Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 27 Chwefror 2018.
Arweinydd y tŷ, tynnodd arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru sylw at y ffaith nad meddygon a nyrsys yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth am iechyd, mae'n debyg oherwydd yr anhawster o gael apwyntiad gyda meddyg teulu neu nyrs practis. Mae'n sefyllfa'n cael ei gwneud yn llawer gwaeth gan benderfyniadau annoeth gan lywodraeth leol. Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu torri cymorthdaliadau bysiau, a rhoi terfyn ar wasanaethau sy'n cwmpasu llawer o Borthcawl, gan ei gwneud yn amhosibl i rai trigolion gyrraedd y ganolfan iechyd newydd. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw penderfyniadau llywodraeth leol yn effeithio ar allu pobl i gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol?