Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 28 Chwefror 2018.
Credaf fod yr Aelod yng nghyfarfod y grŵp hollbleidiol yn gynharach y mis hwn pan oeddwn yn bresennol i ateb cwestiynau ar y materion hynny. A gaf fi ddweud fy mod yn gyfforddus iawn ar hyn o bryd gyda lefel y ddarpariaeth o ran yr hyn y gallwn ei wneud ar gyflawni cyfamod y lluoedd arfog a'n gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr? Credaf y bydd angen inni fynd ychydig ymhellach yn y dyfodol. Cafwyd rhai argymhellion da iawn gan y grŵp hollbleidiol. Mewn atebion blaenorol, rwyf wedi ymrwymo i ystyried pob un o'r argymhellion hynny, a maes o law, pan fyddaf wedi cael cyfle i wneud hynny, byddaf yn rhoi ymateb llawn ar y holl faterion hynny. Ond cytunaf yn llwyr â llefarydd y Ceidwadwyr fod y rhain yn faterion difrifol sy'n galw am ymagwedd ddifrifol.