Clybiau Ysgol Bwyd a Hwyl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 1:53, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mewn partneriaeth â CLlLC, byddwn yn parhau i gynyddu nifer yr awdurdodau lleol a'r ysgolion sy'n rhedeg y cynllun hwn trwy roi £500,000 arall ar gael yn ystod 2018-19. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gysoni agendâu, er enghraifft, trwy leihau profiadau andwyol yn ystod plentyndod neu gynyddu lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon.