Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 28 Chwefror 2018.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn adnewyddu'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd ar hyn o bryd. A gaf fi ddweud hyn? Cofiaf i'r Aelod roi cyfweliad i'r cyfryngau yn ystod yr ymgyrch etholiadol lle y dywedodd nad oedd byth yn canfasio, byth yn curo ar ddrysau pobl, gan ei fod yn ystyried hynny'n ymyrraeth ofnadwy ar eu bywydau. Hoffwn awgrymu bod yr Aelod yn curo ar rai drysau ac yn siarad â phobl y mae'n gobeithio eu cynrychioli. Pe bai'n gwneud hynny, byddai'n gweld rhai pobl 16 a 17 oed brwdfrydig iawn—pobl ifanc sy'n awyddus i chwarae rhan yn y broses o lunio dyfodol eu cymunedau, pobl ifanc â'r wybodaeth a'r weledigaeth ar gyfer yr hyn y maent yn dymuno'i weld yn y dyfodol. Felly, nid wyf o'r un farn ag ef, ond rwy'n derbyn bod angen inni sicrhau, drwy adnewyddu'r cwricwlwm, fod y cwricwlwm yn cynnwys y materion hyn yn llawn. Ond efallai bod gennyf lawer mwy o ffydd mewn pobl 16 ac 17 oed na'r Aelod o UKIP.