Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 28 Chwefror 2018.
Mi fuaswn i'n awgrymu bod yr Aelod yn ailddarllen y blog, efallai, a darllen tu hwnt i'r paragraffau cyntaf, am beth roeddwn yn trio ei ddweud yn fanna. Beth roeddwn i'n trio'i ddweud oedd bod eisiau perthynas tipyn bach yn fwy aeddfed rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth a hefyd trio symud i ffwrdd o'r math o drafodaeth yr ydym ni wedi ei chael yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Roeddwn i'n gweld eich bod yn darllen eich ail gwestiwn. Mi fuasai wedi bod yn rhwyddach petai chi wedi gwrando ar yr ateb i'r cwestiwn cyntaf, achos mi ddywedais i yn glir fanna nad fi oedd wedi rhoi o'r neilltu gynigion fy rhagflaenydd. Llywodraeth leol oedd wedi gwneud hynny ac felly, oherwydd hynny, mae'n rhaid i fi ailystyried safbwynt llywodraeth leol ac rydw i'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Pan fyddaf i wedi cael amser i ystyried y ffordd ymlaen, byddaf yn dod â datganiad i'r Cynulliad.