Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn awyddus i ofyn ychydig gwestiynau, os caf, ynghylch eich datganiad diweddar ar ddiwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru. Un o'ch diwygiadau arfaethedig yw ymestyn y bleidlais i bobl 16 ac 17 oed. Un o'r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ddiweddar i gefnogi'r newid hwnnw yw egwyddor dim trethiant heb gynrychiolaeth, ond nodaf nad yw pobl 16 a 17 oed i fod i dalu'r dreth gyngor mewn gwirionedd, ac mae ffigurau CThEM ar gyfer 2014-15 yn awgrymu mai oddeutu 15 y cant yn unig o bobl 16 a 17 oed sy'n talu unrhyw dreth incwm. Felly, credaf fod ymestyn y bleidlais yn nod canmoladwy, ond tybed: a oes dadl efallai y gallem ymestyn y bleidlais i rai pobl 16 a 17 oed ond efallai y dylid ei hymestyn i'r rheini sy'n talu treth mewn gwirionedd?