Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn yr ychydig funudau, a allaf i ddiolch o waelod calon i'r Gweinidog am ei ymateb cadarnhaol ynglŷn ag amseriad y strategaeth? Hefyd, rwy'n deall y rhesymeg y tu ôl y busnes ariannu hefyd, a hefyd yn ei gyfarch ac yn ei longyfarch am fod yn fodlon gweithio a bod yn hyblyg i ddod ag atebion cynnar, achos mae unigrwydd ac unigedd—fel rydym ni wedi'i glywed gan bawb, mae yna gytundeb ar draws y llawr yn fan hyn o ran y sgil-effeithiau andwyol sydd yna.
Gwnaethom ni ddechrau efo Lynne Neagle yn sôn am unigrwydd a hunanladdiad, a gwaith arbennig y Samariaid, a phwysigrwydd grwpiau cymunedol. Hefyd, roedd Lynne yn cyfeirio at effeithiau andwyol posibl y cyfryngau cymdeithasol, i'w cyferbynnu felly efo beth a ddywedodd Lee Waters ynglŷn ag ochr gadarnhaol, bwerus y datblygiadau ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Dylem ni fod yn gwneud mwy o ddefnydd ohonyn nhw. Mae yn digwydd mewn rhai lleoedd, fel y gwnaethom ni glywed gan y Gweinidog a hefyd gan Julie Morgan. Mae yna dechnoleg newydd sy’n cael ei defnyddio i gysylltu pobl yn well. Ond, ar ddiwedd y dydd, beth sy’n cael gwared â’r teimlad o unigrwydd ac unigedd yna ydy siarad efo person byw arall.
Fe wnaf i byth anghofio; rai blynyddoedd yn ôl rŵan, gwnes i jest gyfarch rhywun ar y stryd yn Abertawe, jest dweud helô, a daeth hi i’m gweld i yn feddygfa wedyn, yr wythnos ganlynol, a’r 'helô' yna oedd yr unig air yr oedd hi wedi siarad â pherson arall ers yr amser yna—drwy’r wythnos, nid oedd hi wedi cael dim gair arall efo'r un person arall, ac mae hynny wastad wedi cydio ynof i. Yn aml, fel rydym ni wedi clywed gan Caroline Jones ac eraill, mae pobl mor unig maen nhw jest yn gweld eu meddyg teulu, a’r nyrs, fel yr oedd Jayne Bryant hefyd yn dweud, ac maen nhw’n mynd i weld y meddyg teulu a mynd i weld gwasanaethau cymdeithasol hefyd, yn ogystal â’r nyrsys, fel modd o jest cael rhywun i siarad efo fo. Dyna bwysigrwydd gweld a chyfathrebu â pherson byw arall.
Diolch i Angela Burns ac i Rhun am eu cyfraniadau, a hefyd i Janet Finch-Saunders a Joyce Watson. Mae’n hyfryd cael pobl sydd ddim yn aelodau o’r pwyllgor yn gwneud cyfraniadau—a hefyd cyfraniad pwerus iawn gan Dawn Bowden. Felly, llongyfarchiadau i bawb. Ac rwyf i hefyd yn benodol yn llongyfarch y Gweinidog. Rydym ni wedi cael safon trafodaeth arbennig iawn y prynhawn yma, ac rwyf yn hyderus iawn y cawn ni weithredu yn y maes yma, wedi clywed ateb cadarnhaol gan y Gweinidog. Diolch yn fawr iawn i chi.