Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 27 Chwefror 2018.
Ydy, mae'r Aelod yn llygad ei le, rwy'n ateb cyfres o gwestiynau yfory—rwy'n credu y gallai ei gwestiwn ef fod yn un ohonyn nhw—ar yr union bwynt hwn. Cyn gynted â bod gennym ni fanylion llawn cynllun Cyflymu 2, byddaf yn ei gyhoeddi. Ond dim ond i ailadrodd fy mhwynt blaenorol, ni fydd yn gynllun addas i bawb, ac rydym ni'n edrych i'w addasu ledled Cymru i fod yn briodol i gymunedau penodol. Os yw'r Aelod eisiau fy ngwahodd i i gymuned benodol i glywed eu pryderon, ac i weld a oes cynllun cymunedol hyfyw yno, byddaf yn hapus iawn i wneud hynny.