– Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
Symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl, a galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6658 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da.
2. Yn gresynu bod rhai pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio gwasanaethau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol ac ataliol.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig a gyflwynir heddiw gan y Ceidwadwyr Cymreig ar destun iechyd meddwl. Mae'r mater hwn yn un a fydd yn effeithio ar lawer ohonom yn ystod ein hoes, naill ai'n uniongyrchol neu drwy deulu a ffrindiau agos, a hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i'r Aelodau sydd wedi mynegi eu profiadau personol mewn perthynas ag iechyd meddwl yn y Siambr hon ar achlysuron blaenorol. Fe fuoch yn agored ac yn ddewr i wneud hynny. Drwy rannu'r profiadau hynny, credaf ei fod wedi helpu eraill i ddeall nad oes unrhyw gywilydd mewn bod yn sâl.
Rydym wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd ein bod am dynnu sylw at iechyd meddwl. Rydym am dynnu sylw at y ffaith y gallai gwasanaethau iechyd meddwl Cymru arwain y byd pe baent yn cael eu rhedeg mewn ffordd fwy rhagweithiol a chyfannol. Rydym am anfon neges i'r holl bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl fod golau ar ddiwedd y twnnel, a bod pobl yn deall.
Mae iechyd meddwl yn derm cyffredinol am amrywiaeth o gyflyrau. Gall pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl gael cyflyrau'n amrywio o orbryder ysgafn, iselder, ac anhwylderau bwyta, i sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol. Er bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn llawer mwy ymwybodol o gyflyrau iechyd meddwl mwy cyffredin, ac yn gallu eu trin yn fedrus, mae'n llawer anos cael mynediad at, neu siarad yn gyflym ag arbenigwyr sy'n ymdrin â chyflyrau mwy difrifol a chymhleth. Gall diffyg cymorth digonol i'r cyflyrau mwy cymhleth arwain at ganlyniadau difrifol i iechyd y claf a gall eu harwain i chwilio am fathau eraill o gymorth, drwy droi at gyffuriau neu alcohol.
Gall iechyd meddwl da effeithio'n gadarnhaol, nid yn unig ar yr unigolyn, ond hefyd ar y gymuned gyfan. Mae'n caniatáu i ni fod yn fwy gwydn ac i ymdopi â'r hyn sydd gan fywyd i'w daflu atom. Amcangyfrifir y bydd un o bob pedwar ohonom—dyna 25 y cant; chwarter y nifer sydd yn y Siambr hon—yn dioddef o anhwylder meddwl cyffredin ar ryw adeg yn ystod ein hoes. Mae hwnnw'n ystadegyn sy'n peri pryder, a'r hyn sy'n ei wneud yn waeth yw'r ffaith bod stigma di-sail yn dal i fodoli ynghylch salwch meddwl, sy'n atal llawer o bobl, yn enwedig dynion, rhag wynebu eu teimladau neu geisio cyngor am na allant ymdopi mwyach.
Yn ôl Samariaid Cymru, mae rhywle rhwng 300 a 350 o bobl yn marw drwy gyflawni hunanladdiad bob blwyddyn—bron un y dydd; 30 y mis. Mae tua thri chwarter y rhain yn ddynion. Mae 150,000 o bobl eraill yn meddwl am gyflawni hunanladdiad, yn ôl adroddiad gan gonffederasiwn Cymru ar iechyd meddwl yn 2017. Dyna oddeutu 5 y cant o'r boblogaeth gyfan, sy'n ystadegyn gwirioneddol sobreiddiol. Ac nid y rhaniad rhwng dynion a menywod yn unig sydd wedi dod yn amlwg yn ddiweddar. Mae Samariaid Cymru hefyd yn nodi gwahaniaeth cynyddol rhwng pobl sy'n byw mewn tlodi a phobl o ardaloedd mwy cefnog. Canfu ymchwil yr elusen fod ymddygiad hunanladdol yn cynyddu wrth i amddifadedd gynyddu. Mae derbyniadau i'r ysbyty yn sgil hunan-niwed ddwywaith mor uchel mewn ardaloedd difreintiedig o gymharu â'r ardaloedd mwyaf cyfoethog, ac roedd y risg o hunanladdiad yn cynyddu gyda lefelau diweithdra. Mae gwaith ymchwil arall wedi amcangyfrif bod cost iechyd meddwl gwael yn y gweithle yn £12 biliwn y flwyddyn, bron £860 am bob gweithiwr yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn oll yn gwneud i ni ofyn beth y gellir ei wneud i addysgu pob un ohonom sut i adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael yn gynharach o lawer.
Ceir llawer o resymau pam y daw cyflyrau iechyd meddwl yn amlwg. Mewn rhai achosion, gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod arwain at broblemau iechyd meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd, a cheir cysylltiadau eglur â dibyniaeth ar gyffuriau ac felly â marwolaethau cynnar. Gall un enghraifft o brofiad niweidiol yn ystod plentyndod fod yn drawmatig, ond yn aml gwelwn oedolion sydd wedi gorfod ymdrin ag achosion lluosog yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol. Mae'r hyn sy'n digwydd i ni wrth i ni dyfu yn bwysig, ac nid yr erchyllterau mwy traddodiadol y mae rhai plant yn eu hwynebu yw hyn yn unig. Mae cymaint o bwysau ar blant heddiw yn y byd modern.
A siarad fel mam i ddwy ferch ifanc, gallaf ddweud wrthych ein bod yn cael brwydrau cyson am ddelwedd y corff, cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, beth y mae'r cyfryngau print yn ei ddweud. Mae'r pwysau ar blant, yn enwedig merched, i gydymffurfio ag ymddangosiad neu steil penodol wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae pawb ohonom yn gwybod pa mor greulon y gall plant fod wrth ei gilydd. Adroddodd Childline fod 1,500 o ferched wedi cysylltu â hwy yn 2015-16, gyda'r ieuengaf yn wyth oed, yn poeni am ddelwedd eu corff—yn wyth oed, mewn difrif. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael ag ef cyn gynted â phosibl, oherwydd mae'r byd anllad sydd ohoni heddiw a'i sylw ar enwogion yn niweidio'r rhai sydd eto i ddatblygu'r croen trwchus a'r cryfder emosiynol i allu diystyru'r nonsens. Y canlyniad? Gorbryder, iselder, anhwylderau bwyta—mae'r rhain oll yn batrymau a all effeithio'n negyddol ar fywyd unigolyn yn y dyfodol.
Mae hyn yn fy arwain at ail bwynt ein dadl, lle yr hoffwn ganolbwyntio ar agweddau ar driniaeth iechyd meddwl y credwn nad ydynt yn gweithio'n dda. Mae'r agwedd gyntaf, ni fyddwch yn synnu clywed, yn ymwneud â diffyg cysondeb ar draws Cymru o ran darparu gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed o ansawdd da. Er gwaethaf eu natur fregus a llawer mwy agored i niwed yn aml, canran fach o'r cleientiaid sy'n dod o dan ymbarél CAMHS sy'n cael eu gweld o fewn yr amser aros argymelledig o bedair wythnos. Mae'n destun pryder mai tri yn unig o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n darparu tîm argyfwng CAMHS 12 awr, sy'n gweithio 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae'r un ym Mhowys yn gweithredu tan 5 p.m. o ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim o gwbl ar benwythnosau. Beth y mae hynny'n ei ddweud am ba mor bwysig yw iechyd meddwl i ni?
Rwyf i, a llawer o Aelodau Cynulliad eraill—a hoffwn gyfeirio'n benodol at Lynne Neagle yn hyn o beth—yn dal i bryderu nad yw'r gwasanaethau CAMHS yn gweithio'n effeithiol. Mae Lynne wedi dadlau'n frwd ynglŷn â hyn. Mae'r meini prawf y byddant yn eu dilyn yn aml yn rhy gul. Caiff cleientiaid eu trin yn ôl eu cyflwr iechyd meddwl yn hytrach na chael eu trin fel unigolion. Ni roddir cymorth i blant sy'n bygwth cyflawni hunanladdiad am nad ydynt wedi cael diagnosis o broblem feddygol. Gwrthodir mynediad i blant sy'n dioddef o effeithiau cam-drin neu esgeulustod neu blant sydd â phroblemau ymlyniad, fel yr amlygodd adroddiad y pwyllgor plant a phobl ifanc i gymorth ôl-fabwysiadu yn glir iawn. Felly i ble yr ânt? Rwy'n ofni nad ydynt yn mynd i unman.
Hoffwn dynnu sylw at astudiaeth Mind Cymru a arolygodd 400 o bobl ym mis Chwefror 2016 a oedd naill ai wedi gofyn am, neu wedi cael therapïau seicolegol yn y tair blynedd cyn hynny. Canfu fod 57 y cant o bobl yn wynebu arhosiad o fwy na thri mis ddim ond i gael asesiad gan y gwasanaeth, ac roedd 21 y cant yn wynebu arhosiad o fwy na blwyddyn i gael eu hasesu. Rydym newydd gael dadl am unigrwydd ac unigedd, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n peri iselder. Ni allaf ddychmygu; dyna chi, rydych mewn cyflwr ofnadwy, mae taer angen help arnoch, mae eich meddwl yn brwydro, mae pob math o feddyliau yn eich pen, ond mae'n rhaid i chi aros am 12 mis i gael eich gweld. Mae'r drafft o gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2016-19 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd adrodd ar y targed 26 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd arbenigol ar gyfer pob claf, gan gynnwys y rhai mewn gwasanaethau cleifion mewnol.
Nawr, ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer 2017, dywedasom y dylai pobl gael mynediad cyfartal, pa un a ydynt mewn gofal sylfaenol neu ofal eilaidd—polisi a gefnogir gan Mind Cymru—a galwaf ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targed i bawb allu cael mynediad at therapïau seicolegol o fewn 28 diwrnod. Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i chi edrych i weld a allwch sicrhau hyn. Ac wrth wneud hynny, a wnewch chi hefyd adolygu'r ffordd y caiff hyfforddiant ar faterion iechyd meddwl ei strwythuro? Er enghraifft, nid yw meddygon teulu ar hyn o bryd ond yn cyflawni un modiwl hyfforddiant, allan o 21, ar iechyd meddwl yn benodol. Mae niferoedd y meddygon teulu dan hyfforddiant sy'n ymgymryd â chyfnod mewn seiciatreg yn lleihau'n gyson ac nid yw llawer o feddygon teulu ond yn gweld yr achosion mwyaf difrifol o salwch iechyd meddwl mewn cyfleusterau gofal sylfaenol yn ystod eu hyfforddiant ac felly maent yn llai cyfarwydd ag ef ac felly'n ei chael hi'n anos adnabod achosion mwy cymedrol o orbryder neu iselder ysbryd a allai elwa o ymyrraeth gynnar pan fo'r bobl hynny'n dod i'w meddygfeydd.
Mater arall rwyf wedi'i godi dro ar ôl tro yw'r ffordd y clustnodwyd gwariant ar iechyd meddwl gan y byrddau iechyd. Er ei fod wedi ei glustnodi ers 2008, mae iechyd meddwl yn faes o'n gwasanaeth iechyd sydd wedi'i danariannu i raddau cronig. Yn 2015-16, gwariwyd 5.1 y cant yn unig o wariant y GIG ar iechyd meddwl oedolion, a 0.7 y cant ohono'n unig a wariwyd ar wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Er bod clustnodi arian yn amlygu pa mor bwysig yw hi i ddiogelu gwariant ar iechyd meddwl, gwyddom nad yw'n adlewyrchiad cywir o ble y dylai cyllid iechyd meddwl fod, oherwydd mae bron bob un o'r byrddau iechyd yn dweud eu bod yn gwario llawer mwy na hynny ar iechyd meddwl. Ond rydym hefyd yn gwybod bod clustnodi arian ar iechyd meddwl neu'r defnydd o'r arian a glustnodir yn agored i ddehongliad gyda llawer o fyrddau iechyd yn chwarae'r system ac yn datgan y gellir defnyddio'r arian a glustnodir i ymgorffori'r holl gostau mewn perthynas â chlaf. Clywsom dystiolaeth yn y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol yn ddiweddar sy'n dweud, ac rwy'n mynd i ddyfynnu,
Er enghraifft, os yw claf sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl sylfaenol yn torri ei glun, bydd costau trin y glun yn cael eu cynnwys o fewn yr arian a glustnodir ar gyfer iechyd meddwl.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi addo adolygu'r gwariant a glustnodir er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau datblygiadau mawr eu hangen yn y gwasanaeth hwn? Oherwydd os caiff ei ddefnyddio ar bethau fel cluniau pan fyddwch wedi ei glustnodi ar gyfer iechyd meddwl, sut y gallwn drawsnewid y modd y darparwn wasanaethau iechyd meddwl?
Wrth i mi ddod â fy sylwadau i ben, hoffwn dynnu sylw at ychydig o enghreifftiau lle mae prosiectau arloesol yn newid bywydau. Yn fy ardal fy hun, mae Hywel Dda, ar y cyd â Heddlu Dyfed-Powys, yn sefydlu tri chaffi argyfwng ar draws y rhanbarth gyda'r bwriad o ganiatáu i bobl alw heibio a chael sgwrs â chyrff cymorth perthnasol dros baned o goffi. Mae hyn yn newid enfawr i'r defnydd presennol o'r heddlu fel ymatebwyr cyntaf i gynifer o bobl sy'n arddangos arwyddion o iechyd meddwl gwael. Mae'n ychwanegu at yr ofn a'r stigma hwnnw ac yn y pen draw yn troseddoli rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl—ac rwy'n dweud yn glir nad wyf yn dal heddluoedd yn atebol am hyn; yn aml iawn, hwy yw'r unig rai sydd ar gael.
Daw enghraifft arall o arfer gorau o Loegr lle mae gan chwe ymddiriedolaeth GIG dimau wedi'u hyfforddi yn y dull deialog agored. Mae'r dull hwn yn golygu bod pobl yn cael eu gweld o fewn 24 awr i fynd yn sâl. Cynhelir cyfarfodydd gyda thimau seiciatrig yn eu cartrefi neu ble bynnag y bydd cleifion yn teimlo'n gyffyrddus, ac mae hefyd yn sicrhau bod y mantra 'dim byd amdanoch chi heboch chi' yn cael ei fabwysiadu ac yn galluogi cleifion i weld eu nodiadau i gyd. Mae'n syniad arloesol sy'n werth i'r GIG yng Nghymru edrych arno. Mae galw clir yng Nghymru bellach, nid yn unig gan y Cynulliad Cenedlaethol ond hefyd gan y rhai sy'n gweithio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn y trydydd sector ac unigolion, i ddiwygio'n radical y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl. Mae angen i ni gydnabod yn llawn beth yw'r manteision cymdeithasol ac economaidd unigol a ddaw o atal iechyd meddwl rhag gwaethygu. Mae angen inni ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ar lefel sy'n gydradd â'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd corfforol, ac mae angen inni sicrhau bod ein gwasanaethau eilaidd a'n gwasanaethau argyfwng yn gallu cefnogi pobl yn ddiogel ac yn effeithiol pan fo'u hangen. Yn y pen draw, mae'n ymwneud â phobl. Rydym yn fodau o gig a gwaed, ond rydym hefyd yn fodau'r meddwl a'r enaid. Ni allwn fod yn iach oni bai bod y cyfan ohonom yn cael ei drin fel un.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gafodd ei gyflwyno yn fy enw i, sydd â'r nod o ychwanegu at a chryfhau, rwy'n gobeithio, y cynnig gwreiddiol. Ni allwn orbwysleisio'r angen i gael darpariaeth iechyd meddwl da i bobl ifanc. Ni allwn orbwysleisio'r angen i ddelio â phroblemau iechyd pobl ifanc yn fuan, oherwydd rydym ni'n gwybod, yn yr achosion mwyaf eithafol, bod methiant i ddelio â phroblemau yn gallu bod yn drychinebus yn y pen draw, a hunanladdiad ydy'r ail achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ymysg pobl yn eu harddegau. Mae'n cyfraddau hunanladdiad ni yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr a'r Alban, ac mae ffigurau diweddar yn dangos bod llawer o'r bobl ifanc sydd wedi cymryd eu bywydau eu hunain wedi bod yn anhysbys i CAMHS, neu dim ond wedi cael cyswllt byr iawn efo'r gwasanaethau hynny, sy'n awgrymu bod y ddarpariaeth bresennol yn brin iawn o'r hyn rydym ei angen i ateb y galw.
Rydym yn ddiweddar wedi clywed llawer o sôn, a chwestiynau yn cael eu holi o'r Llywodraeth yn y Siambr yma, am ofal iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae rhestrau aros ac amser aros yn un mesur pwysig o berfformiad. I'ch atgoffa chi, rhwng 2013 a 2015 mi welwyd cynnydd anferth mewn amseroedd aros, yn enwedig ar gyfer y rheini a oedd yn aros dros 16 wythnos neu bedwar mis. Roeddem ni mewn sefyllfa lle roedd bron i hanner y bobl sydd yn aros yn gorfod aros am fwy na pedwar mis. Mi fu yna beth gwelliant wedyn, ond erbyn Chwefror 2017, y mis olaf o ddata sydd gennym ni i allu cymharu, nid oedd amseroedd aros yn dal ddim wedi mynd yn ôl i lefelau haf 2013, felly mae'r dirywiad yn glir iawn.
Ond ymateb y Llywodraeth, yn anffodus, dro ar ôl tro oedd gwadu y broblem. Ar sawl achlysur, mi wnaeth y Prif Weinidog honni mai y broblem mewn difrif oedd fod yna ormod o bobl ar y rhestr oedd ddim angen bod ar y rhestr. Ac ym mis Mawrth y llynedd, beth welsom ni oedd yr ystadegau yn newid dros nos. Aeth nifer y bobl a oedd ar y rhestr wedi'u cofnodi yn aros am apwyntiad CAMHS i lawr 74 y cant, wrth i lwybrau non-CAMHS gael eu tynnu oddi yna, a hynny'n dros 1,700 o blant. Mae'n gwelliant ni heddiw yn adlewyrchu ein bod ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i'r plant hynny; data CAMHS ydy'r unig ddata perfformiad sydd ar gael.
Yn anochel, mi wnaeth newid y mesur o amseroedd aros arwain at y Llywodraeth yn dweud wrthym ni fod amseroedd aros yn gwella, gan fod y data yn dangos gwelliant mawr: 86.7 y cant o achosion rŵan yn cael eu gweld o fewn pedair wythnos. Naid sylweddol o'r 35.2 y cant yn ystod y mis blaenorol. Ond, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd yma ydy newid yn sut mae pethau yn cael eu mesur, felly allwn ni ddim cymharu go iawn, ac ni ydym yn gwybod beth ddigwyddodd i'r 74 y cant arall o blant yr oeddem ni'n arfer cofnodi eu siwrnai nhw.
Mi wnaeth y Prif Weinidog ysgrifennu at Leanne Wood pan wnaethom ni godi hwn ym mis Tachwedd, a chadarnhau bod ein ffigurau ni yn gywir: 74 y cant o achosion eraill, un ai'n blant a fyddai rŵan yn cael eu gweld gan y gwasanaeth arbenigol ar gyfer plant gyda chyflyrau niwroddatblygiadol a gafodd ei ddatblygu yn 2016-17, neu eu bod nhw'n achosion llai a oedd wedi cael eu gweld gan wasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol lleol a oedd wedi cael eu cynnwys ar gam yn ffigurau CAMHS. Ond, wrth gwrs, nid oes gennym data ar gyfer plant sydd angen y gwasanaethau yna.
Rydym yn derbyn bod yna rai plant, o bosibl, wedi bod angen y triniaeth ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol, yn hytrach na CAMHS. Rydym hefyd yn gwybod bod y trothwy ar gyfer CAMHS wedi bod yn llawer rhy uchel. Mi gafodd hynny ei nodi gan ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2014. Mi nododd Swyddfa Archwilio Cymru hefyd fod problem o ran triniaeth i bobl ifanc yn cael ei stopio os oedd apwyntiad yn cael ei golli, a bod hynny yn broblem a oedd yn dylanwadu ar ffigurau.
Ond rwy ymhell iawn o fod wedi cael fy argyhoeddi mai'r unig broblem efo CAMHS oedd bod yna ormod o blant yno oedd ddim angen bod yna. Rydym yn gwybod ei bod yn broblem o gapasiti, yn broblem o ddiffyg gwasanaethau arbenigol, a methiant i gymryd y sefyllfa ddigon o ddifrif. Ac mae diffyg data yn broblem sy'n golygu na allwn ni fesur a rhoi pwysau ar y Llywodraeth i weithredu yn y ffordd mae'n pobl ifanc ni ei hangen. Ni allwn dderbyn y status quo o beidio gwybod sut mae'r NHS yn perfformio pan mae'n dod i edrych ar ôl rhai o'n pobl mwyaf bregus ni.
Rwy’n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.
Ddoe, fe ges i’r fraint o allu cyd-gynnal sesiwn briffio yma yn y Cynulliad ar wasanaethau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig gyda Simon Thomas. O’r digwyddiad yma, daeth i'r amlwg rai o'r materion difrifol iawn ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer iechyd meddwl yn ein cymunedau gwledig. Fel dywedodd Angela Burns, mae un ym mhob pedwar o bobl yn dioddef o broblemau iechyd meddwl rywbryd yn eu bywydau, ac yn y byd amaethyddol, ceir un o’r cyfraddau uchaf o hunanladdiad. Mae’r diwydiant ffermio yn gallu bod yn anodd iawn i weithio ynddo ac mae nifer o’r ffactorau hynny o straen yn rhywbeth sydd tu hwnt i ddwylo ffermwyr, megis anwadalwch mewn prisiau yn y farchnad, neu’r effaith emosiynol o TB mewn gwartheg. Mae nifer o ffermwyr yn gweithio mewn amodau ynysig ac yn treulio oriau hir ar eu pennau eu hunain gydag ychydig iawn o gyswllt gyda phobl eraill. Mae natur y gwaith yn mynnu oriau hir o waith llafur corfforol caled.
Yn wir, yn ôl yr adroddiad ar gefnogi lles ffermwyr gan Nuffield Farming Scholarships Trust mae yna tua 50 o ffermwyr ym Mhrydain yn marw bob blwyddyn drwy hunanladdiad. Yn yr Unol Daleithiau, ffermwyr, fforestwyr a physgotwyr sydd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiad, o gymharu ag unrhyw broffesiwn arall yn y wlad. Er gwaetha’r ffeithiau hyn, nid yn aml caiff iechyd meddwl ei sôn amdano yn y diwydiant amaethyddol, ac er bod ymdrechion yn cael eu gwneud i fynd i'r afael â'r mater hwn, mae'n amlwg y gellir gwneud mwy.
Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig yn cynyddu ac mae peth gwaith da yn cael ei wneud ar hyn o bryd ledled Cymru. Yn fy etholaeth i, sefydlodd Emma Picton-Jones Sefydliad DPJ ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth ei gŵr Daniel, a chlywsom gyflwyniad arbennig gan Emma yn y sesiwn briffio ddoe. Nod y sefydliad yw cefnogi dynion mewn cymunedau gwledig sydd â phroblemau iechyd meddwl trwy ddefnyddio stori Daniel i helpu i dorri'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ac yn ddiweddar iawn lansiodd y sefydliad Share the Load, ei wasanaeth cwnsela allgymorth sy'n cynnig therapïau siarad a chynghori allgymorth i'r rhai sydd angen y gefnogaeth hon. Mae gwaith Sefydliad DPJ ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar sir Benfro, ond mae enghreifftiau o'r math hwn o weithgareddau mewn rhannau eraill o Gymru, ac mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo ac yn hyrwyddo rhwydweithiau cymorth iechyd meddwl mwy lleol sydd yn addas i ofynion yr ardaloedd hynny. Efallai wrth ymateb i'r ddadl hon, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhwydweithiau cymunedol llai, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, i fynd i'r afael â mater iechyd meddwl yn y cymunedau hynny.
Wrth gwrs, mae codi ymwybyddiaeth yn un peth, ond mae hefyd yn bwysig bod darpariaeth o wasanaethau ar gael i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ac mae pryderon nad oes mynediad at wasanaethau mewn ardaloedd gwledig ar gael. Mae natur anghysbell y nifer o gymunedau ffermio yn golygu eu bod yn aml yn ddaearyddol bell oddi wrth wasanaethau iechyd craidd. Er enghraifft, llynedd, ymgynghorodd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda am ei gynlluniau i newid y ffordd y mae'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl ar draws gorllewin Cymru trwy sefydlu uned asesu arbenigol ganolog yn ysbyty Glangwili gydag uned drin ganolog yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Felly, ar gyfer cymunedau gwledig yn sir Benfro, unwaith eto bydd rhaid i gleifion deithio ymhellach i ffwrdd ar gyfer triniaeth arbenigol. Yn anffodus, bydd cynigion y bwrdd iechyd yn ychwanegu at amseroedd teithio yn naturiol ac, yn sicr, bydd yn anodd i bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod seilwaith trafnidiaeth sir Benfro yn gyfyngedig. Felly, mae'n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw un dull sy’n addas i bawb yn gweithio, a rhaid sicrhau bod byrddau iechyd yn deall hynny wrth gynllunio gwasanaethau.
Gallwn hefyd ddysgu gwersi o bob cwr o'r byd ynghylch sut y maent yn ymdrin ag iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig. Mae adroddiad Ymddiriedolaeth Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield yn ei gwneud hi'n glir bod Awstralia a Seland Newydd yn eithaf datblygedig wrth fynd i'r afael ag iechyd meddwl ffermwyr, ac efallai y gallwn fanteisio ar rai o'u syniadau. Er enghraifft, mae gan Seland Newydd system o health pit stops lle mae gan ffermwyr y cyfle i gael archwiliad iechyd corfforol a meddyliol cyffredinol, ac mae'r pit stops hyn yn cael eu cynnal mewn digwyddiadau diwydiant mawr megis sioeau amaethyddol. Mae Awstralia hefyd wedi datblygu sefydliadau megis y Ganolfan Iechyd Meddwl Gwledig ac Anghysbell a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Ffermwyr sy'n canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau ymyrraeth ar gyfer iechyd a lles meddwl gwledig. Felly, mae lle i Gymru i edrych ar y cynlluniau hyn a gweld sut y gallwn ni ddysgu am rai o'r llwyddiannau yma, a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ein byrddau iechyd yn dysgu o gynlluniau llwyddiannus ledled y byd.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a allaf unwaith eto ailadrodd pwysigrwydd buddsoddi mewn rhwydweithiau cymorth iechyd meddwl ar gyfer cymunedau gwledig? Mae ffermwyr yn rhai o weithwyr pwysicaf Cymru, ond weithiau maent hefyd yn rhai o’n pobl mwyaf bregus. Felly, fel rhan o unrhyw strategaeth neu bolisi'r Llywodraeth a ddatblygir ar iechyd meddwl, hoffwn weld mwy o ddealltwriaeth a sylw i'n cymunedau gwledig a'r rheini sy'n gweithio ynddynt. Felly, rydw i'n annog pobol i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n siarad y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad. Yn ddiweddar fe gynhaliwyd ymchwiliad cynhwysfawr gennym i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Yfory, byddwn yn cynnal ein sesiwn tystiolaeth lafar olaf, ac yn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rydym yn anelu at gyflwyno adroddiad cyn y Pasg eleni, felly rwyf am osgoi achub y blaen ar ein casgliadau a'n hargymhellion yn fy nghyfraniad heddiw.
Fodd bynnag, roeddwn am dynnu sylw'r Aelodau at y dystiolaeth werthfawr a gawsom ar y pwnc hwn yn y misoedd diwethaf, a'r pwyslais arbennig a roddwyd ar bwysigrwydd gwaith ataliol effeithiol gan randdeiliaid arbenigol, staff rheng flaen a phlant a phobl ifanc eu hunain. Dechreusom ein hymchwiliad yr haf diwethaf.
Y peth cyntaf a wnaethom oedd ymweld â lleoliadau sy'n darparu cymorth i blant a phobl ifanc ar ddau ben y sbectrwm angen. Tra bu rhai ohonom yn ymweld â dwy uned cleifion mewnol Cymru, sy'n darparu cymorth i rai sy'n dioddef y salwch meddwl mwyaf dwys ac sydd angen gofal mwyaf arbenigol, ymwelodd eraill ag Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn, ysgol gynradd sydd wedi ymgorffori ymwybyddiaeth ofalgar ar draws ei haddysg gynradd ac iau. Ar eu hymweliad ag Ysgol Pen y Bryn, gwelodd yr Aelodau drostynt eu hunain beth y gellir ei gyflawni o ran gwytnwch plant os mabwysiedir dull gweithredu ysgol gyfan sy'n hybu lles ac iechyd meddwl da i bob disgybl o oedran cynnar. Dywedodd plant mor ifanc â chwech oed wrthym fod ymwybyddiaeth ofalgar yn eu helpu pan oeddent yn gofidio, yn nerfus neu'n bryderus. Ar y llaw arall, dywedodd y bobl ifanc y buom yn siarad â hwy yn Nhŷ Llidiard, yr uned ar gyfer plant a phobl ifanc yn ne Cymru sydd angen gofal cleifion mewnol, fod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ac i rymuso pobl ifanc i siarad am yr hyn sy'n peri pryder iddynt. Dywedasant wrthym eu bod wedi bod yn dioddef problemau iechyd meddwl am amser hir cyn iddynt gael mynediad at unrhyw fath o gymorth, arbenigol neu fel arall.
Yn ystod y cyfnod y buom yn casglu tystiolaeth, mae wedi dod yn amlwg fod lleoliadau ysgol yn allweddol i hyrwyddo lles emosiynol ac iechyd meddwl da. Ceir consensws cryf y gellir osgoi gwaethygu sylweddol mewn lles meddyliol drwy ymdrin â materion cyn gynted ag y bo modd, cyn i broblemau ddod yn ddigon difrifol i fod angen ymyrraeth arbenigol. Os yw cymorth yn mynd i fod yn wirioneddol ataliol o ran ei natur, clywsom fod angen inni wneud yn siŵr fod plant a phobl ifanc yn gallu siarad yn agored am eu lles emosiynol a gwybod lle i droi os oes ganddynt bryderon amdanynt eu hunain neu am eraill. Tynnodd bron bob tyst sylw at y cyfleoedd a gynigir gan ddiwygio'r cwricwlwm yng Nghymru.
Serch hynny, mae'n amlwg hefyd fod angen newid sylweddol i wireddu'r uchelgais hwn. Er gwaethaf awydd cyffredinol i weld addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio'n agosach i gydlynu eu cymorth, dengys y dystiolaeth a glywsom nad yw hyn wedi'i roi ar waith yn ymarferol eto i'r graddau sy'n angenrheidiol. Er gwaethaf ymdrechion mudiadau fel y Samariaid i gyflwyno cymorth fel prosiect DYEG—datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando—mae gormod o blant heb yr arfau sydd eu hangen arnynt i'w galluogi i ymateb yn wydn i'r pwysau y mae bywyd yn ei roi arnynt o oedran mwyfwy cynnar. Fel y dywedodd Dr Liz Gregory, seicolegydd clinigol ymgynghorol, wrthym, yn rhy aml pan fo gennym bryderon ynglŷn ag iechyd meddwl ein plant, rydym yn troi at fodel gofal oedolion. Mae hyn yn dynodi methiant i gydnabod y gwendid cynhenid a'r diffyg rheolaeth sydd gan blant ar eu bywydau eu hunain ar gam cymharol gynnar yn nhaith bywyd.
Wrth gloi, hoffwn nodi ein bod, fel pwyllgor, wedi taflu goleuni ar y pwnc hwn dros y chwe mis diwethaf gyda'r nod o ddiwygio system sydd wedi dibynnu, am gyfnod rhy hir, ar adael i blant a phobl ifanc gyrraedd pwynt lle mae angen triniaeth ac ymyrraeth feddygol cyn y darperir cymorth. Pan fyddwn yn cyflwyno ein hadroddiad yn ddiweddarach y tymor hwn, byddwn yn canolbwyntio ar y camau sydd angen inni eu cymryd i wrthdroi hyn, er mwyn hybu lles ac iechyd meddwl da fel y galluogir ein plant a'n pobl ifanc i drafod eu hemosiynau heb ofni stigma a sicrhau bod ganddynt yr arfau sydd eu hangen arnynt i wynebu heriau a phwysau yn wydn a hyderus. Diolch.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac rwy'n croesawu'r cyfraniad a wnaed yn awr am waith y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau, os caf, ar gyflwr gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr. Mae'n fater sy'n cael sylw'n aml yn y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, ac mae'n rhywbeth yr edrychwyd arno yn gynharach yr wythnos hon hefyd yn ein cyfarfod grŵp trawsbleidiol, lle roedd Angela Burns yn bresennol. Mae pawb ohonom yn gwybod nad yn unig pan fyddant mewn ardaloedd lle y ceir gwrthdaro a rhyfel y bydd cyn-filwyr yn wynebu straen ar eu hiechyd meddwl, ac y gallant wynebu pwysau mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod pontio yn ôl i fywyd fel sifiliaid ar ôl iddynt gwblhau eu gwasanaeth. Felly, mae'n hanfodol mewn gwirionedd fod gennym system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n diwallu eu hanghenion arbennig, oherwydd fe wyddom wrth gwrs os nad ydym yn diwallu eu hanghenion, gallai fod cylch o ddirywiad, sy'n sylweddol ac a allai gostio llawer iawn mwy o arian i'r trethdalwr ei ddatrys na phe bai'r problemau hyn wedi cael eu datrys yn fuan: chwalfa deuluol, episodau o fewn y system cyfiawnder troseddol, ac—yn anffodus, fel sy'n wir am y gymuned ffermio, fel y clywsom—pobl yn penderfynu rhoi diwedd ar eu bywydau eu hunain.
Nawr, rhaid canmol Llywodraeth Cymru, rhaid i mi ddweud, am sefydlu GIG Cymru i gyn-filwyr. Mae'n rhywbeth rydym ni ar y meinciau hyn wedi ei gefnogi a'i hyrwyddo'n barhaus dros y blynyddoedd. Gwyddom fod bron i 3,000 o gyn-filwyr wedi defnyddio'r gwasanaeth ers ei sefydlu yn 2010, a bod nifer yr unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers iddo ddechrau. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â hyb Caerdydd a'r Fro o'r gwasanaeth i gyfarfod â Dr Neil Kitchener, sydd wrth gwrs yn goruchwylio'r gwasanaeth ledled Cymru, ac yno, gwelais y gwaith aruthrol sydd wedi bod yn digwydd gyda'u hymchwil 3MDR, sef technoleg drochi sy'n cael cyn-filwyr i wynebu'r trawma y maent wedi'i ddioddef yn y gorffennol, yn y gobaith y bydd yn helpu i ddatrys y trawma hwnnw a'u cael drwyddo, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi ymweld â—gwaith ymchwil aruthrol, ymchwil arloesol, sy'n digwydd yma yng Nghymru, ac rwyf am ddatgan y ffaith honno, oherwydd mae'n rhywbeth y gallwn oll fod yn falch iawn ohono.
Fodd bynnag, ceir pwysau o fewn gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr sydd angen sylw. Un o'r problemau mawr a gawsant yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw capasiti, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod yna amseroedd aros amrywiol ledled Cymru i gael mynediad at y gwasanaeth. Mewn rhai mannau, gall yr amser aros fod cyn lleied ag wyth wythnos, sy'n amlwg yn dda iawn. Mewn mannau eraill, gall fod mor hir â 38 wythnos, sy'n amlwg yn annerbyniol, ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae'r pwysau hynny wedi llacio i ryw raddau o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol o £100,000 a ddaeth yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, ond mae arnaf ofn ei fod yn dal yn annigonol i ateb maint y galw. Felly, cred y gwasanaeth ei hun fod angen £250,000 ychwanegol i ddarparu cymorth mentora cyfoedion, y gellir ei gynnwys yn rhan o'r gwasanaeth, cymorth a oedd yno'n draddodiadol o ganlyniad i'r gwasanaeth Newid Cam, gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan a gâi ei redeg gan CAIS, sef elusen sy'n gweithredu o fy etholaeth. Ac ariennir y gwasanaethau mentora cyfoedion ar hyn o bryd yn rhannol gan Help for Heroes ac yn rhannol, er clod iddynt, gan fwrdd iechyd lleol prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n ategu gwasanaeth therapi GIG Cymru i gyn-filwyr sydd ar gael.
Felly, am £0.25 miliwn y flwyddyn yn unig, sy'n arian bach o ran cyllideb gyffredinol y GIG ledled Cymru, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i'r cyn-filwyr hyn, a chredaf, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddech yn dymuno i ni gael y gwasanaeth gorau y gallwn ei gael ar gyfer y cyn-filwyr hyn yng Nghymru, felly hoffwn ofyn o ddifrif i chi adolygu'r trefniadau cyllido ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr i weld a allech ystyried y £250,000, yn ychwanegol at yr adnoddau rydych eisoes wedi eu haddo, fel y gall y gwasanaeth fod o'r safon orau mewn ffordd nad oes unrhyw ran arall o'r DU yn ei wneud mewn gwirionedd.
Hoffwn orffen drwy ddatgan cefnogaeth i wasanaethau Siediau Cyn-filwyr yn ogystal. Cafodd y Sied Cyn-filwyr gyntaf—. Bydd pobl yn gyfarwydd â gwasanaethau Siediau Dynion, ond sefydlwyd y sied gyntaf i gyn-filwyr yn fy etholaeth i yn Llanddulas, ac rwy'n falch iawn o'r ffaith honno. Hefyd maent yn gwneud, ar lefel is o lawer, ond maent yn adeiladu gwytnwch yng nghymuned y cyn-filwyr pan fyddant yn wynebu heriau ar ôl dychwelyd i fywyd sifil. Felly, rwyf am ddatgan cefnogaeth iddynt hwy a Martin Margerison, y gŵr a ddechreuodd hynny yn fy etholaeth. Rwy'n teimlo bod angen mwy o'r siediau hynny i gyn-filwyr ar draws Cymru, ac rwyf am ganmol y Llywodraeth am y gwaith y mae'n ei wneud ar GIG Cymru i gyn-filwyr, ond credaf fod angen inni wneud mwy.
Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl heddiw hon ac i Angela am agor y ddadl ac am ei chyfraniad huawdl.
Yn anffodus, nid yw iechyd meddwl yn cael y sylw y mae'n ei haeddu yn ein GIG o hyd. Rwy'n croesawu'r £20 miliwn ychwanegol i'r gyllideb a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl, sy'n codi'r cyfanswm i £649 miliwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon o hyd.
Ar ôl gweithio gyda phobl â graddau amrywiol o broblemau iechyd meddwl, mae'n ddirdynnol a dweud y lleiaf, a chyfarfod a'u teuluoedd—roedd yn ingol iawn. Ar ôl gweithio'n agos gyda'r Samariaid hefyd, teimlaf yn ostyngedig wrth ystyried y gwaith a wnânt a'r gwasanaeth drwy'r dydd a'r nos a ddarparant a hefyd y bywydau y maent yn eu hachub. Rwy'n derbyn mai'r gyllideb a glustnodwyd yw'r isafswm gwariant ac y gall y gwariant gwirioneddol fod yn uwch o lawer na hynny, ond fel arfer nid yw'n llawer uwch. Y gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, 2015-16: gwariodd Cymru £683 miliwn. Pan ystyriwch fod y gyllideb iechyd oddeutu £7.5 biliwn a bod materion iechyd meddwl yn effeithio ar fwy na chwarter ein poblogaeth, pam rydym yn gwario tua 10 neu 11 y cant ar wasanaethau iechyd meddwl?
Mae PricewaterhouseCoopers, yn eu hadolygiad o'r trefniadau clustnodi arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn datgan nad yw'r arian a glustnodir yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd. Mae angen i Lywodraeth Cymru newid y trefniadau clustnodi arian fel mater o frys.
Nid wyf am ailadrodd achos y cyn-filwyr oherwydd mae Darren eisoes wedi ei ddweud, ond rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd.
Mae amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn dal yn llawer rhy hir, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Er gwaethaf y targed o 28 diwrnod, mae mwy na hanner y plant a atgyfeiriwyd at CAMHS yn aros mwy na phedair wythnos, ac mae rhai plant a phobl ifanc yn aros am fwy na hanner blwyddyn. Cefais alwad ffôn gan un o fy etholwyr yn dweud ei bod wedi bod yn aros am saith mis am asesiad, ac ar ôl siarad ag aelod o'r tîm CAMHS, dywedwyd wrthyf fod yr ôl-groniad—chwe mis yn ôl oedd hyn—yn anferth a bod rhai pobl wedi bod yn aros am bron i flwyddyn. Felly, nid yw'r darlun ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn llawer gwell. Mae 12.5 y cant o gleifion yn aros hyd at 56 diwrnod a mwy na 9 y cant o gleifion yn aros yn llawer hwy na hynny.
Nid ydym yn gadael cleifion sydd wedi'u hanafu mewn poen, felly pam rydym yn goddef i'r rhai sy'n dioddef o salwch meddwl gael eu gadael mewn gwewyr meddwl am fisoedd bwygilydd? Nid oes gennym ddigon o arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, ac nid oes gennym ddigon o staff clinigol chwaith. Chwe seiciatrydd ymgynghorol yn unig sydd gennym i bob 100,000 o gleifion. Mae 10 i bob 100,000 yn yr Alban ac wyth yn Lloegr. Mae gennym brinder mawr mewn seiciatreg gyffredinol, seiciatreg yr henoed a seicoleg glinigol. Nid yw'n syndod fod amseroedd aros mor uchel.
Ar gyfer therapi gwybyddol ymddygiadol a therapïau siarad eraill, bydd y rhan fwyaf o gleifion yn aros rhwng tri neu bedwar mis a blwyddyn, ac mae 15 y cant o gleifion yn aros am lawer mwy na blwyddyn. O ganlyniad, cafwyd gorddibyniaeth ar feddyginiaeth bresgripsiwn. Yn ôl ciplun diweddaraf Gofal, cynigir meddyginiaeth seiciatrig i 80 y cant o gleifion, i fyny o tua 60 y cant yn 2012. Er bod meddyginiaeth seiciatrig yn fuddiol i lawer o bobl, ni ddylid ei hystyried yn ateb holliachaol. Gall fod sgil-effeithiau echrydus i gyffuriau gwrthiselder a meddyginiaeth wrthseicotig, yn amrywio o ddiffyg bywiogrwydd i deimladau hunanladdol.
Yn anffodus, mae cyfuniad o feddygon teulu wedi'u gorweithio a rhestrau aros hir am therapïau seicolegol yn gadael pobl heb unrhyw ddewis arall ond cymryd cyffuriau a allai wneud iddynt deimlo'n llawer gwaeth. Nid dyma a ragwelwyd gan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ac mae'n bosibl ei fod yn cyfrannu at ein cyfraddau hunanladdiad, sydd i gyfrif am dair gwaith cymaint o farwolaethau â damweiniau traffig ar y ffyrdd. Rydym yn gwneud cam â'n hetholwyr, gydag un o bob pedwar ohonynt yn dioddef problemau iechyd meddwl.
Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig, ynghyd â gwelliant Plaid Cymru, ac yn annog Llywodraeth Cymru i roi camau ar waith ar frys i wella'r ddarpariaeth iechyd meddwl i bawb yng Nghymru.
Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl. Mae'n un o gyfres a gawsom y prynhawn yma lle y ceir cefnogaeth drawsbleidiol i wasanaethau gwell mewn maes penodol.
Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad ar gyfer yr ymgyrch Amser i Newid Cymru yma yn y Senedd. Fel y gwyddoch, nod yr ymgyrch honno yw rhoi diwedd ar stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yng Nghymru. Wythnos cyn hynny—rwy'n siŵr fod llawer o gyd-Aelodau eraill wedi gwneud fel y gwnes i—cymerais ran ar Ddiwrnod Amser i Siarad, diwrnod sy'n hyrwyddo'r neges fod unrhyw ddiwrnod, unrhyw funud, unrhyw amser yn amser da i siarad am iechyd meddwl. Mewn gwirionedd fe drydarais, gyda chymorth fy ymchwilydd galluog iawn, rhaid imi ddweud, ond beth bynnag, ni wnaf—[Chwerthin.] Wyddoch chi, ni allwch drawsnewid rhywun yn llwyr, allwch chi? Nid dros nos, beth bynnag. Ond beth bynnag, hanner ffordd i lawr Rhodfa Lloyd George, wrth y gwaith celf cyhoeddus yno o ddau wyneb yn siarad, neu gusanu efallai—nid wyf yn gwybod; mae'n dibynnu ar eich dehongliad—sefais yno o'i flaen, a siarad am fy mhrofiad fy hun, a pha mor bwysig yw hi i siarad am iechyd a lles a gwellhad meddyliol.
Rwy'n credu y gallem gael gwasanaethau iechyd meddwl o safon sydd hyd yn oed yn well na'r rhai o'r radd flaenaf sydd gennym ar hyn o bryd, ac mae gennym rai o safon felly. Gadewch inni gydnabod hynny. Mae yna ymarfer gwych yng Nghymru. Ond gyda chyfres o ddeddfau gwirioneddol bellgyrhaeddol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 ac yn fwyaf diweddar, yr adolygiad seneddol, a phob un yn amlygu lefel o gonsensws ar draws y Cynulliad, credaf fod angen inni ddisgwyl mwy, dulliau sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, mwy o gynllunio rhwng cenedlaethau ar gyfer yr hyn y dylem ei ddarparu, a rhoi diwedd go iawn ar rwystrau rhwng iechyd corfforol a meddyliol o ran yr hyn y ceisiwn ei gyflawni.
Felly, rwy'n credu bod angen inni adeiladu ar yr ymarfer gwell pan ddaw'n amlwg. Dysgais yn ddiweddar am Mind Cymru a'u gwaith gyda meddygon teulu a byrddau iechyd lleol ar gyflwyno gwasanaethau atal yn fuan. Nawr, rwy'n ystyried bod hyn yn allweddol, ac maent yn monitro'n weithredol. Rwy'n falch o weld bod y cynllun monitro gweithredol wedi cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Hyd yma, mae'r monitro gweithredol wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau cychwynnol, gyda 38 o feddygfeydd teulu ar draws Cymru'n cynnig gwasanaethau i gleifion o dan y cynllun monitro gweithredol, a thua 433 o gleifion yn cael cymorth ar hyn o bryd. O'r cleifion hynny, gwellodd 71 o bobl a oedd wedi profi lefelau clinigol o bryder a phanig yn llwyr, gyda 54 y cant o'r bobl a oedd wedi profi lefelau clinigol o iselder yn gwella'n llawn.
Os caf fi ddweud, rwy'n tybio nad fi yw'r unig Aelod Cynulliad, ond rwy'n sicr fy mod i'n un sydd wedi cael nifer o episodau o byliau o banig? Mae'n ofnadwy o nychus. Mae'n cael effaith enfawr ar eich hyder a'r hyn y credwch y byddwch yn gallu ei wneud. Wedi i chi fynd drwy hynny, a phan fyddwch wedi cael y driniaeth, y cymorth, beth bynnag ydyw, mae'r boddhad a deimlwch, y lles a deimlwch, a'r sefydlogrwydd a deimlwch yn rhywbeth tu hwnt i fesur. Rwy'n meddwl bod unrhyw wasanaethau sy'n galluogi pobl i gyrraedd y cyflwr gwell hwnnw yn werthfawr iawn. Nid ydynt yn aml yn ddwys iawn. Nid ydym yn sôn am bobl â salwch difrifol. Gadewch inni gofio hynny. Gorbryder ac iselder a phyliau o banig: gallant fod yn rhan o salwch mwy difrifol, ond gall pobl nad ydynt yn ddifrifol wael o ran eu hiechyd meddwl fod yn agored i'r pethau hyn. Felly, gall salwch ysgafn i gymedrol fod yn nychus tu hwnt, a chael effaith enfawr ar yr economi yn ogystal, a bywyd teuluol a phob math o bethau.
David, a wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw?
Gwnaf.
Credaf nad yw hi ond yn deg i ganmol, ar y pwynt hwn, eich cyn gyd-Aelod Jonathan Morgan, pan oedd yn Aelod Cynulliad yma, a sicrhaodd fod Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn cael ei wthio drwodd yn 2010, Mesur sy'n ymwneud â bod atal yn well na gwella, triniaeth gynnar, therapïau siarad cynnar, ac rydym yn dal i aros i weld y Mesur iechyd meddwl hwnnw'n cael ei wireddu'n llawn.
Diolch i chi am hynny. Rwy'n falch iawn o gyfeirio at fy ffrind a fy nghyd-Aelod Jonathan Morgan, ac rwy'n gweld ei golli'n fawr yma, os caf ddweud. Ond yn hollol, ac roedd hwnnw'n newid yn ein hymarfer a'n dyheadau yng Nghymru. Yn olaf, a gaf fi gloi drwy ddweud fy mod yn croesawu gwelliant Plaid Cymru? Rwy'n meddwl ei fod yn ychwanegu at y cynnig, a hoffwn ddweud, o ran peth o'r metaddadansoddi a wnaed yn ddiweddar o raglenni ysgol ar gyfer iechyd meddwl a lles, dangoswyd bod eu heffeithiolrwydd yn eithaf rhyfeddol. A gwelodd y metaddadansoddi hwn fod cynnydd sylweddol wedi bod mewn perfformiad addysgol, gyda gwelliant o 11 y cant mewn cyrhaeddiad academaidd. Nawr, dyna sy'n digwydd pan fyddwch yn cefnogi pobl pan fyddant angen cefnogaeth ac yn atal pethau rhag gwaethygu. Gallwn ddweud llawer mwy, ond mae arnaf ofn nad oes gennyf amser. Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd.
Na, diolch i chi. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i ddechrau'r ddadl hon drwy gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Ac rwyf hefyd am nodi na fyddaf yn gallu ymateb i bob un o'r pwyntiau manwl a wnaed gan yr Aelodau yn y ddadl, ond rwyf wedi rhoi amser i wrando ar bob un o'r cyfraniadau a'r pwyntiau a wnaed. Wrth gwrs, fe gaf gyfle, fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg wedi nodi, i ateb cwestiynau manwl ar ddiwedd y dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad sydd ar y gweill. O gofio mai dwy awr yn unig a gaf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i siarad, rwy'n tybio efallai y bydd rhai cwestiynau eto i ni eu hateb mewn gohebiaeth wedyn, ac rwy'n cydnabod un o fy meiau fel person wrth wneud hynny.
Rwyf am ailddatgan bod y Llywodraeth hon yn cydnabod effaith problemau iechyd meddwl ar amrywiaeth eang o feysydd ac ar ein gallu i weithredu fel pobl, fel unigolion a chydag eraill, ond hefyd yn ailddatgan ein hymrwymiad i wella iechyd meddwl ledled Cymru, ac i fuddsoddi yn hynny. Ac wrth gwrs, fe wnaeth y Llywodraeth ailddatgan ein hymrwymiad a'n cydnabyddiaeth o bwysigrwydd allweddol iechyd meddwl drwy ei osod yn un o'r pum maes blaenoriaeth yn ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Ac yn bwysicach na hynny, nid her iechyd yn unig yw hon. Mae angen i Lywodraeth Cymru gyfan a'n partneriaid y tu allan i'r Llywodraeth ystyried effaith iechyd meddwl ar draws popeth a wnawn, oherwydd mae hwn yn fater cymhleth ac yn un na all y GIG ar ei ben ei hun fynd i'r afael ag ef. Felly, nid mater gwasanaeth cyhoeddus yw hwn. Mae'n fater sy'n torri ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector gwirfoddol a'r sector statudol, ac yn fater i bob cymuned yng Nghymru. Er enghraifft, mae magu plant, addysg, cyflogaeth a thai oll yn ffactorau amddiffynnol ar gyfer iechyd meddwl, ac os oes unrhyw un o'r rheini'n methu, yn aml bydd yn arwain at ganlyniadau iechyd meddwl. Roedd gan bobl fwy i'w ddweud am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac roeddwn yn falch o glywed Angela Burns yn nodi hynny yn ei sylwadau agoriadol.
Ategir dull trawsbynciol y Llywodraeth gan ystod o bolisïau, rhaglenni a deddfwriaeth a gyflwynwyd gennym i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru. Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn ddarn unigryw o ddeddfwriaeth drawsbleidiol a luniwyd i wella mynediad at wasanaethau, a'r ddarpariaeth ohonynt. Ac mae'r Mesur wedi helpu i ysgogi gwelliannau yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl ers ei roi ar waith yn 2012. Y Mesur hwnnw sydd wrth wraidd ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a gyhoeddwyd yn 2012. Mae'n defnyddio dull poblogaeth ar gyfer gwella lles meddyliol pobl yng Nghymru, ac i gefnogi pobl â salwch meddwl. Mae'n nodi'n glir ein gweithredoedd ni a gweithredoedd sefydliadau partner i wireddu'r strategaeth, ac ategir y dull hwn o weithredu gan fuddsoddiad sylweddol.
Rydym yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o GIG Cymru. Ac fel y cydnabuwyd, caiff gwariant ar iechyd meddwl ei glustnodi, a byddaf yn ystyried rhai o'r sylwadau a wnaeth Angela Burns ar hynny. Rydym wedi cynyddu cyllid, ac nid yn unig o'r blaen, gan y byddwn yn gweld cynnydd o £20 miliwn pellach yn yr arian a glustnodir ar gyfer iechyd meddwl i bron £650 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Ac ar ben y cynnydd cyffredinol hwnnw, mae £22 miliwn o gyllid wedi'i dargedu ar gyfer gwella mynediad at nifer o feysydd gwella gwasanaeth penodol ar gyfer pobl o bob oed yn y ddwy flynedd flaenorol. Yn hyn o beth, credaf fod gan y Llywodraeth yng Nghymru hanes da o wneud mwy na siarad am iechyd meddwl, oherwydd pan ddywedwn fod cynnydd yn mynd i fod yn yr arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, caiff ei wario yn y meysydd hynny.
Pan edrychwn ar y darlun dros y ffin yn Lloegr, buaswn yn dweud ei fod yn beth positif iawn fod y ddau Brif Weinidog diwethaf wedi sôn mor agored am iechyd meddwl. Yr her yno yw bod llawer o'r arian a fwriadwyd ar gyfer iechyd meddwl wedi mynd i'r llinell waelod ar gyfer gwasanaethau mewn gwirionedd. Felly, yn Lloegr, mae'n her iddynt ddal i fyny â pheth o'r cynnydd a wnaethom yn y maes hwn. Mae gennym yr her arall o barhau i wella yn y maes hwn er mwyn gwneud yn siŵr fod yr arian a wariwn yn sicrhau gwerth gwirioneddol ym mhob un o'n cymunedau. Ond dangoswyd y pwyslais a roddwn ar iechyd meddwl a'r ymrwymiad iddo'n gyson drwy'r Mesur, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac mae ein buddsoddiad a dargedwyd yn darparu sylfaen gadarn i ni fwrw ymlaen â'r weledigaeth drawsnewidiol y mae'r adolygiad seneddol yn ei mynnu gennym.
O ran mynediad at wasanaethau iechyd meddwl—mae pobl yn ei drafod yn rheolaidd ac yn briodol felly mewn gohebiaeth, wyneb yn wyneb, yn y coridorau, yn y Siambr, ac wrth gwrs mewn pwyllgorau hefyd—ein nod o hyd, a rhaid iddo fod, yw sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at y gofal cywir pan fydd ei angen arnynt, ni waeth am ffactorau eraill megis hil, rhywioldeb neu iaith. Mae hyn yn ymwneud â darparu'r gwasanaeth cywir. Felly, rydym yn gweithio gyda'r GIG a chyda phartneriaid trydydd sector i geisio sicrhau mynediad cyfartal i bawb. Er enghraifft, y bore yma, cyhoeddais ein cynllun dementia newydd a seiliwyd pob un o'r camau yn y cynllun dementia hwnnw ar yr egwyddor o fynediad teg.
Ond fel y soniodd Angela Burns, rydym yn cydnabod her go iawn y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae'n un o'r materion mwyaf arwyddocaol sy'n atal pobl rhag siarad am eu problemau a dod o hyd i gymorth ar y cyfle cynharaf posibl. Unwaith eto, yr her yno yw sut y mae pobl yn barod i wrando, i ddangos mwy o garedigrwydd at bobl o'u cwmpas, ac annog pobl ar yr un pryd i oresgyn y stigma a dweud, 'Rwyf angen help', a deall ble i ddod o hyd iddo.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch am dderbyn ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n llwyr gydnabod eich dull o ymateb i hyn, ond hoffwn ofyn i chi am eich barn ar y ddarpariaeth o ganolfannau gofal mewn argyfwng, oherwydd nid yw pobl yn robotiaid naw i bump ac mae gan bobl broblemau iechyd meddwl y tu allan i oriau ac ar benwythnosau. Rydych newydd sôn am fynediad at wasanaethau ac rydych newydd sôn am degwch a chydraddoldeb i bawb, ac eto mewn rhai byrddau iechyd, gwyddom nad yw'r cymorth hwnnw ar gael i bobl pan fydd ei angen arnynt.
Mewn gwirionedd, fel y byddaf yn nodi yfory, rydym yn adolygu rhai o'r heriau o ran darparu gwasanaethau iechyd meddwl, boed drwy CAMHS neu wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol. Buaswn yn disgwyl i'r adolygiad hwnnw ystyried y materion rydych wedi sôn amdanynt.
Ond wrth gwrs, yr her ynghylch stigma yw'r rheswm pam rydym yn parhau i gefnogi ymgyrch Amser i Newid Cymru. Rwy'n falch fod David Melding wedi sôn amdani, ac unwaith eto rwy'n cydnabod ei ddewrder yn rhannu ei brofiad ei hun o fynd drwy heriau iechyd meddwl a gallu dod allan ar yr ochr arall a dweud, 'Rwy'n cydnabod fy mod mewn lle gwell yn awr o ganlyniad.' Mae rhywbeth yno am annog mwy o bobl i wneud yr un peth, i fod yn agored am eu heriau eu hunain, i newid natur y ddadl gyhoeddus ond hefyd y ddadl breifat a gawn fel dinasyddion cyffredin hefyd.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd atal. Dyna pam y mae'n thema allweddol, ynghyd ag ymyrryd yn fuan, yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ac mae hynny'n cynnwys canolbwyntio ar gymorth nad yw'n glinigol. Felly, rydym yn awyddus i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gefnogi pobl gydag ystod ehangach o wasanaethau cymunedol nad ydynt yn rhai clinigol sy'n cynnig manteision gwirioneddol o ran iechyd a lles. Mae cynlluniau ar gyfer ein bond lles, a fydd yn cynnwys ffocws ar iechyd meddwl, yn cael eu cwblhau a byddaf yn edrych ymlaen at allu darparu mwy o wybodaeth i'r Aelodau ar hyn cyn bo hir. Rydym hefyd yn ymrwymedig i gynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer iechyd meddwl ac rydym ar y trywydd iawn i gael y cynllun peilot hwnnw ar waith o fis Ebrill eleni ymlaen.
Fel y cydnabuwyd yn gynharach gan amryw o bobl, gan gynnwys Angela Burns, mae gwreiddiau iechyd a lles yn gorwedd yn ein plentyndod. Mae'r profiadau a gawn wrth dyfu, y cymorth, y cysylltiadau, yr adnoddau sydd ar gael inni neu beidio, yn allweddol wrth bennu canlyniadau ein bywydau a pha mor wydn yr ydym i ymdrin â'r heriau y bydd bywyd yn eu cyflwyno i i ni. Dyna pam y mae'r Llywodraeth, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi ariannu canolfan gymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'r ganolfan arbenigol honno'n mynd i gynyddu dealltwriaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, cynyddu gwytnwch, cefnogi ac ysbrydoli unigolion, cymunedau a sefydliadau i ddysgu am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac i ddod yn fwy ymwybodol a newid meddylfryd ac ymddygiad.
Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen uchelgeisiol i wella mynediad at wasanaethau CAMHS arbenigol mewn ymateb i gynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr Aelodau'n gwybod ein bod wedi buddsoddi'n sylweddol yn hyn. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod ein bod wedi gosod safon newydd ar gyfer amser aros a'r her yn awr yw fy mod yn disgwyl gweld gwelliannau pellach a pharhaus yn y perfformiad o fis Mawrth ymlaen. Byddwn yn parhau i gyhoeddi ystod o ddata perfformiad mewn perthynas â mynediad, ar gael yn ôl mis a bwrdd iechyd unigol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phobl yn Siambr y Cynulliad hwn ac ar y tu allan i barhau i wella iechyd meddwl ym mhob cymuned ledled Cymru.
Diolch. Galwaf ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd i'r ddadl heddiw, dadl sydd wedi ysgogi'r meddwl? Roeddech i gyd yn wych. Fe sonioch am nifer o faterion o bwys. A gaf fi ddweud hefyd, yn gyntaf, mewn ymateb i sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod yn falch eich bod yn mynd i gefnogi'r cynnig heddiw? Cafodd ei gyflwyno mewn ffordd adeiladol ac un lle rydym yn gobeithio'n arw y gallwn symud y ddadl yn ei blaen. Wrth edrych ar sut y gallwch ymdrin â rhai o'r materion hyn, rwy'n gobeithio y byddwch yn edrych ar rai enghreifftiau byd-eang yn ogystal, oherwydd credaf fod llawer o arferion da i'w cael.
Ni allaf grybwyll sylwadau pawb heddiw, ond fe soniaf am rai o'r siaradwyr. Yn gyntaf oll, wrth agor, soniodd Angela Burns am bwysigrwydd cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae hwnnw'n bwynt mor bwysig, ac roeddech yn iawn i ddweud bod ACau yma sydd wedi siarad am eu profiad wedi bod yn allweddol i gael gwared ar y stigma a symud y ddadl hon yn ei blaen yn y gorffennol, ac mae hynny i'w ganmol. Fe sonioch hefyd am yr ystadegau hunanladdiad, a chredaf y byddaf yn eu cofio o'r ddadl hon fel rhai syfrdanol. Pan fydd y system hon yn methu, pan fydd pethau'n mynd o'i le, dyna rydych yn edrych arno ar ddiwedd hyn—rydych yn edrych ar golli bywyd ac mae angen ymdrin â hynny yn y ffordd a nodwyd gennych.
Dyna lle y daw Paul Davies i mewn, oherwydd bûm yn y digwyddiad Sefydliad DPJ a gynhaliodd Paul, ddoe rwy'n credu—mae amser yn hedfan. Roedd yn ddiddorol iawn gwrando ar y profiadau y mae pobl wedi bod drwyddynt—y problemau y maent hwy eu hunain wedi mynd drwyddynt a'r teuluoedd sydd wedi mynd drwy'r broses o ymdrin â hunanladdiad. Fe wnaethoch waith gwych ddoe, Paul. Daliwch ati, ac mae angen i Sefydliad DPJ barhau â'r gwaith da yn ogystal, oherwydd mae'n wirioneddol bwysig.
Lynne Neagle, fe nodoch chi'r angen am newid sylweddol o ran mynd i'r afael â'r materion hyn ac fe sonioch am newid y cwricwlwm gan ddod ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol at ei gilydd. Yn wir, gwnaethoch bwynt a wnaed yn ddiweddarach gan Ysgrifennydd y Cabinet fod hwn yn fater trawsbynciol; mae'n cyffwrdd â phob agwedd ar fywyd a phob agwedd y mae'r Llywodraeth yn ymdrin â hi. Felly, nid yw'n fater o roi hyn mewn un seilo ac ymdrin ag ef yno, mae gwir angen ymagwedd gydgysylltiedig. Soniodd Darren Millar am yr angen i gefnogi cyn-filwyr sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl.
David Melding, fe sonioch am Jonathan Morgan, fel y gwnaeth Dai Lloyd, a do, fe wnaeth lawer i symud hyn yn ei flaen. Wrth feddwl yn ôl, credaf mai ef oedd y person cyntaf i ddod â Mesur—y Mesur iechyd meddwl—i'r Siambr hon, a chafodd ei fabwysiadu yn nes ymlaen gan Lywodraeth Cymru. Nid yw yn y Siambr heddiw—wel, nid yn gorfforol, beth bynnag—ond mae yma mewn ysbryd, felly rwy'n gobeithio ei fod yn gwylio'r ddadl hon ac y bydd yn deall ein bod yn gwerthfawrogi'r hyn a wnaeth.
A gaf fi ddweud wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, y buaswn yn hoffi ailadrodd galwad allweddol Angela, mewn gwirionedd, yn ei chyfraniad, pan ddywedodd ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targed i bawb allu cael mynediad at therapïau seicolegol o fewn 28 diwrnod? Dyna alwad bwysig iawn. Gobeithio y gallwn gyflawni hynny hyd yn oed os na allwn gyflawni pethau eraill, Ysgrifennydd Cabinet, ac y gallwn sicrhau bod y therapïau hynny, fod y driniaeth yno pan fydd ei hangen ar bobl.
Yn olaf un, mae nifer o Aelodau'r Cynulliad wedi crybwyll yr ymgyrch Amser i Newid Cymru. Mae Bev Jones sy'n helpu i redeg yr ymgyrch ac sydd wedi'i sefydlu yn byw yn agos, yn fy mhentref, felly rwy'n adnabod Bev yn dda iawn, a gwn pa mor ymroddedig hi i achos iechyd meddwl ac mor falch yw hi ein bod yn cael y ddadl hon heddiw.
Mae'r ystadegau'n dweud y cyfan. Bydd y rhan fwyaf ohonom, bob un ohonom, naill ai'n cael problem iechyd meddwl yn ystod ein bywydau neu'n cael ein heffeithio ganddo mewn rhyw ffordd drwy ein ffrindiau a'n teuluoedd. Felly, rwy'n falch eich bod yn cefnogi'r ddadl hon. Rwy'n annog pawb i bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw, a gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith o newid Cymru, oherwydd mae'r amser hwnnw wedi dod.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes? Felly, mae'r cynnig—[Torri ar draws.] Mewn pryd. Rhaid ichi fod yn gynt na hynny. Buaswn wedi disgwyl i chi fod ar flaenau'ch traed, fel chwaraewr rygbi, ond dyna ni. Iawn. Symudwn ymlaen at y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. A oes rhywun am i'r gloch gael ei chanu? Nac oes.