Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:38, 28 Chwefror 2018

Diolch yn fawr. Rydw i wedi cael cyfle i ddarllen eich blog chi, lle rydych chi'n trafod diwygio llywodraeth leol, ac roeddwn i'n falch iawn, yn y lle cyntaf, eich bod chi'n crybwyll mai ymateb ydyw, o ryw fath beth bynnag, i gwestiwn y gwnes ei ofyn yn fan hyn i chi ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â'r math o steil roeddech chi am ei fabwysiadu pan yn delio efo llywodraeth leol. Ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi eich ysgogi chi i feddwl, o leiaf, am hynny i gyd.

Mae'r ddadl am ddiwygio llywodraeth leol yn un sydd wedi bod yn danllyd, ac yn un sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd, ond heb unrhyw ddatrysiad. O ddarllen eich blog chi, mae'n swnio fel eich bod chi'n barod i roi unrhyw gynnydd gafodd ei wneud gan eich rhagflaenydd chi, Mark Drakeford, o'r neilltu, ac yn meddwl dechrau eto unwaith eto. Felly, a gaf i ofyn: yn y pedair blynedd diwethaf, wrth i'ch Llywodraeth chi geisio diwygio llywodraeth leol, beth yn union sydd wedi cael ei gyflawni?