Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 28 Chwefror 2018.
Wel, mae'n swnio o hynny mai'r unig beth sydd wedi cael ei gyflawni ydy gwastraffu miloedd o bunnoedd o bres trethdalwyr ac amser swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ôl ymgynghoriad a chynigion ar ddeddfu a fydd rŵan yn cael eu hanwybyddu. O leiaf efo'r Papur Gwyn diweddaraf, mi oedd yna ffordd ymlaen nad oedd yn gorfodi awdurdodau i uno. A gaf i ofyn i ddechrau pa drafodaethau a gafwyd yn y Cabinet cyn i chi benderfynu rhoi'r gorau i ddilyn gwaith eich rhagflaenydd chi? Wedyn, a fedrwch chi egluro i ni heddiw beth ydy'r camau gweithredol nesaf, felly? A fyddwch chi rŵan yn rhoi'r gorau'n llwyr i'r Papur Gwyn a chanlyniadau'r ymgynghoriad a ddaeth yn sgil hwnnw? Beth fydd yr amserlen ar gyfer y tro pedol yma? Ac a fyddwch chi'n creu map newydd ar gyfer uno cynghorau? Ai dyna ydy'r bwriad? Ac os mai hynny ydy'r bwriad, sut ydych chi'n mynd i lwyddo lle methodd Leighton Andrews?