Effaith Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Islwyn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:17, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi bod mewn trafodaethau estynedig gyda Llywodraeth y DU am y parch at y setliad datganoli fel y nodwyd yn y Bil ymadael o'r UE. Ein nod fydd cyflwyno Bil—y Bil parhad—ac rwy'n falch iawn, fy hun, o weld Steffan yn y Siambr y prynhawn yma. Byddwn yn cyflwyno'r Bil parhad hwnnw i sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y Bil ymadael o'r UE ac y gallwn ddiogelu felly ein heconomi, ein swyddi a'n rhagolygon ar gyfer y dyfodol.