Mawrth, 27 Chwefror 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
O dan Reol Sefydlog 12.58, bydd arweinydd y tŷ, Julie James, yn ateb y cwestiynau ar ran y Prif Weinidog heddiw. Y cwestiwn cyntaf, Mark Reckless.
1. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ar ôl cyrraedd pa gost y bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar ddewisiadau amgen i gynlluniau arfaethedig presennol ar gyfer ffordd liniaru'r M4? OAQ51826
2. Pa neges allweddol y mae Prif Weinidog wedi cymryd wrth yr arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru? OAQ51827
Cwestiynau nawr gan arweinwyr a chynrychiolwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chlybiau ysgol bwyd a hwyl yr haf hwn? OAQ51822
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau’r defnydd o blastig yng Nghymru? OAQ51811
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i fonitro categorïau ymateb y gwasanaethau ambiwlans? OAQ51825
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ51792
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i Mudiad Meithrin yn y flwyddyn ariannol 2018/19? OAQ51790
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am asesiad Llywodraeth Cymru o effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Islwyn? OAQ51805
Yr eitem nesaf, credwch neu beidio, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, gan no other than arweinydd y tŷ, Julie James, wearing her other hat. Julie James.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd) ar 22 Chwefror 2018, ac rydw i'n galw ar...
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy'n addas i'r dyfodol'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i siarad ar...
Eitem 5: datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gyrhaeddiad uchel—cefnogi ein dysgwyr mwy abl a thalentog. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y datganiad....
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar fapiau rhwydwaith integredig teithio llesol, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet...
Mae Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma wedi'i ohirio tan 13 Mawrth.
Rydym ni wedi symud i eitem 8, sef datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ynglŷn ag ailgylchu yng Nghymru, a galwaf ar y Gweinidog, Hannah Blythyn, i wneud y datganiad.
Yr eitem nesaf, felly, ar ein hagenda ni yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Mesur Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau). Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd...
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gweithdrefnau a ddilynir gan barafeddygon wrth ymateb i achosion o ataliad ar y galon?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia