Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 27 Chwefror 2018.
Ie, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt teg. Yn anffodus, roeddwn i ychydig yn hŷn na 13 oed ar ddechrau hyn. Nid fawr yn hŷn, yn amlwg. [Chwerthin.] Ceir nifer fawr o oblygiadau cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag ystyriaethau'r ymchwiliad cyhoeddus, a bydd angen i ni ystyried dewisiadau ar ôl i ni gael canlyniad yr ymchwiliad, a bydd yn rhaid i hynny gynnwys amseriad y penderfyniad hefyd, y costau a'r cynllun busnes, fel y dywedais. Ond, yn sicr, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r problemau difrifol ar yr M4 o amgylch Casnewydd, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yma yn gwrando ar eich sylwadau, ac rwy'n siŵr ei fod wedi eu clywed.