Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 1:39, 28 Chwefror 2018

Llywydd, rwy'n falch iawn bod fy mlog wedi plesio o leiaf un Aelod fan hyn, ac rwy'n falch iawn ei bod hi wedi'i ddarllen e o leiaf. A gaf i ddweud hyn: beth roeddwn i'n trio'i ddweud yr wythnos diwethaf pan oeddwn i'n ysgrifennu hynny, oedd trio gosod, ac ailosod, perthynas fwy aeddfed rhwng rhannau gwahanol o'r ffordd rydym ni'n llywodraethu Cymru, ac nid wyf i'n credu bod hynny wedi bod mewn lle drwy'r amser yn ystod y degawd diwethaf.

Nid yw'n wir fy mod i wedi gwneud unrhyw benderfyniad o'r fath y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio. Mi wnaeth llywodraeth leol eu hunain dweud nad oeddent eisiau cymryd a symud ymlaen gyda'r fath awgrymiadau a chynigion roedd fy rhagflaenydd wedi eu gwneud ynglŷn â gweithio'n rhanbarthol. Nid fy mhenderfyniad i oedd hwnnw, ond penderfyniad llywodraeth leol oedd hwnnw ac roedd aelodau o lywodraeth leol wedi trafod hynny yn eu seminar yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd. Felly, wrth ysgrifennu hynny, roeddwn i'n ymateb i beth roedd llywodraeth leol yn ei ddweud ac nid yn dweud beth roeddwn i'n ei ddweud.