Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 28 Chwefror 2018.
Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud, ond gallaf ddweud wrtho fod y penderfyniad i ymestyn y bleidlais i bobl 16 a 17 oed mewn etholiadau lleol—ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud yr un peth maes o law—yn ymwneud ag ymestyn a dyfnhau'r etholfraint er mwyn galluogi pobl yn ein cymunedau drwyddi draw i chwarae rhan weithredol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyfodol y cymunedau hynny. Yn sicr, barn y Llywodraeth hon, a'r rhan fwyaf o'r pleidiau yn y Siambr hon, rwy'n credu, yw y dylai pobl 16 a 17 oed yn bendant allu cymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau gwleidyddol, ac y dylent allu pleidleisio a chymryd rhan yn y penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu bywydau a bywydau eu ffrindiau, cymdogion a theuluoedd. Credaf ein bod ar ganol proses o adnewyddu a newid ar hyn o bryd. Edrychaf ymlaen at ymestyn yr etholfraint er mwyn ein galluogi i gynnal etholiadau lleol ar yr etholfraint newydd, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn ceisio sicrhau y bydd yr holl wladolion tramor sy'n byw yn ein cymunedau hefyd yn cael pleidleisio.