Ffordd Liniaru'r M4

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 1:30, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Dywedodd y Prif Weinidog wrthym yn 2015 y byddai'r prosiect yn costio, a dyfynnaf, 'ddim yn agos at £1 biliwn.' Mae'n debyg, mewn un ystyr, bod hynny'n gywir gan y nodwyd bod y gost tua £1.4 biliwn erbyn hyn. Os bydd y Cynulliad yn cefnogi'r llwybr du yn y bleidlais yr ydym ni'n mynd i'w chael nawr, sut gallwn ni ymddiried yn Llywodraeth Cymru i'w ddarparu am gost dderbyniol pan nad ydych chi wedi dangos unrhyw allu i wneud hynny hyd yn hyn, a bod y costau ar ffordd Blaenau'r Cymoedd allan o reolaeth? A ydych chi'n gofyn i'r Cynulliad ysgrifennu siec gwag i chi?