Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 27 Chwefror 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn heddiw i ddiweddaru'r Aelodau ar garreg filltir fawr yng ngweithrediad ein Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Yn dilyn cyflwyno a chymeradwyo'r mapiau sy'n dangos y llwybrau teithio llesol presennol yn 2016, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau teithio llesol integredig fis Tachwedd diwethaf, ac mae'r rhain wedi'u hasesu'n llawn erbyn hyn.
Mae'r Ddeddf teithio llesol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno map rhwydwaith integredig o fewn tair blynedd i'r adeg pan ddaw'r Ddeddf i rym. Gwnaeth y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd ymestyn y dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno gan chwe wythnos i 3 Tachwedd 2017 oherwydd yr etholiadau llywodraeth leol a'r anhawster posibl i ymgynghori ar y mapiau drafft yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
Heddiw, mae awdurdodau lleol wedi cael penderfyniad ar y mapiau rhwydwaith integredig a gyflwynwyd ganddynt. Rhoddodd fy swyddogion gymorth rheolaidd i'r awdurdodau, gan gynnwys drwy weithdai a nodiadau cyngor. Ymgysylltodd y rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol yn llawn yn y broses gan fynychu amrywiaeth o weithdai a gynhaliwyd gennym ledled Cymru i'w helpu i ddatblygu eu mapiau integredig. Fe wnaethom hefyd gomisiynu prosiect a oedd yn treialu elfennau o'r broses o baratoi mapiau rhwydwaith integredig. Gwnaeth y prosiect, a gomisiynwyd gyda Sustrans, weithio gyda nifer o awdurdodau lleol drwy rai o'r camau allweddol wrth lunio map rhwydwaith integredig gan ddatblygu arferion da a lledaenu gwersi a ddysgwyd.
Rwy'n falch bod 21 o'r 22 o awdurdodau lleol wedi cyflwyno eu mapiau ar amser. Rhoddodd Cyngor Sir Fynwy wybod i'm swyddogion ar 5 Medi na fyddai'n gallu cyflawni'r terfyn amser. Ym mis Hydref, cyflwynwyd cyfarwyddeb i Gyngor Sir Fynwy ac maen nhw yn awr i fod i gyflwyno eu mapiau rhwydwaith integredig yfory.
Mae'r holl fapiau rhwydwaith integredig a gyflwynwyd wedi'u hasesu yn erbyn y gofynion a nodir yn y Ddeddf a'r canllawiau statudol. Gan fod y fersiwn gyntaf hon o weithrediad y Ddeddf yn broses o ddysgu i bawb ohonom ni, penodais yr Athro John Parkin ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr fel dilysydd annibynnol. Gofynnwyd iddo edrych ar ganlyniadau'r arfarniad i sicrhau eu bod yn gyson ac yn rhesymol ac i helpu i ddod i benderfyniad cadarn. Roeddwn i'n meddwl bod ymrwymiad yr awdurdodau lleol ledled Cymru yn rhagorol ynghyd â safon y rhan fwyaf o'r cyflwyniadau.
Efallai yn anochel yn y cylch cyntaf hwn, mae amrywiaeth o ddulliau wedi'u defnyddio gan awdurdodau wrth ddatblygu'r mapiau hyn, ac mae llawer iawn o amrywiaeth yn lefelau'r uchelgais a fynegwyd yn y mapiau hyn. Ar sail yr arfarniad a gynhaliwyd gan fy swyddogion ac asesiad yr Athro Parkin, rwyf wedi gwneud y penderfyniadau canlynol: rwy'n falch o allu cymeradwyo cyflwyniadau 14 o awdurdodau lleol yn llwyr, oherwydd eu bod nhw wedi dangos bod eu cynigion yn seiliedig ar ymgysylltu ystyrlon ac yn ffurfio map rhwydwaith integredig cam cyntaf credadwy. Mae grŵp arall o gyflwyniadau sy'n disgyn ychydig yn is na'n disgwyliadau, naill ai yn y modd yr ymgysylltwyd ac yr ymgynghorwyd â'r cymunedau yn y broses, neu o ran cydlyniad eu rhwydweithiau arfaethedig. Ar gyfer y rhain, rwyf wedi penderfynu cymeradwyo'r mapiau ar yr achlysur hwn, gydag argymhellion clir ar gyfer mynd i'r afael â'r gwendidau hyn.
Rwy'n siomedig bod cyflwyniadau gan bedwar awdurdod lleol yn anaddas i'w cymeradwyo ar eu ffurf bresennol oherwydd bod yr awdurdodau lleol hyn naill ai wedi methu ag ymgynghori'n effeithiol ar eu cynigion neu oherwydd nad ydyn nhw'n cynnig rhwydweithiau teithio llesol ystyrlon, ac, mewn rhai achosion, roedd y ddau beth yn wir am eu cyflwyniadau. I'r awdurdodau lleol hynny, byddaf yn cyflwyno cyfarwyddeb iddyn nhw ailgyflwyno eu cynigion erbyn 27 Awst eleni. Byddwn yn eu cefnogi drwy gydol y cyfnod hwn yn barhaus. Darparodd y dilysydd annibynnol argymhellion penodol ar feysydd y dylid rhoi sylw iddynt, a bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i sicrhau cynnydd buan. Rydym ni hefyd yn gwneud argymhellion i awdurdodau eraill i dynnu sylw at feysydd i'w gwella. Man cychwyn yw'r mapiau rhwydwaith integredig cyntaf hyn; rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol barhau i weithio ar y mapiau rhwydwaith hyn a'u mireinio drwy drafod â'u cymunedau. Fel hyn, pan fydd yn rhaid iddyn nhw eu cyflwyno eto ymhen tair blynedd, bydd y broses yn llawer symlach.
Nawr bod y mapiau rhwydwaith integredig cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru wedi'u sefydlu gennym, mae gennym ni sylfaen gadarn i wireddu'r rhwydweithiau cerdded a beicio hyn ac i gael mwy o bobl i gerdded a beicio yng Nghymru. Rwyf bellach wedi cael y ceisiadau ar gyfer y rownd nesaf o grantiau trafnidiaeth lleol, a bydd llawer ohonyn nhw'n gynlluniau teithio llesol, a byddaf yn cyhoeddi pa gynlluniau a gaiff eu cyllido y mis nesaf. Byddaf yn parhau i geisio ategu'r cyllid hwn eleni yn ystod y flwyddyn pryd bynnag y daw cyfle i gael gafael ar gyfalaf ychwanegol, fel yr wyf wedi'i wneud eleni. Dyrennais dros £8 miliwn o arian cyfalaf ychwanegol i gynlluniau sydd er budd teithio llesol ar gyfer 2017-18 i hybu'r cynlluniau presennol ac ariannu prosiectau ychwanegol. Rwyf hefyd wedi comisiynu adolygiad ehangach o sut yr ydym ni'n ariannu teithio llesol ac i edrych ymlaen at y gofynion yn y dyfodol. Fy mwriad yw cynyddu faint yr ydym yn ariannu teithio llesol ac yr ydym yn ei roi ar gael yn ganolog ar gyfer seilwaith yn sylweddol, a byddaf yn rhannu mwy o fanylion ar hyn gyda chi cyn bo hir.
Mae'r mapiau integredig yn cynrychioli cyfle gwych i gynllunio'n gydgysylltiedig. Rwy'n annog awdurdodau lleol a chyrff eraill i sicrhau bod cynlluniau a rhaglenni eraill yn eu hystyried ac, yn bwysig, yn eu defnyddio yn rhagweithiol i sicrhau cyllid o amrywiaeth o ffynonellau eraill. Pan fyddwn yn llwyddo i greu'r rhwydweithiau hyn, a phan gânt eu defnyddio'n dda, byddwn i gyd yn elwa ar well iechyd a llai o gostau gofal iechyd, llai o dagfeydd, llai o lygredd aer ac allyriadau, ac, yn gyffredinol, lleoedd gwell. Mae cyflawni hyn yn gyfle ac yn gyfrifoldeb ar y cyd i bob un ohonom ni yng Nghymru.