Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 27 Chwefror 2018.
Wrth gwrs, rwy'n croesawu cynnwys yr adroddiad gan y Llywodraeth heddiw ac yn nodi, fel yr oedd David Melding hefyd, fod hwn yn ffrwyth ymdrech genedlaethol, nid yn unig gan y Llywodraeth, ond gan yr awdurdodau lleol ar lawr gwlad yn ogystal, a bod y ffaith bod Cymru wedi'i lleoli'i hun yn wlad werdd ym mhob ystyr y gair mewn perthynas ag ailgylchu yn dangos beth y medrwn ni ei wneud gyda'r grymoedd priodol ar lefel genedlaethol, a beth y medrwn ni ei wneud tuag at y dyfodol. Rwy'n sylwi bod y Gweinidog wedi bennu gyda'r gosodiad y gallem ni ddod ar ben y brig ar gyfer ailgylchu erbyn 2020, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n troi'n darged, nid yn unig yn uchelgais.
Ac mae gan y Llywodraeth record ddeche i'w ymfalchïo ynddi hi yn y maes yma, ond nid da lle gellir gwell, fel mae'r hen ymadrodd yn ei ddweud, ac rydw i jest eisiau holi ychydig o gwestiynau nawr am rai o'r pethau sydd efallai yn fwy niwlog yn y datganiad gan y Gweinidog heddiw. Yn gyntaf oll, bydd llawer yn gofyn: ble mae'r adroddiad erbyn hyn ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr? Roedd yr adroddiad i fod wedi cael ei gyhoeddi'r mis yma. Rydw i'n cofio gofyn i'r Prif Weinidog tua mis yn ôl, ac fe ddywedodd e rhywbryd ym mis Chwefror y byddem ni'n gweld yr adroddiad, ac rwyf i jest eisiau bod yn glir nad yw'r oedi yma yn rhywbeth sydd yn ein dal ni nôl rhag gwneud rhywbeth yng Nghymru y medrwn ni ei wneud, yn aros i rywbeth, er enghraifft Llywodraeth San Steffan i benderfynu, neu beth bynnag. Achos mae'r record yn ddigon clir: rŷm ni'n gallu arloesi yn y fan hyn. Nid oes rhaid i ni aros am weddill y Deyrnas Gyfunol yn y materion yma; rŷm ni'n gallu eu harwain nhw, a dweud y gwir, ac maen nhw'n gallu dal i fyny gyda ni. Ond yr hyn sydd yn bwysig yn y cyd-destun yna yw rwy'n credu bod nifer o bobl erbyn hyn, dinasyddion, sydd yn poeni yn enwedig am blastig a'r defnydd yr oedd David Melding yn sôn amdano, yn chwilio am arweiniad gan y Llywodraeth. Maen nhw'n sylweddoli bod y dinesydd ond yn gallu mynd mor bell. Ond erbyn i chi fynd i mewn i'r siop fawr neu'r archfarchnad, nid oes gennych chi dewis. Wel, mi fedrwch chi dynnu'r holl wisg ymaith o'r nwyddau, wrth gwrs, fel maen nhw'n dueddol o wneud yn yr Almaen, ond nid dyna beth sydd yn ddiwylliannol dderbyniol yn y wlad yma. Ond, yn sicr, nid oes dewis; nid oes unrhyw beth arall y medrwch chi ei wneud. Mae yna ddatblygiadau diddorol iawn. Rydw i'n edrych ymlaen at ymweld â siop newydd yng Nghrug Hywel wythnos nesaf o'r enw Natural Weigh—'weigh' yn yr ystyr o 'bwyso'—sydd yn ceisio gwneud popeth heb unrhyw blastig, ac yn gwerthu yn rhydd fel yna. Dim ond dychwelyd ydym ni, wrth gwrs, i'r hyn roeddem ni'n arfer byw, gyda rhai o'r dulliau yma rydym ni'n eu gwneud. Ond, yn sicr, mae'r adroddiad yna ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr yn bwysig, rydw i'n meddwl, i ddangos ein bod ni'n cymryd arweiniad cenedlaethol.
Yr ail beth rydw i eisiau gofyn i chi amdano yw'r dreth blastig. Roeddwn i'n siomedig nad hynny oedd y dreth oedd wedi'i dewis gan y Llywodraeth achos, yn sicr, nid ydw i wedi gweld unrhyw fater yn cydio cweit yn nychymyg pobl—yn amgylcheddol, beth bynnag—yn ystod y chwe mis diwethaf na phlastig a'r defnydd o blastig. Ond a fedrwch chi ddiweddaru'r Cynulliad gydag ychydig mwy o'r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid drwy ddweud nawr bod y Llywodraeth yn bwriadu cydweithio ar y cysyniad o dreth blastig ar y cyd gyda Llywodraeth San Steffan? Beth, felly, a fedrwn ni ddisgwyl i ddigwydd nawr? A beth yw’r camau i ni ddilyn drwyddo'r posibiliadau ar gyfer treth neu lefi ar blastig un defnydd maes o law?
Rwy’n croesawu eich bod chi wedi cyhoeddi £7.5 miliwn, rydw i’n meddwl, ychwanegol ar gyfer y rhaglen ar y cyd ag awdurdodau lleol, ond un o’r cwestiynau sydd yn dal i gael eu holi, gan ddinasyddion eto, yw: pam nad yw’n gyson dros Gymru beth sy’n cael ei ailgylchu a beth sydd ddim yn cael ei ailgylchu felly? Mae’r ffordd rydw i’n ailgylchu fan hyn yng Nghaerdydd, pan wyf i’n sefyll yng Nghaerdydd, yn wahanol i’r ffordd rwy’n ailgylchu yn Aberystwyth—ac mae Aberystwyth ar y blaen, wrth gwrs, ond mater arall yw hwnnw. Byddai fe’n ddiddorol i wybod beth yr ydych chi’n ei wneud i safoni pethau bellach dros Gymru, gan fod pobl yn teithio o le i le, ac, fel yr oeddech chi’n cyfeirio ato eich hunan, os ŷch chi ar y stryd, â photel yn eich llaw ac ŷch chi eisiau ei rhoi yn rhywle priodol, wel, eto, mae’n amrywio. Yng nghanol ambell i le, yng nghanol ambell i dref a dinas, fe gewch chi rhywle i roi’r botel yna; mewn dinasoedd eraill a threfi eraill, chewch chi ddim lle i roi unrhyw beth o’r fath.
A’r cwestiwn olaf yw’r cwestiwn ar flaendal, y cynllun blaendal—rydw i’n croesawu, wrth gwrs, bod yna arian yn y gyllideb ar gyfer cynllun o’r fath. Fel rwy’n credu sydd yn glir erbyn hyn, mae’r cynlluniau hyn yn gweithio—maen nhw’n gweithio dramor, maen nhw’n gweithio ar y cyfandir. Y cwestiwn i Gymru, rydw i’n meddwl, yw: ym mha ffordd y gall cynllun cydweithio â’r system sydd gyda ni? Rwy’n gweld beth sydd gyda chi yn eich datganiad—roedd David Melding wedi cyfeirio ato fe hefyd—ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gofio, er ein bod ni’n llwyddiannus yn ailgylchu’r poteli plastig, neu’r poteli sydd yn cyrraedd y ffrwd sbwriel felly, mae yna dipyn sydd ddim yn cyrraedd y ffrwd yna, ac mae cynllun blaendal, rydw i’n meddwl, yn ceisio mynd i’r afael â’r poteli sydd yn cael eu twlu ar y stryd, neu sydd jest yn cael eu rhoi yn y biniau sbwriel, sydd heb gael mynd mewn i’r posibiliad hyd yn oed o ailgylchu.
Nid ydw i’n meddwl ein bod yn ailgylchu cymaint o blastig ag yr ŷm ni’n meddwl ein bod ni’n ei ailgylchu, achos nid ydym ni’n cyfrif y plastig sydd yn cael ei waredu drwy’r brif ffrwd sbwriel. Os edrychwch chi ar Norwy, lle maen nhw’n llwyddo ailgylchu dros 90 y cant o blastig, mae’n cynnwys pob darn o blastig sydd yn cael ei werthu neu sy’n mynd drwy’r system, a dyna beth yr ŷm ni eisiau anelu ato fe, ac, yn fy marn i, dyna le mae’r cynllun blaendal a’r posibiliadau i ychwanegu at ein tasgau ailgylchu. Ymhlyg yn y geiriau niwlog, os liciwch chi, yn y datganiad fan hyn, yw’r ffaith bod plastig yn werthfawr, wrth gwrs, a’r ffaith nad yw pob un eisiau ildio, efallai, rheolaeth dros ffrwd werthfawr o sbwriel sydd, ar hyn o bryd, yn dod ag arian i mewn. Ond gyda, fel yr ŷch chi’n ei ddweud, y newidiad sydd yn digwydd yng ngwledydd fel Tsieina, nid ydym ni eisiau jest switsio Tsieina i Fietnam cyn belled ag y mae plastig yn y cwestiwn—rydym ni eisiau ein gweld ni yn mynd i’r afael â’r broblem yma yng Nghymru, defnyddio pob darn o blastig sydd yn gallu cael ei ailgylchu, neu ailddefnyddio cymaint ag sydd yn bosibl, ac mae cynllun blaendal yn rhan o hynny.