl sy'n rhan o fentrau i'w cefnogi, ac roedd yn braf iawn gennym allu dychwelyd i gaffi Horton's yn Nghasnewydd ym mis Rhagfyr i lansio ein hadroddiad a chlywed gan yr un grŵp o bobl beth oeddent yn ei feddwl o'n canfyddiadau ni. Felly, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad.
Troi at gasgliadau ac argymhellion y pwyllgor: rydym ni wedi gwneud chwech argymhelliad i Lywodraeth Cymru, a gobeithiwn y byddant yn cyfrannu at gyflawni'r atebion sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb cadarnhaol i waith y pwyllgor.
Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull traws-lywodraethol cenedlaethol o fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd. Rydym ni'n croesawu'r ymrwymiad hwn, fodd bynnag, mae’r ffaith na chaiff hyn ei gyflawni tan 2019 yn destun pryder. Erbyn hynny, bydd unigrwydd ac unigedd wedi effeithio ar gymaint mwy o'n dinasyddion hŷn.
Ni ellir rhoi digon o bwysigrwydd i'r mater o fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, yn enwedig o ystyried yr effaith ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. O ystyried y boblogaeth gynyddol yng Nghymru sy'n heneiddio, mae angen gweithredu nawr i atal y sefyllfa rhag gwaethygu. Rydym ni'n pryderu am y grŵp o bobl dros 80 mlwydd oed yn enwedig.
Fel y soniais, mae gan Gymru gyfran fwy o bobl yn yr ystod oedran hwn nag unrhyw ran arall o'r DU. Mae'n bosibl y bydd pobl yn y grŵp hwn yn wynebu mwy o risg o fod yn unig neu wedi'u hynysu yn gymdeithasol o ganlyniad i'w hanghenion iechyd cynyddol gymhleth a'r ffaith na allent ond symud rhywfaint. Gall hynny, yn ei dro, effeithio ar eu gallu i ymgysylltu ag ystod eang o weithgareddau cymdeithasol.
Rydym wedi argymell, felly, y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried yr amserlen ar gyfer datblygu strategaeth, gyda’r bwriad o’i chyhoeddi cyn 2019, ac mae'r Gweinidog wedi derbyn hyn yn rhannol. Rydym yn cydnabod graddfa a mawredd yr her sydd o'n blaenau wrth inni fynd i'r afael â'r mater hwn, ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i barhau i adolygu'r amserlen hon a chymryd camau, lle bo'n bosibl, yn gynharach na 2019.
Soniodd nifer o'r ymatebwyr i'n hymchwiliad am y ffyrdd y mae unigrwydd ac unigedd yn effeithio ar y defnydd a wneir o wasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, clywsom fod pobl sy'n profi unigrwydd ac unigedd yn fwy tebygol o ymweld â'u meddyg teulu, cymryd cyfraddau uwch o feddyginiaeth, bod risg mwy iddynt ddisgyn, eu bod yn fwy tebygol o fynd i ofal preswyl, a gwneud mwy o ddefnydd o'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys.
Mae nifer o'r gwasanaethau hyn eisoes i'w cael; mae angen canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a hwyluso mynediad. Clywsom fod ymyrraeth gynnar, lefel isel, yn arbennig o fudd i bobl sy'n profi unigrwydd ac unigedd. Yn eironig, mae'r cyfyngiadau ariannol ar gyllid y sector cyhoeddus yn golygu mai'r gwasanaethau hyn sy'n fwyaf tebygol o gael eu torri. Roedd awgrym hefyd y gallai ymyriadau o'r fath arwain at arbedion i'r pwrs cyhoeddus yn y tymor hir. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth gadarn ar hyn o bryd i gefnogi'r honiad yma. Rydym wedi argymell, felly, bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â, neu’n comisiynu, gwaith i asesu effaith unigrwydd ac unigedd ar iechyd a llesiant, ac a yw pobl sy’n profi’r problemau hyn yn gwneud defnydd cynyddol o wasanaethau cyhoeddus. Dyna argymhelliad 3.
Fel y noda'r Gweinidog yn ei ymateb i'r argymhelliad hwn, mae atal cynnydd yn anghenion pobl hyd at bwynt lle eu bod yn gronig ac yn dioddef dros y tymor hir yn greiddiol i leihau pwysau y gellid ei osgoi ar y gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n ddiolchgar iddo am dderbyn yr argymhelliad hwn ac am ymrwymo i ategu'r dystiolaeth a ddarparwyd i'r pwyllgor drwy gomisiynu ymchwil annibynnol wedi'i thargedu i'r defnydd a wneir o wasanaethau cyhoeddus gan bobl sy'n profi unigrwydd ac unigedd a'r costau sy'n gysylltiedig â hyn.
Mae argymhelliad 4 yn ymwneud â chyllid ar gyfer y sector gwirfoddol. Mae rôl hanfodol grwpiau gwirfoddol wrth ddarparu ystod eang o weithgareddau a chymorth i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn cael ei chydnabod yn eang, ac roeddem wedi ein plesio â llawer o'r gwaith y clywsom amdano. Mae gan gyrff gwirfoddol le unigryw i ymateb i anghenion cymunedau lleol ac i elwa ar adnoddau lleol, megis staff gwirfoddol. Fodd bynnag, mae natur byrdymor y trefniadau cyllido a'r cymhlethdod o ran cael cyllid grant yn gallu bod yn her i sefydliadau llai o faint. Yn rhy aml, mae prosiectau llwyddiannus yn cael eu gorfodi i ddod i ben pan nad oes cyllid ar ôl. Rydym yn credu, felly, bod angen i gyllid gynnig gwell cysondeb a sefydlogrwydd i wasanaethau'r sector gwirfoddol—am o leiaf dair blynedd—os ydynt am gael effaith hirhoedlog mewn cymunedau lleol.
Mae'n siom nad yw'r Gweinidog ond yn derbyn yr argymhelliad hwn yn rhannol, gan y clywsom gan y sawl sy'n darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn sut y gall trefniadau cyllido graddfa fach a byrdymor effeithio ar gymhelliant staff, a chlywsom sut y mae angen chwilio'n rheolaidd am ffynonellau cyllid newydd. Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r ffaith iddo roi sicrwydd y bydd y gwaith o ddatblygu dull i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn cynnwys gwaith pellach efo'r sector gwirfoddol a llywodraeth leol i bennu beth yn fwy y gellid ei wneud i sicrhau sefydlogrwydd ariannol i wasanaethau allweddol.
Cawsom ein plesio efo'r dystiolaeth a glywsom ynghylch cyswllt rhwng cenedlaethau, a all fod yn fwy buddiol na chyswllt efo'r un grŵp oedran, weithiau. Rydym yn gwybod bod enghreifftiau o arfer da yn digwydd ar draws Cymru, ac rydym yn credu bod angen gwerthuso buddion y fath gynlluniau gyda golwg ar eu cyflwyno'n ehangach. Rydym wedi argymell, felly, bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwerthusiad i asesu effaith cyswllt rhwng cenedlaethau ar bobl sy’n profi unigrwydd ac unigedd. Dyna argymhelliad 5. Os yw’r gwerthusiad yn amlygu manteision cyswllt o’r fath, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod arfer gorau yn y maes hwn yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.
I gloi, hoffwn drafod y mater o stigma, sydd yn argymhelliad 6. Un o'r prif faterion a godwyd efo ni oedd stigma. Mae pobl yn amharod i gyfaddef eu bod yn unig, felly mae'n bosib bod y broblem yn llawer gwaeth na'r hyn a ragdybir ar hyn o bryd. Mae hyn yn arbennig o wir ymysg dynion, sydd efo risg llawer uwch o gyflawni hunanladdiad. Clywsom hefyd am gylch unigrwydd. Mae pobl efo gormod o gywilydd i gyfaddef bod arnynt angen help, yn fwy cyffredinol, ac felly maent yn ynysu eu hunain rhag y gymdeithas. Po fwyaf ynysig y bydd pobl, y mwyaf unig y maent yn debygol o fod, a'r lleiaf tebygol y maent o geisio help, sydd ar gael pan fo ei angen.
Rydym oll yn ymwybodol iawn o'r gwaith da gan Amser i Newid Cymru o ran ei gwneud yn haws siarad am iechyd meddwl. Mae ein hargymhelliad, felly, yn galw am ymgyrch tebyg i newid agwedd y cyhoedd tuag at unigrwydd ac unigedd. Fel y mae'r Gweinidog yn gywir i'w nodi, er bod unigrwydd ac unigedd wedi cael sylw cynyddol yn genedlaethol oherwydd gwaith grwpiau megis yr Ymgyrch i Ddileu Unigrwydd, Age UK a'r Groes Goch Brydeinig, mae dal angen rhagor o waith i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Croesawaf ei ymateb cadarnhaol i'r argymhelliad hwn, ac edrychaf ymlaen at weld ymgyrch ymwybyddiaeth cenedlaethol yn cael ei datblygu. Edrychaf ymlaen at y ddadl. Diolch yn fawr.