6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:35, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Llawer iawn o ddiolch am gyfraniadau rhagorol. Ni fyddaf yn gallu gwneud cyfiawnder â phob un am eu bod mor fanwl ac mor helaeth. Mae'n dangos cymhlethdod yr heriau sydd gennym yn y maes hwn o fynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd, ond hefyd y ffaith bod angen inni wneud hyn mewn ffordd gynhwysfawr, deallus a chydgysylltiedig.

Cefais fy nharo—fel llawer ohonom rwy'n tybio—gan rai o'r achosion a welwn yn ein hetholaethau. Sawl blwyddyn yn ôl, mewn etholiad, wrth guro ar y drws, cyfarfûm â gŵr oedrannus y gallech deimlo ei dristwch yn bendant iawn. Dyma rywun roeddwn yn ei adnabod rai blynyddoedd cyn hynny ac a oedd wedi cloi'r drws i bob pwrpas pan fu farw ei wraig. Roedd yn bwydo ei hun, roedd yn gofalu amdano'i hun, ond nid oedd ganddo unrhyw gysylltiad ag unrhyw asiantaethau, na systemau cymorth, roedd yn gofalu amdano'i hun, ond roedd yn hynod o drist ac unig. Ac mae wedi fy mhlagio byth ers hynny. Ond ochr arall y geiniog i hynny yw'r nifer o enghreifftiau y clywsom amdanynt heddiw—am ymddygiad cymdogol, am gymunedau'n dod at ei gilydd, am bethau fel y mudiad Siediau Dynion, am bethau symlach y gall pob un ohonom eu gwneud ein hunain—rhaid imi ddweud—yn ogystal. Roedd fy mam a 'nhad yn arfer mynd â chinio dydd Sul yn rheolaidd ar draws y ffordd ar ddydd Sul i gymydog oedrannus, nid oherwydd eu bod yn teimlo trueni neu beth bynnag mewn unrhyw ffordd, ond oherwydd mai dyna'r math o beth rydych yn ei wneud mewn cymunedau da sy'n ffynnu. Efallai fod angen i bawb ohonom ei wneud. Fe drof at rai o strategaethau'r Llywodraeth a rhai o'r pethau y gallwn eu gwneud o'r fan hon, ond mae'n ymwneud â ni ein hunain hefyd a'r hyn a wnawn fel unigolion.

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor, dan gadeiryddiaeth Dai Lloyd, am yr adroddiad pwysig hwn ar yr ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd. Credaf ei fod yn ddefnyddiol oherwydd mae'n ychwanegu tystiolaeth bellach at yr hyn sydd eisoes wedi bod yn datblygu ein cronfa wybodaeth am effeithiau nychus amlwg unigrwydd ac unigedd. Gwnaed y pwynt gan nifer o gyfranwyr heddiw fod unigrwydd ac unigedd yn gallu effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran am amrywiaeth eang o resymau. Yn ddealladwy, roedd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ei ymdrechion cychwynnol yn bennaf ar yr heriau a wynebir gan bobl hŷn, ond gall effeithio ar bobl o bob oed.

Clywsom unigrwydd ac unigedd yn cael eu disgrifio fel argyfwng iechyd cyhoeddus. Dengys tystiolaeth—ac mae'r dystiolaeth hon, gyda llaw, yn mynd yn ôl at astudiaethau a wnaed yn y 1920au a'r 1930au—fod perthynas dda rhwng pobl, y rhwydweithiau hynny, y cysylltedd hwnnw, pa air bynnag a ddefnyddiwn, yn ein cadw'n hapusach ac yn iachach, ac mae pobl sy'n teimlo'n unig yn fwy tebygol o weld eu hiechyd corfforol yn dirywio'n gynharach ac maent yn fwy tebygol o farw'n iau. Gall pawb ohonom ddeall pa mor bwysig yw hi i gael ymdeimlad o berthyn yn ein cymunedau, ymysg ein ffrindiau, ymysg ein cymdogion, ac i deimlo bod gwerth i'n bywydau, fod ein bywydau yn golygu pethau i bobl eraill.

Felly, mae fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad ardderchog y pwyllgor yn nodi fy ymateb manwl i'r chwe argymhelliad. Gwn fod pawb wedi cael cyfle i'w darllen, oherwydd mae cymaint o gyfeirio wedi bod atynt heddiw. Rydym wedi derbyn pob argymhelliad naill ai'n llawn neu, mewn dau achos, yn rhannol. Gadewch imi droi at y ddau achos lle rydym wedi derbyn yr argymhellion, ond gyda rhai amodau. Un ohonynt yw'r amserlen, fel sydd wedi'i grybwyll. Derbyn hyn yn rhannol a wnaethom. Mae'r rheswm am hynny'n eithaf clir. Os gallwn, byddwn yn cadw hyn dan arolwg, ac os gallwn ei gyflwyno'n gynharach na gwanwyn 2019, fe wnawn hynny. Ond mae hyd yn oed y pwyllgor ei hun yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith ymchwil a chasglu tystiolaeth mewn rhai meysydd allweddol. Rydym am wneud hynny'n iawn, ac mewn rhai meysydd, rydym am ymgynghori'n briodol ac yn ffurfiol yn ogystal. Os yw hynny'n golygu bod yn rhaid inni gymryd ychydig mwy o amser, fe wnawn hynny, ond byddwn yn adolygu'r sefyllfa'n barhaus.

Yr ail beth i'w ddweud yw ei bod yn gwbl glir—a dywedais hyn yn yr ymateb i'r pwyllgor—nad yw hynny'n golygu na allwn weithredu yn awr. Rydym yn bwrw iddi i wneud y pethau. Rydym yn gwneud pethau yn awr a dylem eu dwysáu. Dylem eu cyflymu. Felly, rydym yn bwrw iddi i weithredu yn awr. Nid oes raid aros am strategaeth yn 2019. Gallwn roi camau ar waith eisoes, ac fe drof at rai o'r pethau hynny mewn eiliad.

Yr ail elfen a dderbyniwyd gennym, ond yn rhannol, oedd sefydlogrwydd cyllido ar gyfer y trydydd sector. Soniodd sawl Aelod am hyn. Mewn byd delfrydol, byddech yn dweud yn syml, gyda haelioni mawr, 'Dyma'r cyllid. Dyma'r sefydlogrwydd sydd ei angen arnoch am dair blynedd. Ewch ati'. Ceir goblygiadau i hynny, ac mae rhai o'r goblygiadau hynny, wel, yn ddeublyg—dwy enghraifft fawr. Un yw hyblygrwydd, oherwydd bydd y trydydd sector yn gofyn inni hefyd am hyblygrwydd gyda chyllid ar gyfer arloesi, ar gyfer mentrau newydd—y math o bethau, efallai, y siaradodd Lee amdanynt; yr ysgogiad newydd sydd ei angen, ac mae angen rhywfaint o arian ysgogi. Ond yr agwedd arall y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohoni yma, wrth geisio rhoi'r sicrwydd hwnnw ynghylch arian y byddwn yn edrych arno ac yn ei ystyried, yw nad ydym am gael gwared ar ddim y gallai fod ei angen fel cyllid mewn argyfwng chwaith. Oherwydd weithiau ceir sefyllfaoedd go iawn lle yr hoffech ddefnyddio'r arian cyfyngedig sydd ar gael mewn sefyllfa o argyfwng.

Felly, mae angen inni gael y cymesuredd yn iawn ac ystyried hyn yn drwyadl, ond byddwn yn edrych arno, byddwn yn cyflwyno rhagor o waith i weld a ellid darparu arian drwy ffrydiau penodol, megis y gronfa gofal canolraddol gyda llaw. Credaf fod llawer o'r Aelodau yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r defnydd arloesol o'r gronfa hon, gan gynnwys, gyda llaw, canolfan byw'n annibynnol Caerdydd wrth gwrs. Buaswn yn argymell i'r Aelodau fynd i'w gweld—ewch i weld beth sy'n digwydd yno. Ariennir honno drwy'r gronfa gofal canolraddol. Nawr, byddwn yn  edrych ar hyn ac yn gweld, gyda'r gronfa gofal canolraddol a ffrydiau ariannu eraill tebyg, a allwn roi mwy o sicrwydd, ond rydym angen rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer cyllid mewn argyfwng a mathau eraill o gyllid yn ogystal.

Roeddem yn falch o dderbyn pob un o'r argymhellion yma o fewn yr adroddiad. Gadewch i mi ddweud ychydig mwy, felly, am y buddsoddiadau a wnaed mewn rhaglenni, y mentrau sy'n cael eu datblygu y gallwn eisoes eu gwneud heb aros tan 2019. Felly, ledled Cymru, mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi asesu effaith unigrwydd ac unigedd fel rhan o'u dadansoddiad ehangach o lesiant. Dros hyn y pleidleisiwyd yn y Cynulliad hwn yn flaenorol—cyn i mi ddod yma—mai'r dull hwn oedd y dull cywir. Mae'r cynlluniau sy'n sail i'r rhain yn awr yn destun ymgynghori, ac rwy'n awyddus i weld drosof fy hun sut y bydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi'r camau ar waith i hybu llesiant i'r eithaf yng nghanol ein cymunedau. Yr holl bethau gwahanol y buom yn siarad amdanynt—boed yn drafnidiaeth, boed yn fynediad at doiledau, boed yn gysylltedd cymunedol, boed yn llyfrgelloedd, hyn, llall ac arall—dyna yw hanfod hyn. Ni allwn ariannu pob menter fach a phob grŵp bach ym mhob cymuned yn uniongyrchol o'r Llywodraeth ganolog. Ni allwn wneud hynny. Ond yr hyn y gallwn ei ddweud yw, ' Dyma'r fframwaith y disgwyliwn iddo gael ei gyflawni. Dyma'r canlyniadau rydym eu heisiau. Nawr, ewch ati a dowch o hyd i ffordd o'i wneud', boed yn ardaloedd gwledig canolbarth Cymru neu yng nghwm dyfnaf de Cymru, ac ati.

Nawr, mae sefydliadau sector cyhoeddus yn arloesi er mwyn darparu gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigolion. Felly, er enghraifft, mae'r gronfa gofal integredig, cyfanswm o £60 miliwn, yn cefnogi gweithio ar y cyd ar draws y meysydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol. Fe'i cynlluniwyd i leihau'r niferoedd sy'n cael eu derbyn i ysbytai a gofal preswyl ac i ddarparu gofal cymdeithasol ar gyfer pobl yn ffyrdd a ddymunant. Mae'r prosiectau'n cynnwys darpariaeth llety a adeiladir o'r newydd, offer ac addasiadau sy'n hyrwyddo annibyniaeth, yn lleihau unigedd ac yn gwella ansawdd bywyd. Ac ar bwnc tai, Cefnogi—. Rwy'n ymwybodol—. Dywedais na fuaswn byth yn cael amser i gynnwys pob un o fy mhwyntiau. Rwy'n tybio fy mod yn fy 30 eiliad olaf.