Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 28 Chwefror 2018.
Lywydd, nid oes neb yn synnu bod Nick Ramsay wedi defnyddio'r cyfle i ofyn y cwestiwn a ofynnwyd ganddo. Efallai y bydd yn fwy o syndod i’r Aelodau fy mod yn gwybod yr ateb. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn derbyn £921,218 o ganlyniad i'r grant hwn. Dosbarthwyd y grant cyfalaf o £30 miliwn gan ddefnyddio elfen drafnidiaeth y fformiwla gyffredinol ar gyfer cyllid cyfalaf, a chytunwyd ar y fformiwla hon gyda llywodraeth leol. Hoffwn ddweud wrth ateb y cwestiwn fy mod yn credu ei bod yn bwysig sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu'n deg rhwng ardaloedd trefol a gwledig, rhwng y gogledd a'r de, yn ôl anghenion yr ardal, a gobeithiaf y bydd y fformiwla ariannu sydd ar gael inni yn gwneud yn union hynny.