2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:40, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Yn dilyn y sylwadau a wnaed yn flaenorol am y gweithredu diwydiannol gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau ynghylch cynllun pensiwn y prifysgolion, a fydd, fel rydym ni wedi clywed, yn golygu bod pensiynau darlithwyr yn ddibynnol ar fympwyon y farchnad stoc, ond yn ôl First Actuarial bydd hefyd yn gadael darlithydd cyffredin â £200,000 yn llai o incwm pensiwn. A gaf i ddweud bod Plaid Cymru yn cefnogi streiciau'r UCU a'n bod ni'n sicr yn cefnogi eu galwadau ar brifysgolion yn y DU i lunio cynnig gwell? Nid wyf yn fodlon gwneud dim ond gofyn i'r Llywodraeth wneud datganiad. A gaf i ofyn: a fydd y Llywodraeth hon a arweinir gan Blaid Lafur Cymru yn cefnogi streic UCU yn ddigamsyniol fel y gallwn ni i gyd dynnu at ein gilydd a rhoi pwysau ar Universities UK i gynnig bargen well a thecach ar eu pensiynau?