Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 27 Chwefror 2018.
Os caf i godi dau beth gydag arweinydd y tŷ. Yn gyntaf oll, rwy’n gweld, o’r datganiad busnes, bod cyflwyno'r Bil parhad yr wythnos nesaf. Mae teitl newydd mor hirwyntog gyda’r Bil erbyn hyn, ond y Bil parhad, chwedl Steffan Lewis. Ac, wrth gwrs, fe gawn ni ddatganiad yn y man gan yr Ysgrifennydd Cabinet—rwy’n deall hynny. Rwyf i jest eisiau gofyn i chi ynglŷn â threfn y Cynulliad o ddelio â’r Bil yma. Byddwn ni, yn gyntaf oll, rwy’n credu, yn penderfynu a ydym yn ei dderbyn fel Bil brys, ac wedyn yn mynd ymlaen, os ydym yn derbyn hynny, i wneud hynny.
Felly, a fedrwch chi ddweud wrthym ni am ba hyd yr ydych chi’n disgwyl i’r Bil yma gael ei drafod a phenderfynu arno, un ffordd neu’r llall, gan y Cynulliad? Ac a fydd amser o gwbl, yn ystod y broses yna, ar gyfer craffu gan bwyllgor? Mae’n ymddangos i fi, er fy mod i’n deall ei fod yn Fil brys, bod y Bil, wrth gwrs, wedi bod yn yr arfaeth ers yr haf, o leiaf, ac mae’n ymddangos i mi’n golled ein bod ni wedi sefydlu pwyllgor penodol i edrych ar faterion Brexit—nid dim ond Brexit, ond yn bennaf Brexit—o dan gadeiryddiaeth Dai Rees, os nad oes amser i’r pwyllgor yma o leiaf gael cyfle i edrych ar y Bil ac i gynnal rhyw fath o adborth yn ôl gan bobl ynglŷn â’r Bil. Felly, jest cadarnhad o’r drefn yn hytrach na’r polisi. Cawn ni gyfle i holi am y polisi yn y man—rwy’n gwybod hynny.
Yr ail beth yr hoffwn i ofyn amdano yw datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â’r sefyllfa bancio yng Nghymru, ac yn enwedig bancio yng nghefn gwlad. Mae hwn yn bwnc sydd wedi cael ei godi sawl gwaith, rwy’n gwybod, gan Aelodau o bob plaid yma, ond rwy’n ei godi heddiw, gan y byddwn i’n hoffi i’r Llywodraeth edrych ar Fil sy’n cael ei gyflwyno gan fy nghydweithiwr Ben Lake heddiw yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’r Bil, o dan y rheol 10 munud, yn sefydlu tair egwyddor bwysig, rydw i’n meddwl, a defnyddiol iawn inni edrych arnynt o safbwynt bancio yng Nghymru, a chefn gwlad yn benodol
Yn gyntaf, mae'n edrych ar sut mae modd newid y protocol ynglŷn â mynediad at fancio o un o bellter i un o amser i gyrraedd. Pan ydych chi’n meddwl am beth sy’n digwydd yng nghefn gwlad, mae pellter, weithiau, yn gallu bod yn gymharol fyr, ac mae’r amser i gyrraedd yn gallu bod llawer mwy, yn enwedig gan ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Yr ail egwyddor y mae’n gofyn amdano yw bod y rheoleiddwyr bancio yn edrych ar y posibiliad bod banciau gwahanol yn gallu rhannu safleoedd, rhannu offer a rhannu staff os oes angen. Nawr, wrth gwrs, bydd eisiau newid y rheoliadau er mwyn caniatáu hynny, ond medrwch chi weld sut y mae hynny yn gallu bod o fudd i nifer o'r trefi cefn gwlad, a byddwch chi’n ymwybodol bod hyn wedi digwydd yng nghyd-destun telegyfathrebu symudol, er enghraifft. Felly, mae’n rhywbeth y dylem fod yn agored iddo fe.
Y drydedd egwyddor ynddo fe yw’r un sy’n edrych i ehangu’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan Swyddfa'r Post. Weithiau, mae Swyddfa'r Post yn gallu cynnig gwasanaeth clodwiw, ond nid yw bob tro yn ddefnyddiol ar gyfer busnesau, yn enwedig busnesau sy’n dal i ddelio ag arian, er enghraifft.
Felly, mae’r tair egwyddor hynny yn y Bil, rydw i’n meddwl, yn werth eu hystyried gan y Llywodraeth, a byddwn i'n licio cyfle i'w trafod nhw, ac efallai i glywed gan y Llywodraeth hefyd beth yw eu barn nhw am y Bil yma, neu unrhyw beth tebyg sy'n mynd i wella sefyllfa bancio yng Nghymru.