Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 28 Chwefror 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod y ffigurau defnyddiol iawn hynny gennych o'ch blaen, byddwn ar fai pe na bawn yn eich holi ynglŷn â fy awdurdod lleol fy hun, os caf fentro bod yn blwyfol. Cyngor Sir Fynwy—pa gyfran y byddant hwy yn ei derbyn o'r £30 miliwn hwnnw? Rydym wedi clywed faint y bydd Caerffili yn ei dderbyn, felly os gallwch roi diweddariad inni ar hynny, byddai hynny'n wych. A hefyd, o ran rhannu’r arian hwnnw yn ehangach, sut rydych yn rhagweld y bydd yn cael ei rannu rhwng awdurdodau trefol a gwledig, oherwydd mae'n amlwg fod nifer fawr o ffyrdd gwledig mewn cyflwr gwael ac mewn perygl o gau, ac mae'n llawer drytach ceisio cynnal rhai o'r ffyrdd hynny yn rhai o'n hawdurdodau gwledig yng Nghymru?