Monitro Categorïau Ymateb y Gwasanaethau Ambiwlans

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:04, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Fy nealltwriaeth yw bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi gofyn i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans adolygu'r broses o fonitro galwadau oren er mwyn lleihau'r amser y mae'r rheini â'r amseroedd ymateb hiraf yn ei aros ac ystyried sut yr ymdrinnir â'r galwadau oren. Felly, rwy'n siŵr ei fod wedi clywed y pwynt ychwanegol hwnnw yr ydych chi wedi ei wneud ac y bydd yn cymryd hynny i ystyriaeth.