Part of the debate – Senedd Cymru am 7:14 pm ar 27 Chwefror 2018.
Dim ond i ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â chi ac roeddwn i'n meddwl tybed a allai fod achos dros ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a wnaiff ef adolygu pam y mae cyn lleied o erlyniadau wedi bod. I fynd yn ôl i fy achos ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, flwyddyn ar ôl blwyddyn maen nhw wedi cael y nifer uchaf o ymosodiadau a'r nifer isaf o erlyniadau. Felly, rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle i nodi bod rhywbeth, rhywle yn mynd o'i le ac mae'n rhaid inni anfon neges gref nad yw'n dderbyniol i ymosod ar bobl.