Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 28 Chwefror 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ôl-groniad o waith atgyweirio ffyrdd yn effeithio'n niweidiol ar bobl yn fy rhanbarth, Gorllewin De Cymru. Mae un o fy etholwyr yn methu mynd â'i wraig sydd mewn cadair olwyn allan o’u cartref oherwydd cyflwr y palmentydd o amgylch eu cartref. Pan gysylltodd â’r cyngor, dywedwyd wrtho ei fod ar waelod rhestr hir iawn o atgyweiriadau. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith atgyweirio, sy'n cau pobl yn eu cartrefi, yn niweidio eu cerbydau ac yn arwain at anaf personol?