Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 28 Chwefror 2018.
Mae hynny'n awgrymu i fi nad oedd e'n runner iddyn nhw. Rydych chi'n cytuno efo nhw, ac felly rydych chi'n mynd i roi'r gorau i'r polisi yna. Dyna oedd y polisi yn y Papur Gwyn. Felly, nid wyf i'n deall beth rydych chi'n drio ei ddweud yn union. Mi fuasai cael eglurder yn ddefnyddiol iawn. Felly, a fedrwch chi gadarnhau heddiw yma a fydd eich gweledigaeth chi, ar sail beth rydych chi wedi ei glywed gan lywodraeth leol, yn cynnwys cydweithio rhanbarthol mandadol fel oedd yn y cynigion gwreiddiol?