Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch, Lywydd. Er bod ymateb Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2017 i adroddiad y pwyllgor dethol ar amddiffyn, a oedd yn ymateb i adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog, yn cynnwys sylwadau ar gynnydd—a defnyddiwyd y gair 'cynnydd'—yng Nghymru, nid oes adolygiad annibynnol wedi bod eto ar gynnydd a darpariaeth ledled Cymru ers sefydlu cyfamod y lluoedd arfog. Chi sy'n arwain polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r lluoedd arfog a chyn-filwyr. Pa gynigion sydd gennych felly i gynnal neu gomisiynu adolygiad annibynnol o gynnydd a/neu roi sylw i argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a wnaed gan ymchwiliad pwyllgor lluoedd arfog y Cynulliad i weithrediad cyfamod y lluoedd arfog?