7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl

Part of the debate – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Cynnig NDM6658 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da.

2. Yn gresynu bod rhai pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio gwasanaethau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol ac ataliol.