– Senedd Cymru am 4:39 pm ar 14 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd. Galwaf ar Dai Lloyd i wneud y cynnig. Dai.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd. Fel rydym ni i gyd yn gwybod, gall unigrwydd ac unigedd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn ystod eu hoes. Mae tystiolaeth i awgrymu y gall unigrwydd ac unigedd effeithio’n sylweddol ar ein hiechyd corfforol a'n hiechyd meddyliol, a gall achosi iselder, problemau cysgu, straen, a hyd yn oed broblemau gyda'r galon. Rwy'n siŵr ein bod ni oll wedi clywed yr ystadegyn hwn: gall profi unigrwydd ac unigedd fod mor niweidiol i chi ag ysmygu 15 sigarét y dydd. Felly, drwy leihau’r nifer sy'n wynebu’r problemau hyn, dylai’r galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol hefyd leihau.
Cytunodd y pwyllgor mai un o'n blaenoriaethau cyntaf fyddai ystyried faint sy’n dioddef oherwydd unigrwydd, y rhesymau dros eu hunigrwydd, a’i effaith. Er ein bod yn ymwybodol iawn bod unigrwydd ac unigedd yn effeithio ar lawer o grwpiau eraill, mae'r ymchwiliad hwn wedi canolbwyntio'n bennaf ar bobl hŷn. Mae gan Gymru ganran uwch o bobl hŷn yn ei phoblogaeth nag unrhyw ran arall o'r DU. Rydym ni wedi clywed bod 18 y cant o bobl y DU yn teimlo'n unig 'drwy'r amser' neu 'yn aml', sy'n cyfateb i ryw 458,000 o bobl yma yng Nghymru. Mae'r ffigur hwn yn peri cryn bryder oherwydd, yn ôl yr hyn a glywsom, mae llawer o bobl hŷn yn amharod i gyfaddef eu bod yn teimlo’n unig. Gall y ffigur, felly, fod yn sylweddol uwch mewn gwirionedd.
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth y llynedd, gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Cafwyd 39 o ymatebion ysgrifenedig, a'r rheini gan ystod o sefydliadau gofal iechyd, grwpiau proffesiynol a sefydliadau o'r trydydd sector. Clywsom dystiolaeth lafar gan nifer o dystion, ac fe gymerais i ran yn lansio'r ymchwiliad mewn darllediad ar Facebook Live—gweplyfr byw—gan annog y gwylwyr i rannu eu barn ynghylch pa mor gyffredin y maent yn ystyried y mae unigrwydd ac unigedd, a'r hyn a all sbarduno hynny.
Bu aelodau'r pwyllgor hefyd yn rhan o sesiynau grŵp ffocws yng Nghasnewydd, fel rhan o'r rhaglen Senedd@Casnewydd ar y pryd. Gwnaethom gwrdd â phobl sy'n profi unigrwydd ac unigedd a phobl sy'n rhan o fentrau i'w cefnogi, ac roedd yn braf iawn gennym allu dychwelyd i gaffi Horton's yn Nghasnewydd ym mis Rhagfyr i lansio ein hadroddiad a chlywed gan yr un grŵp o bobl beth oeddent yn ei feddwl o'n canfyddiadau ni. Felly, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad.
Troi at gasgliadau ac argymhellion y pwyllgor: rydym ni wedi gwneud chwech argymhelliad i Lywodraeth Cymru, a gobeithiwn y byddant yn cyfrannu at gyflawni'r atebion sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb cadarnhaol i waith y pwyllgor.
Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull traws-lywodraethol cenedlaethol o fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd. Rydym ni'n croesawu'r ymrwymiad hwn, fodd bynnag, mae’r ffaith na chaiff hyn ei gyflawni tan 2019 yn destun pryder. Erbyn hynny, bydd unigrwydd ac unigedd wedi effeithio ar gymaint mwy o'n dinasyddion hŷn.
Ni ellir rhoi digon o bwysigrwydd i'r mater o fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, yn enwedig o ystyried yr effaith ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. O ystyried y boblogaeth gynyddol yng Nghymru sy'n heneiddio, mae angen gweithredu nawr i atal y sefyllfa rhag gwaethygu. Rydym ni'n pryderu am y grŵp o bobl dros 80 mlwydd oed yn enwedig.
Fel y soniais, mae gan Gymru gyfran fwy o bobl yn yr ystod oedran hwn nag unrhyw ran arall o'r DU. Mae'n bosibl y bydd pobl yn y grŵp hwn yn wynebu mwy o risg o fod yn unig neu wedi'u hynysu yn gymdeithasol o ganlyniad i'w hanghenion iechyd cynyddol gymhleth a'r ffaith na allent ond symud rhywfaint. Gall hynny, yn ei dro, effeithio ar eu gallu i ymgysylltu ag ystod eang o weithgareddau cymdeithasol.
Rydym wedi argymell, felly, y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried yr amserlen ar gyfer datblygu strategaeth, gyda’r bwriad o’i chyhoeddi cyn 2019, ac mae'r Gweinidog wedi derbyn hyn yn rhannol. Rydym yn cydnabod graddfa a mawredd yr her sydd o'n blaenau wrth inni fynd i'r afael â'r mater hwn, ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i barhau i adolygu'r amserlen hon a chymryd camau, lle bo'n bosibl, yn gynharach na 2019.
Soniodd nifer o'r ymatebwyr i'n hymchwiliad am y ffyrdd y mae unigrwydd ac unigedd yn effeithio ar y defnydd a wneir o wasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, clywsom fod pobl sy'n profi unigrwydd ac unigedd yn fwy tebygol o ymweld â'u meddyg teulu, cymryd cyfraddau uwch o feddyginiaeth, bod risg mwy iddynt ddisgyn, eu bod yn fwy tebygol o fynd i ofal preswyl, a gwneud mwy o ddefnydd o'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys.
Mae nifer o'r gwasanaethau hyn eisoes i'w cael; mae angen canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a hwyluso mynediad. Clywsom fod ymyrraeth gynnar, lefel isel, yn arbennig o fudd i bobl sy'n profi unigrwydd ac unigedd. Yn eironig, mae'r cyfyngiadau ariannol ar gyllid y sector cyhoeddus yn golygu mai'r gwasanaethau hyn sy'n fwyaf tebygol o gael eu torri. Roedd awgrym hefyd y gallai ymyriadau o'r fath arwain at arbedion i'r pwrs cyhoeddus yn y tymor hir. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth gadarn ar hyn o bryd i gefnogi'r honiad yma. Rydym wedi argymell, felly, bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â, neu’n comisiynu, gwaith i asesu effaith unigrwydd ac unigedd ar iechyd a llesiant, ac a yw pobl sy’n profi’r problemau hyn yn gwneud defnydd cynyddol o wasanaethau cyhoeddus. Dyna argymhelliad 3.
Fel y noda'r Gweinidog yn ei ymateb i'r argymhelliad hwn, mae atal cynnydd yn anghenion pobl hyd at bwynt lle eu bod yn gronig ac yn dioddef dros y tymor hir yn greiddiol i leihau pwysau y gellid ei osgoi ar y gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n ddiolchgar iddo am dderbyn yr argymhelliad hwn ac am ymrwymo i ategu'r dystiolaeth a ddarparwyd i'r pwyllgor drwy gomisiynu ymchwil annibynnol wedi'i thargedu i'r defnydd a wneir o wasanaethau cyhoeddus gan bobl sy'n profi unigrwydd ac unigedd a'r costau sy'n gysylltiedig â hyn.
Mae argymhelliad 4 yn ymwneud â chyllid ar gyfer y sector gwirfoddol. Mae rôl hanfodol grwpiau gwirfoddol wrth ddarparu ystod eang o weithgareddau a chymorth i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn cael ei chydnabod yn eang, ac roeddem wedi ein plesio â llawer o'r gwaith y clywsom amdano. Mae gan gyrff gwirfoddol le unigryw i ymateb i anghenion cymunedau lleol ac i elwa ar adnoddau lleol, megis staff gwirfoddol. Fodd bynnag, mae natur byrdymor y trefniadau cyllido a'r cymhlethdod o ran cael cyllid grant yn gallu bod yn her i sefydliadau llai o faint. Yn rhy aml, mae prosiectau llwyddiannus yn cael eu gorfodi i ddod i ben pan nad oes cyllid ar ôl. Rydym yn credu, felly, bod angen i gyllid gynnig gwell cysondeb a sefydlogrwydd i wasanaethau'r sector gwirfoddol—am o leiaf dair blynedd—os ydynt am gael effaith hirhoedlog mewn cymunedau lleol.
Mae'n siom nad yw'r Gweinidog ond yn derbyn yr argymhelliad hwn yn rhannol, gan y clywsom gan y sawl sy'n darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn sut y gall trefniadau cyllido graddfa fach a byrdymor effeithio ar gymhelliant staff, a chlywsom sut y mae angen chwilio'n rheolaidd am ffynonellau cyllid newydd. Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r ffaith iddo roi sicrwydd y bydd y gwaith o ddatblygu dull i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn cynnwys gwaith pellach efo'r sector gwirfoddol a llywodraeth leol i bennu beth yn fwy y gellid ei wneud i sicrhau sefydlogrwydd ariannol i wasanaethau allweddol.
Cawsom ein plesio efo'r dystiolaeth a glywsom ynghylch cyswllt rhwng cenedlaethau, a all fod yn fwy buddiol na chyswllt efo'r un grŵp oedran, weithiau. Rydym yn gwybod bod enghreifftiau o arfer da yn digwydd ar draws Cymru, ac rydym yn credu bod angen gwerthuso buddion y fath gynlluniau gyda golwg ar eu cyflwyno'n ehangach. Rydym wedi argymell, felly, bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwerthusiad i asesu effaith cyswllt rhwng cenedlaethau ar bobl sy’n profi unigrwydd ac unigedd. Dyna argymhelliad 5. Os yw’r gwerthusiad yn amlygu manteision cyswllt o’r fath, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod arfer gorau yn y maes hwn yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.
I gloi, hoffwn drafod y mater o stigma, sydd yn argymhelliad 6. Un o'r prif faterion a godwyd efo ni oedd stigma. Mae pobl yn amharod i gyfaddef eu bod yn unig, felly mae'n bosib bod y broblem yn llawer gwaeth na'r hyn a ragdybir ar hyn o bryd. Mae hyn yn arbennig o wir ymysg dynion, sydd efo risg llawer uwch o gyflawni hunanladdiad. Clywsom hefyd am gylch unigrwydd. Mae pobl efo gormod o gywilydd i gyfaddef bod arnynt angen help, yn fwy cyffredinol, ac felly maent yn ynysu eu hunain rhag y gymdeithas. Po fwyaf ynysig y bydd pobl, y mwyaf unig y maent yn debygol o fod, a'r lleiaf tebygol y maent o geisio help, sydd ar gael pan fo ei angen.
Rydym oll yn ymwybodol iawn o'r gwaith da gan Amser i Newid Cymru o ran ei gwneud yn haws siarad am iechyd meddwl. Mae ein hargymhelliad, felly, yn galw am ymgyrch tebyg i newid agwedd y cyhoedd tuag at unigrwydd ac unigedd. Fel y mae'r Gweinidog yn gywir i'w nodi, er bod unigrwydd ac unigedd wedi cael sylw cynyddol yn genedlaethol oherwydd gwaith grwpiau megis yr Ymgyrch i Ddileu Unigrwydd, Age UK a'r Groes Goch Brydeinig, mae dal angen rhagor o waith i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Croesawaf ei ymateb cadarnhaol i'r argymhelliad hwn, ac edrychaf ymlaen at weld ymgyrch ymwybyddiaeth cenedlaethol yn cael ei datblygu. Edrychaf ymlaen at y ddadl. Diolch yn fawr.
Diolch. Mae gennyf nifer o siaradwyr ar gyfer y ddadl hon. Gyda'r ddadl ddiwethaf, ni chymerodd llawer ohonoch y pum munud llawn, ac fe ganiataodd hynny i fwy o'ch cyd-Aelodau ddod i mewn. Felly, efallai y gallaf ofyn i chi feddwl am hynny ac fe geisiwn gael pawb i mewn. Lynne Neagle.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Gallai unigrwydd ac unigedd fod wedi cael eu gweld fel pynciau ymylol ychydig flynyddoedd yn ôl, ac rwy'n falch o fod wedi rhoi blaenoriaeth iddynt yn y pwyllgor iechyd a bod ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd o'r niwed y gall unigrwydd ei wneud i'n hiechyd. Rydym i gyd yn dod yn gyfarwydd ag effaith iechyd cyhoeddus unigrwydd ac unigedd megis yr ystadegyn a ddyfynnir yn aml y gall fod yr un mor niweidiol i'ch iechyd â smygu 15 o sigaréts y dydd. Ond roeddwn am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar y ffaith bod unigrwydd ac unigedd yn ffactor risg sylweddol ar gyfer hunanladdiad.
Pan roddodd Samariaid Cymru dystiolaeth i'r pwyllgor, roeddent yn dweud eu bod am symud y camau a gymerir i fynd i'r afael ag unigrwydd i mewn i ofod llawer mwy difrifol, a chredaf fod hynny'n hollbwysig, oherwydd mae mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn achub bywydau. Ddoe, gydag aelodau eraill, fe fynychais lansiad adroddiad Samariaid Cymru ar anfantais economaidd-gymdeithasol ac ymddygiad hunanladdol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn gwneud 10 o argymhellion pendant ar sut y gall Cymru leihau nifer yr achosion o hunanladdiad. Gallwn dreulio o leiaf pum munud yn sôn am bob un, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn mynd ar drywydd yr argymhellion yn yr adroddiad ardderchog hwn yn ystod y misoedd nesaf. Ond gan mai pum munud yn unig sydd gennyf, roeddwn am dynnu sylw at un neges yn yr adroddiad—y dylid ystyried grwpiau cymunedol fel ffordd o atal ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer unigrwydd, unigedd a chymorth cymdeithasol yng Nghymru, ac y dylid llunio atebion polisi i gynyddu cyfranogiad cymunedol. Mae bod mewn cysylltiad ag eraill yn achub bywydau.
Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag unigrwydd fel blaenoriaeth genedlaethol yn fawr, ond mae angen inni weld hynny'n cael ei droi'n weithredu go iawn yn awr. Mae rhai polisïau Llywodraeth yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn mynd i gyfeiriad gwahanol. Tynnwyd sylw'r pwyllgor at raglen Cymunedau yn Gyntaf mewn tystiolaeth. Cafodd ei beirniadu am feithrin mentrau mwy meddal yn hytrach na rhai caled sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth, ond yn aml, y mathau hynny o brosiectau sy'n allweddol wrth ddarparu'r cysylltedd sydd mor hanfodol i fynd i'r afael ag unigedd. Ym mis Medi, er enghraifft, mynychais fforwm defnyddwyr gwasanaethau Gofal Gwent, a chyfarfûm â defnyddwyr gwasanaethau yno sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a ddywedodd wrthyf na fyddent wedi gallu gadael y tŷ heb gymorth eu grŵp Siediau Dynion lleol, menter a arferai gael ei hariannu gan Cymunedau yn Gyntaf.
Roeddwn yn ddiolchgar i Rebecca Evans fel y Gweinidog blaenorol am ei hymgysylltiad â mi ynghylch y bygythiad i gyllid ar gyfer Dewch i Gerdded Cymru. Gwn ei bod wedi deall, fel finnau, nad yw grwpiau o'r fath yn ymwneud ag iechyd corfforol yn unig. I lawer o gerddwyr yn fy etholaeth, mae Dewch i Gerdded wedi bod yn ffordd hollbwysig o fynd i'r afael ag unigrwydd, yn aml ar ôl colli priod. Rwy'n falch iawn fod y cyllid wedi'i barhau, ond ni ddylai fod wedi bod dan fygythiad. Rhaid inni wneud yn siŵr fod ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag unigrwydd yn torri ar draws polisïau Llywodraeth Cymru.
Ddydd Gwener, daeth gwraig i fy nghynghorfa a oedd yn poeni'n fawr fod y pwysau ar gyllid addysg oedolion wedi arwain at gyflwyno taliadau i bobl sydd ar fudd-daliadau am fynychu ei dosbarth celf lleol, lle roedd rhai o'r mynychwyr ag anableddau. Unwaith eto, i rai o'r bobl hynny, mae'r dosbarth celf yn achubiaeth. Nawr, mae pawb ohonom yn deall y pwysau ariannol enfawr sy'n ein hwynebu, ond mae angen inni edrych ar y penderfyniadau hyn ar sail buddsoddi i arbed. Mae costau unigedd cymdeithasol, a hunanladdiad yn wir, yn llawer iawn uwch. Mae'n rhaid i ni weithredu'n unol â'n rhethreg ar atal.
Roeddwn am gloi drwy sôn am bobl ifanc. Ceir canfyddiad fod unigrwydd ac unigedd yn broblem i bobl hŷn yn bennaf. Nid yw hynny'n wir. Dywedodd Samariaid Cymru wrthym am arolwg gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a welodd fod pobl rhwng 18 a 34 oed yn fwy tebygol o deimlo'n unig yn aml, o boeni am deimlo'n unig ac o deimlo'n isel ynglŷn ag unigrwydd na phobl dros 55 oed. Dywedasant wrthym fod yna dystiolaeth gynyddol y gall cyfryngau cymdeithasol achosi unigrwydd ac iselder ysbryd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, a bod astudiaeth ddiweddar ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol am ddwy awr y dydd yn gwneud person ddwywaith mor debygol o deimlo unigedd cymdeithasol. Cyhoeddwyd adroddiad o'r enw 'Life in Likes' gan Gomisiynydd Plant Lloegr yn ddiweddar ar ddefnydd plant rhwng 8 a 12 oed o gyfryngau cymdeithasol, a chanfu'r adroddiad fod plant ifanc iawn hyd yn oed yn dod yn orddibynnol ar 'hoffi' a sylwadau dilysu cymdeithasol. Mae'n effeithio ar eu hiechyd meddwl, ac mae hynny hefyd wedi bod yn neges gref yn ymchwiliad ein pwyllgor i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae hyn yn bwysig, nid yn unig oherwydd ein bod am i'n pobl ifanc gael iechyd meddwl da, ond oherwydd bod pobl ifanc yn y grŵp risg uchel ar gyfer hunanladdiad. Mae'n warth cenedlaethol fod pedwar plentyn ysgol yn marw drwy hunanladdiad bob wythnos yn y DU. Mae Papyrus, yr elusen atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, fel rhan o'u hymgyrch Save the Class of 2018, i leihau nifer yr achosion o hunanladdiad ymysg plant ysgol, wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o effaith negyddol cyfryngau cymdeithasol ar ein pobl ifanc. Maent wedi cynhyrchu ffilm rymus iawn o'r enw Bedtime Stories, sy'n annog pob un ohonom i fod yn ymwybodol o effaith cyfryngau cymdeithasol. Hoffwn annog pawb yma, yn enwedig y rhai ohonom sy'n rhieni, i'w gwylio. Diolch.
I fod yn onest gyda chi, rwy'n credu bod Dai a Lynne wedi cynnwys yr hyn roeddwn yn mynd i'w ddweud yn eithriadol o dda. Felly, fy neges i chi, Weinidog, yw rhywbeth tebyg i hyn: pan gymerais ran yn ymchwiliad y pwyllgor hwn, cefais fy syfrdanu wrth ddeall pa mor fawr yw'r broblem hon mewn gwirionedd. Yn gymharol ddiweddar, pasiwyd Bil iechyd y cyhoedd gennym, a buom yn sôn am geisio gwneud pobl yn feinach ac yn fwy heini, a gwneud yn siŵr fod toiledau ym mhobman, ond mewn gwirionedd ni soniwyd digon ynglŷn â sut y gwnawn yn siŵr, beth bynnag yw eich oedran, eich bod yn teimlo'n rhan o gymdeithas sy'n dod yn fwyfwy cythryblus a gorffwyll. Ac i'r rhai nad ydynt yn rhan o'n cawcws mewnol, credaf ei bod yn werth dweud beth yw'r gwahaniaeth rhwng unigrwydd ac unigedd. Hoffwn roi enghraifft i chi o un achos penodol sydd gennyf ar hyn o bryd.
Felly, fe allwch fod yn unig os ydych yn berson hŷn ac mewn cartref gofal, ac wedi eich amgylchynu gan lwyth o bobl eraill, ac maent i gyd yn dweud, 'Dewch, beth am fynd i gael aromatherapi, a beth am fynd i wylio'r teledu a gadewch inni chwarae bingo', ond os nad ydych erioed wedi bod yn un i ymuno, os nad ydych erioed wedi bod yn un da am adeiladu eich rhwydweithiau cymdeithasol, os nad yw'r gwytnwch emosiynol hwnnw wedi bod gennych erioed, yna sut rydych chi'n mynd i'w ddatblygu'n 75 neu'n 80, neu 65, neu beth bynnag, fel arfer pan fyddwch wedi colli eich partner mewn bywyd? Oherwydd dyna pryd y mae unigrwydd yn brathu mewn gwirionedd.
Mae unigedd yn digwydd pan fyddwch yn llythrennol yn colli'r cyswllt o'ch cwmpas. Efallai mai ffermwr yn sownd ar ben arall i drac ydych chi. Neu, yn wir, gallech fod fel un gŵr bonheddig sydd gennyf yn fy etholaeth, ac mae'n byw mewn tref fawr iawn—nid wyf am dynnu gormod o sylw ati am nad wyf fi eisiau dweud pwy ydyw. Ond mae'n byw mewn byngalo bach ar ymyl ffordd brysur iawn. Nid yw'n gweld neb. Fodd bynnag, mae'n gweld y byd: mae'n gweld y ceir yn mynd heibio, mae'n gweld y plant ysgol yn ciwio am y bws, ac mae'n teimlo ychydig o gysylltiad. Yn anffodus, mae'r person sy'n berchen ar ei eiddo yn mynd i'w werthu, ac mae'n mynd i gael ei symud oddi yno. Ac mae'r gymdeithas dai, wyddoch chi, yn garedig iawn am ei osod mewn byngalo bach neis, ond lle nad yw'n mynd i weld neb, ac unwaith y bydd y drws yn cau, dyna ni; fe fydd ar ei ben ei hun, yn profi unigedd go iawn. Ac rwy'n rhagweld y bydd y gŵr bonheddig oedrannus hwnnw, gyda'i deledu sgrin lydan enfawr—gan mai dyna'r oll sydd ganddo, ac rwyf wedi bod yn ei dŷ—oherwydd dyna yw ei gydymaith, o naw y bore pan fydd yn ei roi ymlaen hyd nes y bydd yn mynd i'w wely yn y nos, yn mynd yn fwyfwy unig, mae'n mynd i brofi mwyfwy o unigedd, mae'n mynd i deimlo'n fwyfwy isel, ac yn y pen draw bydd yn rhaid iddo ddechrau pwyso arnom ni, ar ein gwasanaethau cymdeithasol, ar ein gofal iechyd wrth i'w iechyd waethygu. Ac os dysgais rywbeth o adroddiad y pwyllgor, yr angen i ni gefnogi pobl yn eu henaint oedd hwnnw.
A hoffwn nodi un pwynt a wnaeth Lynne. Er bod ein hadroddiad, neu ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar bobl hŷn, ni allwn anghofio pobl ifanc, gan mai perygl cyfryngau cymdeithasol yw ein bod yn anghofio sut i feithrin perthynas â phobl. Rydym yn clicio ar Facebook neu Twitter, neu beth bynnag ydyw, a waw, mae gennym 450 o ffrindiau. Wrth gwrs, nid ffrindiau go iawn ydynt. Nid ydynt yn gwybod pwy yw eich mam. Nid ydynt yn gwybod a oes gennych gi. Nid ydynt yn gwybod beth rydych chi'n hoffi ei gael i de. Ond rydych yn credu eu bod yn ffrindiau. Ac rydym yn magu cenhedlaeth sydd mewn gwirionedd yn creu cysylltiadau arwynebol iawn. Felly, beth sy'n digwydd pan fydd y genhedlaeth ifanc yn dod yn genhedlaeth ganol oed ac yna'n genhedlaeth hŷn? Oherwydd bryd hynny byddant yn dod i ddeall go iawn beth yw unigrwydd ac unigedd, pan fyddant yn edrych ar Facebook ac yn sylweddoli nad yw'r oddeutu 400 o ffrindiau yn bodoli o gwbl mewn gwirionedd—rhith ydynt.
Felly rwy'n credu ei fod yn wirioneddol bwysig. Ac rwy'n erfyn arnoch i gyflwyno eich strategaeth cyn gynted â phosibl. A thrwy dderbyn argymhelliad 1 yn rhannol, pan ddywedoch y byddech, yn y cyfamser, yn ceisio tyfu prosiectau da, gwelsom ddigonedd o brosiectau da yn ein pwyllgor, o Siediau Dynion i Ffrind i Mi i gysylltwyr cymunedol—yr holl amrywiaeth. Mae angen cymorth arnynt, mae angen anogaeth arnynt, mae angen eu grymuso, a hoffwn ofyn i chi wneud hynny.
Mae'n braf cael cyfle i siarad yn y ddadl yma. Prin iawn yn fy mywyd i, rydw i'n meddwl, yr ydw i wedi teimlo yn wirioneddol ar fy mhen fy hun. Rydw i'n lwcus iawn yn hynny o beth, ac rydw i'n gobeithio y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn fan hyn â phrofiad tebyg, er nad ydy cael lot o bobl o'ch cwmpas chi yn angenrheidiol yn golygu na allech chi hefyd fod yn unig ac yn ynysig. Mae hynny yn rhywbeth y gwnaethom ni ei ddysgu, yn sicr, yn ystod ein hymchwiliad ni, a oedd yn sicr yn addysg i fi, ac rydw i'n gwybod, i fy nghyd-Aelodau. Beth mae'r adroddiad sydd gennym ni rŵan, wrth gwrs, yn fodd i'w wneud ydy atgoffa pob un ohonom ni, beth bynnag ydy ein profiadau personol ni, fod unigrwydd ac unigedd yn faterion difrifol iawn sy'n effeithio ar lawer iawn o bobl, ac etholwyr i bob un ohonom ni yma yn y Siambr yma.
Rydw i'n ddiolchgar i'r sawl sydd wedi bod yn cysylltu â ni dros y dyddiau diwethaf cyn y drafodaeth yma. Mae'r British Association for Counselling and Psychotherapy yn ein hatgoffa ni bod chwarter ein pobl hŷn yn gallu teimlo unigrwydd ac unigedd, ac mae hynny yn swm enfawr, yn enwedig, fel rydym ni wedi clywed gan Gadeirydd y pwyllgor, lle mae hwn yn cael effaith ar iechyd—nid gwneud i chi deimlo ychydig yn isel, a dymuno y byddai'n dda cael rhywfaint o gwmni, ond mae'n cael effaith ar eich iechyd corfforol a meddyliol. Grŵp arall sydd wedi cysylltu ydy Age Cymru, gan sôn am y mwynderau a'r adnoddau sydd wedi cael eu colli neu sydd mewn perygl o gael eu colli oherwydd cyfyngiadau ariannol, yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, a bod yna bethau y gallem ni wneud i fuddsoddi mewn taclo unigrwydd ac unigedd.
Mi wnaf i jest cwpl o sylwadau yn sydyn iawn ynglŷn â dau argymhelliad penodol. Yr olaf un ohonyn nhw—fel un o gefndir cyfathrebu, mae cyfathrebu a negeseua efo pobl yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i fi. Mae argymhelliad 6 yn galw am godi ymwybyddiaeth ac i newid agweddau tuag at unigrwydd ac unigedd, a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig efo nhw. Fe'm hatgoffwyd i o drydariad y gwelais i—mae o gen i ar y sgrin o'm mlaen i yn fan hyn—ryw fis yn ôl, ychydig o dan fis yn ôl, gan ffrind da i fi. Mae'n berson adnabyddus iawn, Ffion Dafis, yr actores a chyflwynwraig deledu, a'r hyn a dywedodd hi yn ei thrydariad—ac mi wnaeth o fy nharo i ar y pryd—
'Oherwydd natur fy ngwaith y mae gen i ddyddiau rhydd weithiau lle y gallwn i fod yn ymweld â phobl sydd ar eu pennau ei hunain ond dwi ddim yn gwybod efo pwy na lle i gysylltu.'
Ac mae hi'n gwneud apêl am wybodaeth, ac roeddwn i'n meddwl, 'Ie, pa mor aml ydw i wedi clywed rhywun yn dweud hynny o'r blaen?' Nid yn aml iawn, mewn difrif, yn sicr gan bobl o fy nghenhedlaeth i. Mae yna fodd y gallem ni, drwy fod yn ymwybodol o unigrwydd a'r angen i fynd i'r afael ag o, feddwl sut y gallem ni i gyd chwarae rhan mewn taclo'r unigrwydd yna drwy gysylltu a chynnig cwmnïaeth i bobl. Mi oedd yr ymateb i'r trydariad yn ddifyr iawn, iawn, iawn, gyda llawer o bobl yn cynnig ffyrdd lle y gallai Ffion ac eraill gynnig eu hamser. Mae yna sefydliadau—capeli, byrddau iechyd, pob math o elusennau—sy'n cynnig llwybr i chi allu helpu pobl drwy eu hunigrwydd.
Ond mae hynny yn dod â ni at yr argymhelliad cyntaf, sef yr angen i gael y strategaeth yma i fynd i'r afael ag unigrwydd, achos dyma ydy rôl Llywodraeth: i roi arweiniad—arweiniad i'r holl sefydliadau ac unigolion yna sy'n sylweddoli maint problem unigrwydd ac ynglŷn â'r camau y gallem ni fod yn eu cymryd o ddifrif i fynd i'r afael ag o. Rydw i'n falch bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol, yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor yr argymhellion sydd wedi cael eu gwneud gan ein pwyllgor ni, ond rwy'n meddwl bod yr hyn rydw i wedi'i glywed, a fy nghyd-Aelodau, yn sicr yn dangos bod gyda ni broblem sy'n acíwt yng Nghymru o ran maint unigrwydd. Fy apêl i ydy i ddangos yr arweiniad yna cyn gynted â phosib drwy gyhoeddi strategaeth a fydd wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.
Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor yn ystod ein hymchwiliad, ac i'n Cadeirydd ymroddedig. Mae'n feirniadaeth drist ar ein cymdeithas pan ystyriwch fod tua un o bob pump o bobl Cymru yn unig. Mae dros hanner y bobl dros 25 oed yn byw ar eu pen eu hunain a chanfu ymchwil gan Age UK fod llawer o bobl hŷn yn gallu mynd am bump neu chwech o ddyddiau heb siarad ag unrhyw berson arall. Dengys gwaith ymchwil fod unigrwydd ac unigedd cymdeithasol mor niweidiol i'n hiechyd â smygu tri chwarter pecyn o sigaréts y dydd. Mae unigrwydd yn cynyddu'r perygl o farwolaeth gynnar tua 45 y cant, ac mae'n gysylltiedig â mwy o risg o ddatblygu clefyd coronaidd y galon a strôc. Mae unigolion unig hefyd yn wynebu risg uwch o fynd yn anabl, a risg uwch o gyflawni hunanladdiad.
Dywedodd rhywun wrthyf unwaith yn rhinwedd fy ngwaith, 'Rydych yn gofyn i mi ymddiried ynoch a dweud wrthych beth sydd o'i le, ond nid ydych yn gwybod dim am fy ddoeau na hyd yn oed am fy heddiw, ond efallai y gallwch helpu i mi gael gwell yfory.' Felly, mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i wneud i bobl deimlo eu bod yn werthfawr. Felly roeddwn yn falch iawn pan benderfynodd ein pwyllgor gynnal ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd, o ystyried y pryderon iechyd cyhoeddus go iawn.
Tanlinellodd tystion i'n hymchwiliad holl effeithiau unigrwydd ac unigedd ar iechyd, yn ogystal ag amlinellu'r myrdd o achosion a ffactorau sy'n cyfrannu at unigrwydd ac unigedd. Roedd un peth yn glir: er y gall unigrwydd daro ar unrhyw oedran, fe'i teimlir yn arbennig o ddwfn ymhlith ein poblogaeth hŷn. Mae cau swyddfeydd post, banciau, siopau lleol, gwasanaethau cymunedol, toiledau cyhoeddus, a'r duedd gynyddol i awtomeiddio oll wedi cyfrannu at sefyllfa lle mae llawer o bobl hŷn yn mynd am ddyddiau ac wythnosau heb siarad â bod dynol arall.
Clywsom hefyd am y gwaith gwych a wneir gan grwpiau gwirfoddol ledled Cymru i fynd i'r afael ag unigrwydd a rhoi diwedd ar unigedd drwy ddarparu llu o weithgareddau a gwasanaethau cymorth—Siediau Dynion, er enghraifft. Boed yn Ffrind i Mi yn ne-ddwyrain Cymru, y prosiect croeso i ymwelydd yn y cartref yn ne-orllewin Cymru, Ponthafren yng nghanolbarth Cymru, neu Cyswllt â'r Henoed yng ngogledd Cymru, mae'r sefydliadau hyn, a channoedd o rai tebyg, yn llenwi'r bylchau a adawyd gan ein sector gofal cymdeithasol sy'n crebachu. Maent yn ganolog ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd. Ein gwaith ni yw sicrhau bod y grwpiau hyn yn cael eu cefnogi a'u hariannu i barhau i wneud yr hyn a wnânt ar draws pob rhan o Gymru.
Roedd ein pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector gwirfoddol a llywodraeth leol i sicrhau sefydlogrwydd y cyllid sydd ei angen ar y sefydliadau hyn drwy gyflwyno rhaglenni ariannu tair blynedd. Roeddwn wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un o'n chwe argymhelliad yn llawn. Felly, mae'n siomedig na allai Llywodraeth Cymru ymrwymo'n llawn i'r argymhelliad hwn. Rydych yn derbyn bod cyllid tymor byr yn gallu bod yn ddrutach, ond eisiau'r hyblygrwydd i wneud penderfyniadau tymor byr. Penderfyniadau tymor byr sy'n seiliedig ar bwysau ariannol yw'r union fath o benderfyniadau sy'n rhaid inni symud oddi wrthynt.
Mae Llywodraeth Cymru'n falch o'i rhaglen buddsoddi i arbed. Wel, mae Ysgol Economeg Llundain wedi cynnal ymchwil sy'n dangos y gall pob £1 a fuddsoddir i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd arbed £3 mewn costau i'n GIG. Mae'r sefydliadau gwirfoddol hyn yn achubiaeth i bobl hŷn ac yn haeddu cefnogaeth y Llywodraeth. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ac i dderbyn pob un o'n hargymhellion. Diolch yn fawr.
Rwy'n credu y buaswn yn cytuno gyda bron bob un o'r sylwadau sydd eisoes wedi'u gwneud y prynhawn yma. Roedd llawer iawn o gonsensws yn y pwyllgor, a chlywsom dystiolaeth bwerus iawn gan nifer o sefydliadau a chyrff a'n harweiniodd at ein hadroddiad a'r argymhellion ynddo.
Ar gyfer fy nghyfraniad, hoffwn wneud rhai sylwadau cyffredinol mewn gwirionedd ar y materion sy'n ymwneud ag unigedd ac unigrwydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar unrhyw rai o'r argymhellion penodol, oherwydd mae'n eironi mawr, onid yw, yn nyddiau'r rhyngrwyd, o wybod y gall pobl fynd ar FaceTime o bedwar ban byd, ein bod yn canfod problemau unigrwydd ac unigedd ar garreg ein drws, yma yn ein cymunedau.
Credaf fod hyn yn adlewyrchu'n rhannol y straen a osodir ar y wead cymdeithasol ein cymunedau. Mae gormod o'r byd cyhoeddus, gormod o'r pethau hynny y mae pawb ohonom yn ystyried eu bod er lles pawb, yn cael eu haberthu yn y cyfnod hwn o gyni, a dylai pawb ohonom osod premiwm uwch o lawer ar gadw'r gofodau a rennir sy'n caniatáu i bobl ffurfio cysylltiadau â'i gilydd. Ac wrth ddweud gofodau a rennir, nid adeiladau ffisegol yn unig a olygaf, er mor bwysig ydynt, ond hefyd y rhwydweithiau hynny sy'n dod â phobl at ei gilydd. Wedi'r cyfan, y rhwydweithiau cymdeithasol sy'n darparu'r sylfeini ar gyfer cymaint o ofal a gwytnwch.
Felly, er bod yr ymchwiliad wedi sefydlu bod problemau unigrwydd ac unigedd yn fwyaf cysylltiedig yn gyffredinol â phobl hŷn, ac ar hynny y canolbwyntiwyd yn bennaf o bell ffordd, mae'r materion a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn effeithio ar ystod eang o grwpiau eraill, a chyfeiriodd Angela Burns at hynny, fel y gwnaeth Lynne Neagle. Rwy'n falch fod y pwyllgor yn mynd i wneud gwaith pellach ar hyn yn ogystal, ond byddai'n dda pe gallai'r Gweinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ymagwedd drawsadrannol yn y strategaeth sydd ar y gweill a fydd yn ymdrin â materion ehangach unigedd ac unigrwydd ar draws grwpiau eraill yn y gymdeithas, gan gynnwys aelodau'r lluoedd arfog, rhieni sengl, pobl ifanc, fel y clywsom eisoes, i enwi ond ychydig, gan fod yr adroddiad yn dangos pam y mae buddsoddi mewn mesurau i atal unigedd ac unigrwydd yn gwneud synnwyr yn economaidd i bob rhan o'r Llywodraeth.
Eisoes clywsom am fuddsoddi i arbed—cafodd hynny ei grybwyll gan nifer o siaradwyr heddiw—ac mae hwn yn weithgaredd buddsoddi i arbed. Os gallwn helpu i ddarparu rhwydweithiau cryfach i bobl, rydym yn llai tebygol o orfod mynd i'r afael â dirywiad acíwt cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol sy'n gysylltiedig â'r broblem hon, cyflyrau sydd, yn yr amgylchiadau mwyaf eithafol, fel y dywedodd Lynne Neagle eisoes, yn gallu arwain at drasiedi hunanladdiad a mathau eraill o hunan-niwed.
Nawr, fel y soniodd Dai Lloyd yn ei sylwadau agoriadol, un o'r meysydd mwyaf addysgiadol o'n hymchwiliad i mi oedd pwysigrwydd—cafwyd tystiolaeth o hyn—cyswllt sy'n pontio'r cenedlaethau fel therapi, yn niffyg gair gwell, sy'n syml ac yn gosteffeithiol. Mae hynny'n caniatáu i mi gyfeirio'n fyr, rwy'n credu, at brosiect y bûm yn ymwneud rhywfaint ag ef a oedd yn dangos gwerth y gweithgarwch hwnnw sy'n pontio'r cenedlaethau.
Ychydig cyn y Nadolig, ymwelodd côr Only Boys Aloud Merthyr a Thredegar â chartrefi gofal yn yr ardal i ganu caneuon a charolau Nadolig gyda thrigolion fel rhan o'u menter Home for Christmas i gysylltu pobl ifanc a phobl hŷn drwy gerddoriaeth a chân. A chefais y pleser mawr o ymuno â'r bechgyn ifanc hyn i ganu cân neu ddwy yng Nghartref Gofal Greenhill Manor ym Merthyr Tudful. Prif bwynt hynny oedd rhoi cyfle i mi dystio i'r pleser a rannai pobl hŷn a phobl iau wrth ymuno yn llawenydd syml cerdd a chân. A'r hyn a welais yno oedd llawenydd a gwellhad ar waith, ac am ychydig oriau byr, pobl yn mwynhau cysylltiadau cymdeithasol, beth bynnag fo'u hoed. Roedd yn bleser pur ei weld, ac roedd yn bleser gennyf fod yn rhan ohono.
Yn 2016, Lywydd, roeddwn yn falch iawn o ymgyrchu ar sail maniffesto a oedd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phroblemau unigedd ac unigrwydd, felly rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hadroddiad wrth iddynt gyflwyno eu strategaeth. Ac i gloi, Lywydd, credaf hefyd y byddwn, wrth gyflwyno cynllun gweithredu clir ar gyfer Cymru, yn talu ein teyrnged haeddiannol i Jo Cox, y cyn AS, a gwaith amhrisiadwy y sefydliad a ffurfiwyd yn ei henw, sy'n parhau â gwaith y comisiwn ar unigrwydd a sefydlwyd gan Jo i sicrhau newid sylfaenol mewn ymateb polisi cyhoeddus i argyfwng unigrwydd y DU—argyfwng y mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom, ac nid y Llywodraeth yn unig, i fynd i'r afael ag ef.
Rwy'n ddiolchgar am gael siarad heddiw ar y mater hollbwysig hwn, yn dilyn lansio adroddiad ein pwyllgor yn Horton's Coffee House yng Nghasnewydd. Mae unigrwydd ac unigedd cymdeithasol yn un o'r problemau sy'n diffinio ein hoes ni, ac mae'n epidemig sy'n effeithio ar bob oedran ym mhob rhan o'n cymunedau.
Mae effaith unigedd cymdeithasol yn frawychus: mae 75,000 o bobl yng Nghymru yn nodi eu bod bob amser neu'n aml yn teimlo'n unig; gall unigrwydd fod yr un mor niweidiol i'ch iechyd â smygu 15 o sigaréts y dydd; gall fod mor beryglus â gordewdra; a gall effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn ein bywydau. Er bod yr ystadegau hyn yn mynd ffordd bell i ddangos pa mor sylweddol yw problem unigrwydd, rwy'n credu mai straeon pobl sydd o ddifrif wedi sbarduno'r angen i wneud rhywbeth. Yn sicr, drwy gydol ein hymchwiliad, clywsom y lleisiau hynny'n glir. Mae un stori arbennig yn dod i fy meddwl, stori a rannodd meddyg teulu gyda mi. Roedd hi wedi bod yn trin claf oedrannus a oedd yn gwella ar ôl dod allan o'r ysbyty. Roedd hi wedi bod yn ymweld â'r claf unwaith yr wythnos, ac ar ôl ychydig wythnosau o ymweliadau rheolaidd, dywedodd wrth y fenyw ei bod wedi gwella'n iawn ac na fyddai angen mwyach iddi weld y meddyg yn rheolaidd. Roedd hi'n amlwg fod y wraig yn drist o glywed hyn. Nid oedd hi eisiau i'r ymweliadau ddod i ben am mai'r meddyg teulu a'r nyrsys ardal oedd yr unig bobl a welai o un wythnos i'r llall. Clywsom enghreifftiau eraill tebyg o effaith ddifrifol arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.
Gwyddom y gall unrhyw un ohonom brofi unigrwydd ac unigedd wrth inni heneiddio am nifer o resymau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth yn aml. Mae unigrwydd ac unigedd yn achos ac yn ganlyniad i broblemau iechyd meddwl ac yn bethau nad ydynt yn cael sylw digonol oherwydd y stigma sy'n gysylltiedig â hynny. Yn wir, fel y soniodd Lynne Neagle, roedd yr adroddiad a lansiwyd gan y Samariaid ddoe yn tynnu sylw at unigrwydd ac unigedd fel ffactor risg ar gyfer hunanladdiad.
Mae argymhelliad 6 yn nodi pa mor hollbwysig yw rhoi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig ag unigrwydd. Dylai codi ymwybyddiaeth fod yn gam cyntaf tuag at fynd i'r afael â'r mater ei hun. Ychydig iawn o bobl sydd eisiau cael eu labelu â'r gair 'unig', a gall ffactorau guddio'r rheswm sylfaenol. Gallwn weld o'n hymwneud drwy gydol ein hymchwiliad fod yna gryn dipyn o ewyllys ac angen hanfodol i oresgyn y broblem hon.
Canfu ein hymchwiliad fod llawer o waith da yn cael ei wneud eisoes ledled Cymru. Clywsom gan nifer o sefydliadau drwy gydol yr ymgynghoriad, a chynhaliais drafodaeth o amgylch y bwrdd ag Age UK yn fy etholaeth yr haf diwethaf i rannu enghreifftiau o brosiectau sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd ac i weld sut i ledaenu arferion da yn y ffordd orau.
Yn argymhelliad 4, gwnaethom yn glir fod angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r sector gwirfoddol i ddarparu sefydlogrwydd i'r gwasanaethau y mae cymaint yn dibynnu arnynt. Gwneir cymaint o'r gwaith hwn gan wirfoddolwyr. Un enghraifft ragorol yw Ffrind i Mi. Gwasanaeth ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan ydyw sy'n cael ei arwain gan y nyrs ranbarthol Tanya Strange, sy'n berson ymroddedig iawn. Nod y gwasanaeth yw mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd drwy baru gwirfoddolwyr â phobl yn seiliedig ar eu diddordebau. Y syniad yw dweud, 'Gadewch i mi eich cyflwyno i ffrind i mi.'
Mae Ada yn enghraifft wych. Mae Ada yn 93 oed a dechreuodd brofi unigrwydd ac unigedd ar ôl marw ei gŵr. Roedd hi wedi bod yn gofalu am ei gŵr a oedd â dementia ers dros 10 mlynedd ac fel cymaint o rai eraill, roedd yr ymrwymiad i ofalu'n golygu ei bod wedi colli cysylltiad â'i ffrindiau agos. Pan fu farw ei gŵr, dechreuodd deimlo'n ynysig ac yn unig. Cyfeiriwyd Ada at Ffrind i Mi, ac fe'i helpodd i'r fath raddau nes bod Ada bellach yn wirfoddolwr, yn helpu eraill sy'n profi unigrwydd ac unigedd. Mae hi'n cyfarfod â menyw arall bob wythnos am baned o goffi a sgwrs yng nghanol dinas Casnewydd, ac mae'r ddwy'n elwa ar eu cyfeillgarwch newydd.
Mae'r broblem yn effeithio ar fwy na'n pobl oedrannus yn unig, fel y dywedodd Aelodau eraill. Mae ein hadroddiad yn bellgyrhaeddol, ond nid yw'n crafu'r wyneb hyd yn oed mewn perthynas ag unigrwydd ymhlith pobl ifanc, cyn-filwyr, mamau newydd, grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig a'r gymuned LGBT ymysg eraill. Cefais syndod pan fynychais lansiad Ffrind i Mi o adnabod wyneb yn y fideo. Roedd Rob Wiltshire ddwy flynedd yn iau na mi yn yr ysgol ac wedi ymuno â'r fyddin wedyn. Ag yntau bellach yn gyn-filwr yn ei 30au, teimlai mor bell oddi wrth ei rwydwaith cymorth ar ôl dychwelyd i'r DU nes ei fod wedi brwydro gyda theimladau o unigedd ac unigrwydd. Canfu Ffrind i Mi ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Ond er bod cynlluniau fel hyn yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywydau pobl fel Ada a Rob, mae angen inni gynllunio ar gyfer y dyfodol a mabwysiadu dull mwy cyfannol o ymdrin ag unigrwydd ac unigedd, fel sy'n cael ei amlygu yn argymhelliad 2, ac mae hyn yn hanfodol.
Dywedodd un arall o drigolion Casnewydd, Carol Beaumont, wrth lansio ein hymchwiliad pa mor bwysig yw gallu gwybod am wasanaeth yn hawdd, er enghraifft drwy gysylltwyr cymunedol, ac mae angen inni ddefnyddio'r adnoddau gwerthfawr sydd gennym eisoes yn ein cymunedau a sicrhau bod y wybodaeth ar gael ac yn hygyrch i bobl ble bynnag y maent ei hangen. Mae gennym hanes balch o gymuned yng Nghymru, a gwyddom fod gennym y gyfran uchaf o bobl hŷn yn y DU. Mae'n fater iechyd y cyhoedd sy'n gorfod bod yn flaenoriaeth genedlaethol, ac mae angen i hynny ddechrau yn awr. Nid yn unig y bydd mynd i'r afael ag ef yn gwella bywydau pobl, ond bydd hefyd yn helpu i leihau'r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am fy ngalw mewn rhes hir o siaradwyr, ac rwy'n bwriadu bod yn fyr. Rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu ymrwymiad Gweinidog Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r achosion hefyd. Mae amryw byd o achosion, ac nid wyf am ailadrodd yr holl rai a drafodwyd gan bobl heddiw. Ond credaf fod angen inni gofio nad mater i'r henoed yn unig yw unigrwydd. Er bod yr henoed yn ei brofi, gall unrhyw un ei brofi yn unrhyw le, mewn unrhyw grŵp oedran ar unrhyw adeg, oherwydd, fel y dywedodd Angela Burns mor huawdl, sefyllfa rydych yn canfod eich hun ynddi ydyw yn aml iawn.
Ond mae'n gysylltiedig hefyd weithiau â'r cyfleusterau a'r gwasanaethau o'ch cwmpas, ac rwyf wedi siarad yma am reoleiddio bysiau er mwyn ceisio hwyluso trafnidiaeth i bobl mewn ardaloedd gwledig. Oherwydd os gallwn ddefnyddio'r pwerau hynny fel nad ydym yn cyrraedd sefyllfa lle mae'r gwasanaeth bws yn dechrau ac yna'n dod i ben yn barhaol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, wrth i gwmnïau fynd yn fethdalwyr, gall pobl gadw a chynnal y gwmnïaeth a gânt ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dywedir yr un peth am wasanaethau eraill, fel nofio am ddim. Credaf mai'r pethau hynny sydd angen inni eu cydgysylltu yn awr, lle maent yn gweithio i unigolion, lle y gall pobl wneud defnydd o'u gwasanaethau, eu cyfleusterau a ffurfio cyfeillgarwch mewn gwirionedd. Mae angen inni eu cydgysylltu, a gobeithio y bydd hynny'n rhan o'r hyn rydych yn ei wneud.
A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am weithio ar yr adroddiad hwn? Fel hyrwyddwr pobl hŷn ar ran ein plaid ni, mae hwn yn fater allweddol, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi gweithio arno gyda Sarah Rochira. Y nifer fawr o bobl y cofnodir eu bod yn dioddef unigrwydd ac unigedd: 18 y cant o boblogaeth y DU, sy'n cyfateb i bron 458,000 pobl yng Nghymru. Unwaith eto, ymysg pobl hŷn, nodwyd bod 25 y cant yn unig, 27 y cant yn wynebu unigedd cymdeithasol. Bellach, mae 75 y cant o fenywod a 66 y cant o ddynion dros 65 mlwydd oed yn byw ar eu pen eu hunain.
Yn aml rydym yn rhuthro i feddwl am bobl hŷn yn hyn o beth, ond mae'r adroddiad hwn, a'r dystiolaeth yma heddiw, yn dangos y gall hyn effeithio ar amrywiaeth lawer ehangach o grwpiau cymdeithasol. Mae ein hunigolion iau yn teimlo'n ddiwerth o ganlyniad i fyw ar eu pen eu hunain, gan droi at gyfryngau cymdeithasol yn aml fel ffordd o ymdrin â realiti unigedd, ac yn aml iawn, dyma eu hunig ddull o gyfathrebu â'r byd tu allan. Effeithir yn arbennig ar gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ac LGBT, gan greu unigedd pellach.
Mae cost unigrwydd ac unigedd i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n cynhyrchiant yn £2.6 biliwn y flwyddyn. Ceir cost o £427 miliwn i'n gwasanaeth iechyd, heb sôn am y gost mewn termau real i ansawdd bywyd a hyd oes pob un o'r unigolion hyn.
Hwyluster cymharol a chost isel mynd i'r afael â'r broblem hon—rwy'n dweud hynny oherwydd bod llawer o'r materion rydym yn ymdrin â hwy yma angen adnoddau Llywodraeth. Mae llawer y gallwn ei wneud o ran cymorth, a llawer y gallem oll ei wneud, mewn gwirionedd, yn ein cymunedau ein hunain. Atal yw'r allwedd, a gorau po gyntaf y gweithredwn. Mae gwerth am arian o ran buddsoddiad yn glir. Mae Prosiect Eden yn amcangyfrif bod cymunedau datgysylltiedig yn costio dros £1 biliwn y flwyddyn mewn cynhyrchiant a gollir i economi Cymru. Eto, gall camau syml fel ailfuddsoddi mewn trafnidiaeth leol a chymunedol a chefnogi bysiau, maes sydd wedi wynebu toriadau o dros £4.2 miliwn, dros 20 y cant, ers 2011—. Felly, wrth inni sôn amdano, rydym yn gweld pethau negyddol yn datblygu sy'n gwneud y sefyllfa'n waeth. Ar ein hiechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yn benodol, mae'r effaith yn sylweddol.
Gallai mynd i'r afael â'r problemau hyn atal apwyntiadau ac ymweliadau meddygon teulu a fyddai fel arall yn ddiangen, gan ryddhau adnoddau hanfodol ar gyfer ein meddygon teulu sydd eisoes dan bwysau. Mae'r goblygiadau iechyd cysylltiedig ychwanegol yn ychwanegu at bwysau ar y GIG: iselder ysbryd, pwysedd gwaed uchel, mwy o risg o drawiad ar y galon, strôc a dementia, i enwi ond ychydig. Gwyddom fod y Groes Goch Brydeinig yn amcangyfrif y bydd cost defnydd cynyddol o wasanaethau gan bobl hŷn sy'n dioddef unigrwydd hyd at £12,000 y person dros y 15 mlynedd nesaf. Ac os ydych yn cysylltu hynny â'r ffigurau, rydych yn sôn am—. Mae'n fom sy'n tician.
Mae Prosiect Eden wedi canfod bod cydlyniant cymdeithasol ar hyn o bryd yn arbed £245 miliwn bob blwyddyn drwy leihau'r galw ar wasanaethau iechyd yng Nghymru, ac y gallai arbed £681 miliwn pe bai gweithredu'n digwydd ledled y wlad: cyfeillio, er enghraifft. Gwn fy mod wedi cyfeirio ato yma cyn hyn—ai'r Silver Line ydyw? Mae yna linell ffôn y gallwch ei ffonio. Dechreuodd Esther Rantzen y cynllun, ac mae'n brosiect eithriadol o dda; gwn fod pobl yn fy etholaeth wedi ei defnyddio. Defnyddir cyllid gofal canolraddol i gefnogi mudiadau trydydd sector yn Aberconwy, i gynnal grwpiau cyfeillgarwch lleol fel dosbarth dyfrlliw rheolaidd, ac mae un o'n cynghorwyr lleol bellach wedi llogi neuadd eglwys leol ac mae'n dangos ffilm yno'n fisol—y Cynghorydd Julie Fallon. A hoffwn ei chanmol am y fenter i sicrhau bod y bobl unig hyn sy'n profi unigedd yn gallu dod ynghyd a gwylio ffilm gyda'i gilydd—ffilm sy'n aml yn dod â llawer o atgofion hapus iddynt. Nodwyd nifer o grwpiau gan Gymdeithas Alzheimer Cymru.
Ddirprwy Lywydd, y llynedd, cynhaliodd Fiona Phillips arbrawf lle y treuliodd bum diwrnod ar ei phen ei hun i brofi effeithiau unigrwydd ac unigedd. Ar ôl llai na 24 awr heb gysylltiad â neb, teimlai'n ddigalon ac yn ddibwys. Erbyn diwrnod 3, roedd hi'n ddigalon. Dydd 4: dagreuol. Ac erbyn diwrnod 5, teimlai fod ei hunan-barch wedi gostwng yn sylweddol. Dyma fenyw ifanc sydd â theulu o'i hamgylch. Rhoddodd gynnig ar yr arbrawf am wythnos. Mae'n arbrawf a ddaeth â rhywfaint o realiti i'w bywyd, ac roedd ganddi gefnogaeth ei theulu. Dychmygwch pan na fydd gennych deulu o'ch cwmpas, felly gadewch i bawb ohonom wneud popeth a allwn i gefnogi pob unigolyn sy'n byw ar eu pen eu hunain ac yn teimlo unigedd cymdeithasol.
Mae'n eironig iawn ein bod yn cynnal dadl ar unigrwydd ar ddydd Sant Ffolant, ond fel y mae llawer wedi nodi, mae'n ddadl amserol. Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor, ond credaf fod yr alwad i weithredu yn hollol briodol. Ond rwy'n rhwystredig fod yr atebion yn anwybyddu'r newidiadau technolegol y mae gwledydd eraill o gwmpas y byd yn manteisio arnynt. Mae'r tri pharagraff yn yr adroddiad sy'n mynd i'r afael â rôl technoleg i ymladd unigrwydd yn cyfeirio at ficrodonnau fel pethau sy'n cymell unigedd, ac yn nodi mai cyfryngau cymdeithasol a FaceTime yw technolegau ac arloesedd y dyfodol. Gadewch inni gael un peth yn ddealladwy: nid 'technoleg y dyfodol' yw cyfryngau cymdeithasol. Mae FaceTime yn wyth oed. Dylai'r ffaith nad yw eisoes mewn defnydd eang drwy'r system iechyd a gwasanaethau cymdeithasol fod yn achos pryder, ond peidiwch â chaniatáu i ni osod ein huchelgeisiau mor isel.
Oherwydd tra'n bod yn pendroni a all meddyg teulu drin Skype, mae gwledydd eraill yn treialu cynorthwywyr deallusrwydd artiffisial arloesol—rhyw fath o Siri y genhedlaeth nesaf. Mae Luke Dormehl, yn ei lyfr Thinking Machines, yn nodi rhai enghreifftiau. Mae'n sôn am flwch sgwrsio Microsoft yn Tsieina sy'n ymateb i negeseuon testun y mae defnyddwyr yn eu hanfon ato, sydd wedi dal sylw miliynau. Mae Xiaoice—credaf mai dyna'r ynganiad—yn defnyddio technegau dysgu dwfn i sganio'r rhyngrwyd, gan edrych ar sut y mae bodau dynol yn rhyngweithio. Mae'n defnyddio'r dysgu hwn i greu ymatebion bywyd go iawn i negeseuon testun sy'n cael eu hanfon ato. Mae'r bot yn olrhain ffyrdd o fyw ei ddefnyddwyr, gan gynnwys a ydynt mewn perthynas, eu swyddi, pethau y gallent fod yn gofidio amdanynt neu'n bryderus yn eu cylch, ac yn cyfeirio'n ôl at y rhain mewn sgyrsiau diweddarach, gan ddynwared ymddygiad hen ffrind. Yn Japan, maent wedi datblygu robot therapiwtig cyntaf y byd: morlo ifanc cymdeithasol sy'n gallu edrych i fyw eich llygaid ac sy'n addasu ei ymddygiad yn dibynnu ar sut y caiff ei drin—rhyw fath o Tamagotchi ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Gwelwyd bod gallu ymddangosiadol y morlo ifanc i uniaethu â'i ddefnyddwyr yn rhoi cysur, yn enwedig i bobl hŷn.
Nawr, nid yw Luke Dormehl yn awgrymu y bydd cynorthwywyr deallusrwydd artiffisial yn gallu disodli pob math o ryngweithio rhwng pobl, na finnau chwaith, ond mae'n amlwg fod yna gyfleoedd i dechnoleg chwarae rôl. Yr hyn sy'n fy mhoeni yn yr adroddiad yw mai prin y cyfeirir at y cyfleoedd hyn, oherwydd dylai pawb ohonom allu rhagweld sut y gallai technoleg helpu pobl â dementia i aros yn eu cartrefi, i gadw eu hannibyniaeth am ychydig mwy o amser. Mae'r dechnoleg yn bodoli eisoes i fonitro ymddygiad er mwyn gwirio, er enghraifft, a yw pobl yn agor a chau drysau cypyrddau fwy nag y byddent fel arfer, neu'n gadael amser hir cyn defnyddio'r ffwrn, i weld a yw eu hymddygiad yn anghyson. A gallwn ddychmygu technoleg sy'n sylwi os nad yw rhywun wedi llwyddo i wisgo eu hunain yn iawn neu sy'n trosi lleferydd aneglur. Mae'r pethau hyn oll o fewn cyrraedd, felly dylem droi ein sylw at archwilio sut y gallai technoleg ein helpu i roi diwedd ar unigrwydd a'i leddfu.
Mae bychanu rôl technoleg yn yr epidemig hwn a'i gyfyngu i ddyfeisiau cyfathrebu syml sydd eisoes ddegawd ar ei hôl hi yn broblemus iawn yn fy marn i. Fel rhan o becyn o fesurau, mae technoleg yn cynnig ffordd gosteffeithiol a chynaliadwy inni allu mynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd, a buaswn yn erfyn ar y Gweinidog i edrych ar hyn fel mater o frys. Diolch.
Ac yn olaf, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am fy ngwasgu i mewn i'r ddadl, ac roeddwn am ddweud, mewn gwirionedd, fy mod i fel pawb arall wedi cael cryn syndod o weld y ffigurau a ddaeth i'r amlwg. Mae meddwl bod chwarter y bobl hŷn yn ein gwlad yma yng Nghymru yn teimlo eu bod yn unig, rwy'n credu, yn ystyriaeth ddifrifol iawn, a chredaf fod holl aelodau'r pwyllgor yn teimlo wedi'u sobreiddio gan raddau'r ffigurau hyn a'r ffaith ei fod cymaint yn waeth i rai dros 80 oed.
Mae llawer o bobl wedi sôn nad mater sy'n ymwneud â phobl hŷn yn unig yw hwn, ac rwy'n bryderus iawn am bobl hŷn o'r gymuned ddu a lleiafrifoedd ethnig, ac yn wir, unrhyw un sydd â rhwystr iaith, oherwydd credaf fod y broblem o beidio â gallu cyfathrebu'n rhwydd yn broblem enfawr ar gyfer meithrin cysylltiadau, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol iawn ohono pan ydym yn edrych ar sut i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae pobl eraill wedi crybwyll y ffaith hefyd fod Stonewall Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod pobl lesbiaidd, hoyw, a thraws yn llawer mwy agored i unigedd ac unigrwydd, a gwn y cafwyd rhai argymhellion yn y gorffennol ynglŷn â sut y gellir mynd i'r afael â'r pethau hynny.
Felly, mae'n rhywbeth nad yw'n gyfyngedig i bobl hŷn. Ond gwnaed argraff arbennig arnaf gan yr hyn a ddywedodd Joyce Watson yn ei haraith pan siaradodd am y pethau cyffredinol a all helpu pobl hŷn mewn gwirionedd i beidio â bod yn ynysig ac yn unig, ac wrth gwrs, soniodd am drafnidiaeth a gallu teithio o gwmpas, a chredaf mai darparu'r tocyn bws yw un o gyflawniadau mwyaf y Cynulliad hwn, oherwydd mae wedi rhyddhau pobl i allu teithio heb unrhyw bryder ynglŷn â faint o arian y gallai gostio iddynt. Felly, mae pethau felly yn gwneud gwahaniaeth cyffredinol, ond rwy'n credu eu bod yn effeithiol iawn, a hoffwn inni feddwl, mewn gwirionedd, am y math hwnnw o ateb oherwydd mae llawer o ffyrdd y gallwn liniaru unigedd ac unigrwydd.
Toiledau: mae llawer o bobl wedi sôn am doiledau. Cefais ddeiseb anferth a gasglwyd ar stryd fawr yr Eglwys Newydd, yn bennaf gan bobl hŷn a oedd wedi mynd allan i gasglu llofnodion, er mwyn ceisio cael toiled lleol fel y byddai pobl yn gallu mynd i'r stryd fawr, oherwydd mae cymaint o bobl hŷn wedi dweud wrthyf, 'Gan nad oes unrhyw doiledau cyhoeddus ar agor yno bellach, ni allwn fynd i siopa', felly dyna yw'r broblem ehangach. Mae darparu toiledau yn gyffredinol yn rhywbeth a fydd yn mynd i'r afael â'r broblem honno hefyd yn fy marn i.
Ac yn olaf, i orffen, hoffwn grybwyll rhai mentrau yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd: hoffwn ganmol Cyngor Caerdydd am sefydlu'r hybiau. Y ddwy lyfrgell yn Llanisien a Gogledd Llandaf, a ddatblygwyd fel hybiau—cawsant eu datblygu mewn modd sensitif iawn, llachar iawn, a deniadol iawn, ac yn wir maent yn lleoedd ardderchog i bobl hŷn fynd iddynt. Wedyn, roeddwn yn falch iawn o ymweld, gyda'r Gweinidog, â'r ganolfan byw'n annibynnol lle y gwelsom beth o'r dechnoleg y soniodd Lee Waters amdani yn ei araith—. Yn wir, defnyddir technoleg yno lle y gallwch fonitro os yw rhywun yn codi neu os yw rhywun yn agor y ffenestr, ac mae hyn yn digwydd yma yng Nghaerdydd yn effeithiol iawn. Ac roedd hwnnw'n ymweliad go ysbrydoledig yn fy marn i, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno—Weinidog, mae hynny'n gywir. Diolch yn fawr iawn am fy ngwasgu i mewn.
Popeth yn iawn. Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awr—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb. Diolch am y cyfle i ymateb i'r drafodaeth bwysig hon. Mae cryfder ac ansawdd y cyfraniadau y prynhawn yma wedi dangos ein bod yn gwneud y cam cywir wrth sicrhau bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth.
Llawer iawn o ddiolch am gyfraniadau rhagorol. Ni fyddaf yn gallu gwneud cyfiawnder â phob un am eu bod mor fanwl ac mor helaeth. Mae'n dangos cymhlethdod yr heriau sydd gennym yn y maes hwn o fynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd, ond hefyd y ffaith bod angen inni wneud hyn mewn ffordd gynhwysfawr, deallus a chydgysylltiedig.
Cefais fy nharo—fel llawer ohonom rwy'n tybio—gan rai o'r achosion a welwn yn ein hetholaethau. Sawl blwyddyn yn ôl, mewn etholiad, wrth guro ar y drws, cyfarfûm â gŵr oedrannus y gallech deimlo ei dristwch yn bendant iawn. Dyma rywun roeddwn yn ei adnabod rai blynyddoedd cyn hynny ac a oedd wedi cloi'r drws i bob pwrpas pan fu farw ei wraig. Roedd yn bwydo ei hun, roedd yn gofalu amdano'i hun, ond nid oedd ganddo unrhyw gysylltiad ag unrhyw asiantaethau, na systemau cymorth, roedd yn gofalu amdano'i hun, ond roedd yn hynod o drist ac unig. Ac mae wedi fy mhlagio byth ers hynny. Ond ochr arall y geiniog i hynny yw'r nifer o enghreifftiau y clywsom amdanynt heddiw—am ymddygiad cymdogol, am gymunedau'n dod at ei gilydd, am bethau fel y mudiad Siediau Dynion, am bethau symlach y gall pob un ohonom eu gwneud ein hunain—rhaid imi ddweud—yn ogystal. Roedd fy mam a 'nhad yn arfer mynd â chinio dydd Sul yn rheolaidd ar draws y ffordd ar ddydd Sul i gymydog oedrannus, nid oherwydd eu bod yn teimlo trueni neu beth bynnag mewn unrhyw ffordd, ond oherwydd mai dyna'r math o beth rydych yn ei wneud mewn cymunedau da sy'n ffynnu. Efallai fod angen i bawb ohonom ei wneud. Fe drof at rai o strategaethau'r Llywodraeth a rhai o'r pethau y gallwn eu gwneud o'r fan hon, ond mae'n ymwneud â ni ein hunain hefyd a'r hyn a wnawn fel unigolion.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor, dan gadeiryddiaeth Dai Lloyd, am yr adroddiad pwysig hwn ar yr ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd. Credaf ei fod yn ddefnyddiol oherwydd mae'n ychwanegu tystiolaeth bellach at yr hyn sydd eisoes wedi bod yn datblygu ein cronfa wybodaeth am effeithiau nychus amlwg unigrwydd ac unigedd. Gwnaed y pwynt gan nifer o gyfranwyr heddiw fod unigrwydd ac unigedd yn gallu effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran am amrywiaeth eang o resymau. Yn ddealladwy, roedd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ei ymdrechion cychwynnol yn bennaf ar yr heriau a wynebir gan bobl hŷn, ond gall effeithio ar bobl o bob oed.
Clywsom unigrwydd ac unigedd yn cael eu disgrifio fel argyfwng iechyd cyhoeddus. Dengys tystiolaeth—ac mae'r dystiolaeth hon, gyda llaw, yn mynd yn ôl at astudiaethau a wnaed yn y 1920au a'r 1930au—fod perthynas dda rhwng pobl, y rhwydweithiau hynny, y cysylltedd hwnnw, pa air bynnag a ddefnyddiwn, yn ein cadw'n hapusach ac yn iachach, ac mae pobl sy'n teimlo'n unig yn fwy tebygol o weld eu hiechyd corfforol yn dirywio'n gynharach ac maent yn fwy tebygol o farw'n iau. Gall pawb ohonom ddeall pa mor bwysig yw hi i gael ymdeimlad o berthyn yn ein cymunedau, ymysg ein ffrindiau, ymysg ein cymdogion, ac i deimlo bod gwerth i'n bywydau, fod ein bywydau yn golygu pethau i bobl eraill.
Felly, mae fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad ardderchog y pwyllgor yn nodi fy ymateb manwl i'r chwe argymhelliad. Gwn fod pawb wedi cael cyfle i'w darllen, oherwydd mae cymaint o gyfeirio wedi bod atynt heddiw. Rydym wedi derbyn pob argymhelliad naill ai'n llawn neu, mewn dau achos, yn rhannol. Gadewch imi droi at y ddau achos lle rydym wedi derbyn yr argymhellion, ond gyda rhai amodau. Un ohonynt yw'r amserlen, fel sydd wedi'i grybwyll. Derbyn hyn yn rhannol a wnaethom. Mae'r rheswm am hynny'n eithaf clir. Os gallwn, byddwn yn cadw hyn dan arolwg, ac os gallwn ei gyflwyno'n gynharach na gwanwyn 2019, fe wnawn hynny. Ond mae hyd yn oed y pwyllgor ei hun yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith ymchwil a chasglu tystiolaeth mewn rhai meysydd allweddol. Rydym am wneud hynny'n iawn, ac mewn rhai meysydd, rydym am ymgynghori'n briodol ac yn ffurfiol yn ogystal. Os yw hynny'n golygu bod yn rhaid inni gymryd ychydig mwy o amser, fe wnawn hynny, ond byddwn yn adolygu'r sefyllfa'n barhaus.
Yr ail beth i'w ddweud yw ei bod yn gwbl glir—a dywedais hyn yn yr ymateb i'r pwyllgor—nad yw hynny'n golygu na allwn weithredu yn awr. Rydym yn bwrw iddi i wneud y pethau. Rydym yn gwneud pethau yn awr a dylem eu dwysáu. Dylem eu cyflymu. Felly, rydym yn bwrw iddi i weithredu yn awr. Nid oes raid aros am strategaeth yn 2019. Gallwn roi camau ar waith eisoes, ac fe drof at rai o'r pethau hynny mewn eiliad.
Yr ail elfen a dderbyniwyd gennym, ond yn rhannol, oedd sefydlogrwydd cyllido ar gyfer y trydydd sector. Soniodd sawl Aelod am hyn. Mewn byd delfrydol, byddech yn dweud yn syml, gyda haelioni mawr, 'Dyma'r cyllid. Dyma'r sefydlogrwydd sydd ei angen arnoch am dair blynedd. Ewch ati'. Ceir goblygiadau i hynny, ac mae rhai o'r goblygiadau hynny, wel, yn ddeublyg—dwy enghraifft fawr. Un yw hyblygrwydd, oherwydd bydd y trydydd sector yn gofyn inni hefyd am hyblygrwydd gyda chyllid ar gyfer arloesi, ar gyfer mentrau newydd—y math o bethau, efallai, y siaradodd Lee amdanynt; yr ysgogiad newydd sydd ei angen, ac mae angen rhywfaint o arian ysgogi. Ond yr agwedd arall y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohoni yma, wrth geisio rhoi'r sicrwydd hwnnw ynghylch arian y byddwn yn edrych arno ac yn ei ystyried, yw nad ydym am gael gwared ar ddim y gallai fod ei angen fel cyllid mewn argyfwng chwaith. Oherwydd weithiau ceir sefyllfaoedd go iawn lle yr hoffech ddefnyddio'r arian cyfyngedig sydd ar gael mewn sefyllfa o argyfwng.
Felly, mae angen inni gael y cymesuredd yn iawn ac ystyried hyn yn drwyadl, ond byddwn yn edrych arno, byddwn yn cyflwyno rhagor o waith i weld a ellid darparu arian drwy ffrydiau penodol, megis y gronfa gofal canolraddol gyda llaw. Credaf fod llawer o'r Aelodau yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r defnydd arloesol o'r gronfa hon, gan gynnwys, gyda llaw, canolfan byw'n annibynnol Caerdydd wrth gwrs. Buaswn yn argymell i'r Aelodau fynd i'w gweld—ewch i weld beth sy'n digwydd yno. Ariennir honno drwy'r gronfa gofal canolraddol. Nawr, byddwn yn edrych ar hyn ac yn gweld, gyda'r gronfa gofal canolraddol a ffrydiau ariannu eraill tebyg, a allwn roi mwy o sicrwydd, ond rydym angen rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer cyllid mewn argyfwng a mathau eraill o gyllid yn ogystal.
Roeddem yn falch o dderbyn pob un o'r argymhellion yma o fewn yr adroddiad. Gadewch i mi ddweud ychydig mwy, felly, am y buddsoddiadau a wnaed mewn rhaglenni, y mentrau sy'n cael eu datblygu y gallwn eisoes eu gwneud heb aros tan 2019. Felly, ledled Cymru, mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi asesu effaith unigrwydd ac unigedd fel rhan o'u dadansoddiad ehangach o lesiant. Dros hyn y pleidleisiwyd yn y Cynulliad hwn yn flaenorol—cyn i mi ddod yma—mai'r dull hwn oedd y dull cywir. Mae'r cynlluniau sy'n sail i'r rhain yn awr yn destun ymgynghori, ac rwy'n awyddus i weld drosof fy hun sut y bydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi'r camau ar waith i hybu llesiant i'r eithaf yng nghanol ein cymunedau. Yr holl bethau gwahanol y buom yn siarad amdanynt—boed yn drafnidiaeth, boed yn fynediad at doiledau, boed yn gysylltedd cymunedol, boed yn llyfrgelloedd, hyn, llall ac arall—dyna yw hanfod hyn. Ni allwn ariannu pob menter fach a phob grŵp bach ym mhob cymuned yn uniongyrchol o'r Llywodraeth ganolog. Ni allwn wneud hynny. Ond yr hyn y gallwn ei ddweud yw, ' Dyma'r fframwaith y disgwyliwn iddo gael ei gyflawni. Dyma'r canlyniadau rydym eu heisiau. Nawr, ewch ati a dowch o hyd i ffordd o'i wneud', boed yn ardaloedd gwledig canolbarth Cymru neu yng nghwm dyfnaf de Cymru, ac ati.
Nawr, mae sefydliadau sector cyhoeddus yn arloesi er mwyn darparu gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigolion. Felly, er enghraifft, mae'r gronfa gofal integredig, cyfanswm o £60 miliwn, yn cefnogi gweithio ar y cyd ar draws y meysydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol. Fe'i cynlluniwyd i leihau'r niferoedd sy'n cael eu derbyn i ysbytai a gofal preswyl ac i ddarparu gofal cymdeithasol ar gyfer pobl yn ffyrdd a ddymunant. Mae'r prosiectau'n cynnwys darpariaeth llety a adeiladir o'r newydd, offer ac addasiadau sy'n hyrwyddo annibyniaeth, yn lleihau unigedd ac yn gwella ansawdd bywyd. Ac ar bwnc tai, Cefnogi—. Rwy'n ymwybodol—. Dywedais na fuaswn byth yn cael amser i gynnwys pob un o fy mhwyntiau. Rwy'n tybio fy mod yn fy 30 eiliad olaf.
Credaf eich bod. Rydych yn eich 10 eiliad olaf mewn gwirionedd, ond parhewch.
Ni fyddaf yn gallu rhoi sylw haeddiannol i bopeth. Y rhaglen Cefnogi Pobl, a luniwyd i helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ac unwaith eto, yr agwedd honno ar fynd i'r afael ag unigedd—. Ddirprwy Lywydd, rwy'n tybio y byddai'n well cyfeirio pobl at y gwaith rydym yn ei wneud. Mae ein hymateb i'r pwyllgor ar waith y pwyllgor wedi'i wneud. Rydym yn ystyried hyn gyda'r difrifoldeb a amlinellais heddiw, fel y nodwyd gennym mewn datganiadau. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu'r strategaeth honno mewn amserlen mor gyflym ag y gallwn. Ond nid ydym am aros am hynny, rwy'n dweud wrth y Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor a phawb arall sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae angen inni fwrw ymlaen â hyn a'i wneud yn awr. Gwyddom ei fod yn ymwneud â mwy na chyllid. Mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn gweithio ar lawr gwlad a'r ffordd rydym yn cysylltu yn ein cymunedau ein hunain. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn yr ychydig funudau, a allaf i ddiolch o waelod calon i'r Gweinidog am ei ymateb cadarnhaol ynglŷn ag amseriad y strategaeth? Hefyd, rwy'n deall y rhesymeg y tu ôl y busnes ariannu hefyd, a hefyd yn ei gyfarch ac yn ei longyfarch am fod yn fodlon gweithio a bod yn hyblyg i ddod ag atebion cynnar, achos mae unigrwydd ac unigedd—fel rydym ni wedi'i glywed gan bawb, mae yna gytundeb ar draws y llawr yn fan hyn o ran y sgil-effeithiau andwyol sydd yna.
Gwnaethom ni ddechrau efo Lynne Neagle yn sôn am unigrwydd a hunanladdiad, a gwaith arbennig y Samariaid, a phwysigrwydd grwpiau cymunedol. Hefyd, roedd Lynne yn cyfeirio at effeithiau andwyol posibl y cyfryngau cymdeithasol, i'w cyferbynnu felly efo beth a ddywedodd Lee Waters ynglŷn ag ochr gadarnhaol, bwerus y datblygiadau ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Dylem ni fod yn gwneud mwy o ddefnydd ohonyn nhw. Mae yn digwydd mewn rhai lleoedd, fel y gwnaethom ni glywed gan y Gweinidog a hefyd gan Julie Morgan. Mae yna dechnoleg newydd sy’n cael ei defnyddio i gysylltu pobl yn well. Ond, ar ddiwedd y dydd, beth sy’n cael gwared â’r teimlad o unigrwydd ac unigedd yna ydy siarad efo person byw arall.
Fe wnaf i byth anghofio; rai blynyddoedd yn ôl rŵan, gwnes i jest gyfarch rhywun ar y stryd yn Abertawe, jest dweud helô, a daeth hi i’m gweld i yn feddygfa wedyn, yr wythnos ganlynol, a’r 'helô' yna oedd yr unig air yr oedd hi wedi siarad â pherson arall ers yr amser yna—drwy’r wythnos, nid oedd hi wedi cael dim gair arall efo'r un person arall, ac mae hynny wastad wedi cydio ynof i. Yn aml, fel rydym ni wedi clywed gan Caroline Jones ac eraill, mae pobl mor unig maen nhw jest yn gweld eu meddyg teulu, a’r nyrs, fel yr oedd Jayne Bryant hefyd yn dweud, ac maen nhw’n mynd i weld y meddyg teulu a mynd i weld gwasanaethau cymdeithasol hefyd, yn ogystal â’r nyrsys, fel modd o jest cael rhywun i siarad efo fo. Dyna bwysigrwydd gweld a chyfathrebu â pherson byw arall.
Diolch i Angela Burns ac i Rhun am eu cyfraniadau, a hefyd i Janet Finch-Saunders a Joyce Watson. Mae’n hyfryd cael pobl sydd ddim yn aelodau o’r pwyllgor yn gwneud cyfraniadau—a hefyd cyfraniad pwerus iawn gan Dawn Bowden. Felly, llongyfarchiadau i bawb. Ac rwyf i hefyd yn benodol yn llongyfarch y Gweinidog. Rydym ni wedi cael safon trafodaeth arbennig iawn y prynhawn yma, ac rwyf yn hyderus iawn y cawn ni weithredu yn y maes yma, wedi clywed ateb cadarnhaol gan y Gweinidog. Diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.