Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 28 Chwefror 2018.
Ie, fe nodoch y pwynt pwysig fod angen y wybodaeth ar bobl. Os ydych am roi'r cyfrifoldeb o bleidleisio iddynt, mae angen y wybodaeth arnynt, a chredaf fod hwnnw'n bwynt hollbwysig. Nawr, fe ddywedoch chi yn eich datganiad:
'Mewn ysgolion, bydd y thema dinasyddiaeth weithgar mewn addysg bersonol a chymdeithasol yn rhoi dealltwriaeth i bobl ifanc o wleidyddiaeth a'r hawl i bleidleisio.'
Dyna ddiwedd eich dyfyniad. Nawr, yn ddiweddar, mae ymgyrchwyr ifanc—sy'n cefnogi'r hyn rydych yn ei wneud ac sy'n awyddus i'r bleidlais gael ei hymestyn i bobl 16 a 17 oed—wedi dweud bod llawer ohonynt yn teimlo nad yw'r hyn sydd ganddynt mewn ysgolion ar hyn o bryd o ran y thema dinasyddiaeth weithgar, y cyfeirioch chi ati, yn ddigonol mewn gwirionedd ar gyfer rhoi'r wybodaeth wleidyddol honno iddynt. Felly, tybed a oeddech yn gobeithio newid yr elfen honno o'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, gan weithio gyda'r Gweinidog addysg, neu a yw eich datganiad yn nodi eich bod yn credu bod y system addysg yn darparu'r wybodaeth honno i bobl 16 a 17 oed ar hyn o bryd?