Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch. Er y £100,000, rwy'n credu, o gyllid parhad ychwanegol a ddarparwyd ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr, nododd yr adroddiad, neu argymhellodd yr adroddiad, y dylid adolygu'r cyllid ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr a sefydlu targedau ar gyfer mynediad at y gwasanaeth, a chyhoeddi perfformiad yn erbyn y targedau yn rheolaidd. Pan drafodwyd hyn gennym ym mis Tachwedd, roedd y rhestrau aros ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr yn naw mis yn ardal Abertawe ac yn bum neu chwe mis, ar gyfartaledd, mewn mannau eraill. Er eu bod wedi sicrhau tair blynedd o gyllid ychwanegol gan Help for Heroes i gyflogi tri therapydd amser llawn er mwyn lleihau'r rhestrau aros, roeddent yn disgwyl y byddai'r amseroedd aros yn codi eto heb gymorth ychwanegol. Ac maent hefyd wedi darparu ffigurau i mi sy'n dangos mai 45 y cant yn unig o'r cyn-filwyr y maent yn gweithio â hwy neu a atgyfeiriwyd atynt sydd mewn gwaith. Sut yn union rydych yn ymgysylltu â GIG Cymru i gyn-filwyr er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd iechyd, yn cael yr holl wybodaeth o ran (a) lefel y galw a (b) eu hargymhellion er mwyn mynd i'r afael â hynny?