Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 27 Chwefror 2018.
Arweinydd y tŷ, un peth sy'n bwysig iawn, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod darpariaeth gofal plant ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol, ac, yn wir, y tu allan i wyliau'r ysgol. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i'r pryderon a fynegwyd gan y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ac, yn wir, y Gymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar am y cosbau y gallai neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod, brodyr a chwiorydd eu hwynebu os ydynt yn gwarchod ar ran eu perthnasau? Does bosib nad ydym ni eisiau bod yn annog teuluoedd i rannu cyfrifoldebau gofalu, nid eu hatal drwy eu cosbi oherwydd newid Llywodraeth Cymru i'w chanllawiau y llynedd.